Tîm Denu Myfyrwyr ac Ehangu Cyfranogiad

Mae ein Tîm Denu Myfyrwyr ac Ehangu Cyfranogiad yn darparu cyngor a chymorth am addysg uwch.
Mae’r tîm yn teithio drwy Brydain yn ymweld ag ysgolion, yn mynd i gynadleddau UCAS a digwyddiadau gyrfaoedd, a hefyd yn trefnu diwrnodau rhagflas ar y Campws.
Gall aelodau o’n tîm ymweld â’ch ysgol neu’ch coleg yn rhad ac am ddim i siarad â chi a’ch athrawon/cynghorwyr am bob agwedd ar wneud cais i ddilyn cwrs addysg uwch.
P’un a hoffech i ni ddod draw atoch chi, neu ei bod yn well gennych weld ein hadnoddau drosoch eich hun, mae ein tîm yma i ddarparu gwybodaeth ddefnyddiol a diduedd am addysg uwch.
Yma yn Aberystwyth rydym yn annog pobl i wneud eu dewisiadau ar sail gwybodaeth – edrychwch ar yr adran hon i weld sut y gallwn eich helpu chi i wneud eich penderfyniad.
- Hwb Adnoddau Ar-lein
- Prifysgol Haf
- Cyflwyniadau a sgyrsiau
- Trefnu digwyddiad
- Cwrdd â’n Tîm
- Dosbarthiadau Meistr Pwnc-benodol
- Diwrnodau Agored - grwpiau ysgolion