Datganiad Covid-19
Y mae Prifysgol Aberystwyth yn dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru ac mae ar gau ar gyfer ymwelwyr di-anghenraid. Fydd diogelwch ein staff, myfyrwyr ac ymwelwyr yn parhau i fod yn brif flaenoriaeth.
Beth mae hyn yn ei olygu i chi?:
- Mae ein llety ymwelwyr ar gau ar gyfer defnydd cyffredinol. Rydym yn cynnig llety ar gyfer rhai staff GIG a gweithwyr allweddol mewn cytundeb a’r gyfraith diweddaraf, ond nid ydym yn medru cynnig llety ar gyfer unrhyw ymwelwyr eraill.
- Y mae cadw pellter Cymdeithasol a mesuriadau “lockdown” yn golygu na all gweithgareddau fynd yn eu blaen. Rydym yn cysylltu gyda’n holl gwsmeriaid er mwyn cyd-weithio i ail drefnu eu digwyddiadau a’r gyfer y dyfodol pan yn bosibl.
- Mae ein gwasanaeth arlwyio ar gau ar hyn o bryd ag eithrio gwasanaeth cludo “NoshDa”. Gellir lawrlwytho app “NoshDa” nawr.
Mae’r Swyddfa Gynadleddau yn parhau i weithio o adref ac yn gweithio yn galed i gadw fewn cysylltiad a’n cwsmeiriaid. Yn y gobaith y byddwn yn medru ail agor ein drysau yn fuan, rydym yn rhoi canllawiau yn eu lle ar gyfer glanhau dwys, digwyddiadau pellter Cymdeithasol a chofrestru di-gyffwrdd, ynghyd a mesuriadau eraill, er mwyn sicrhau awyrgylch ddiogel ar gyfer pob digwyddiad.
Os dymunwch gysylltu a ni gellir gwneud hynny ar conferences@aber.ac.uk. Gobeithiwn eich gweld yn fuan.