Ymchwil

Myfyriwr mewn amgylchedd labordy yn astudio planhigion

O dyfu cnydau bioynni Miscanthus i astudio hanes canoloesol ac archwilio’r blaned Mawrth, mae Aberystwyth wedi hen ennill enw da fel prifysgol sy’n cael ei harwain gan ymchwil.

Ymhlith ein darlithwyr mae academyddion sydd ar flaen y gad yn eu priod feysydd, ac a fydd yn rhannu â chi y syniadau a’r darganfyddiadau diweddaraf yn eu meysydd pwnc. Yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil diweddaraf (FfRhY 2021), barnwyd bod 98% o’r ymchwil a gyflwynwyd gan academyddion Prifysgol Aberystwyth o safon ryngwladol ac rydym yn parhau i feithrin ein cryfderau hanesyddol wrth i ni hefyd wthio ffiniau newydd yn ein gwybodaeth a’n dealltwriaeth.