Ieithoedd Modern – Gwobrau Adrannol Blynyddol

Bob blwyddyn, mae’r adran yn dyfarnu’r gwobrau canlynol i rai o’n myfyrwyr.

Gwobr David Trotter


Tan ei farwolaeth annhymig yn 2015, roedd yr Athro David Trotter yn Athro Ffrangeg a Phennaeth yr Adran Ieithoedd Modern ers 1993. Roedd yr Athro Trotter yn awdurdod rhyngwladol ar ieithyddiaeth Ffrangeg hanesyddol a Ffrangeg ganoloesol ac ef oedd arweinydd prosiect y Geiriadur Eingl-Normanaidd a gyllidir gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC), prosiect a leolwyd ym Mhrifysgol Aberystwyth. Yn ogystal â’i amlygrwydd fel ymchwilydd, roedd yn addysgwr ysbrydoledig a phoblogaidd ac yn Bennaeth Adran ymroddedig.
Rheoliadau:
Mae’r adran yn dyfarnu gwobr flynyddol er cof amdano i gydnabod yr ieithydd gorau o blith yr israddedigion ar eu blwyddyn olaf (h.y. y perfformiad gorau mewn modiwlau iaith gan fyfyriwr sy’n astudio dwy neu dair iaith yn yr Adran).

Gwobr André Barbier mewn Ffrangeg


Sefydlwyd ym 1948 gydag arian a gasglwyd gan gyn-fyfyrwyr o’r Adran Ffrangeg yn deyrnged i’r Athro J L André Barbier, Athro Ffrangeg yn y Coleg o 1909 tan 1944.
Rheoliadau:
Mae Gwobr André Barbier yn cael ei dyfarnu bob blwyddyn i fyfyriwr yn y Brifysgol sydd, ym marn y Bwrdd Arholi, wedi cyrraedd y safon uchaf yn nhraethawd hir y Flwyddyn Dramor mewn Ffrangeg. Bydd gan y Senedd, serch hynny, yr hawl yn dilyn cyngor y Bwrdd Arholi, i beidio â dyfarnu’r wobr yn unrhyw flwyddyn os na fernir bod un traethawd yn ddigon teilwng, neu i’w rhannu rhwng ymgeiswyr cyfartal eu teilyngdod. Fel arfer disgwylir i’r wobr gael ei defnyddio i brynu llyfrau cymeradwy ond, gyda chaniatâd y Senedd, gellir ei defnyddio i ddibenion cymeradwy eraill.

Gwobr David a Margaret Evans mewn Almaeneg


Sefydlwyd yn 1972 gan Wynn Anthony James Evans a Roland Wynton Evans, (meibion y diweddar David Evans, Athro mewn Almaeneg 1936-1952) er mwyn hyrwyddo ac annog dysgu’r Almaeneg a llenyddiaeth Almaenig yn y Coleg.
Rheoliadau:
1.    Cynigir un neu fwy o Wobrau David a Margaret Evans mewn Almaeneg yn flynyddol.
2.    Dyfernir y Gwobrau gan y Senedd, ar argymhelliad yr Athro mewn Almaeneg, i fyfyrwyr –
    (a) sydd wedi dangos rhuglder mewn Almaeneg a llenyddiaeth Almaenig
        neu
    (b) a fyddai’n elwa fwyaf o deithio yn yr Almaen neu wlad arall Almaeneg ei hiaith.
3.    Os bydd arian yn crynhoi am na chafodd y gwobrau eu dyfarnu neu am unrhyw reswm arall, gellir ei ddefnyddio i ychwanegu at y cyfanswm gwreiddiol.

Gwobr Rhiannon Davies mewn Ffrangeg


Gwobr a sefydlwyd ym 1988 gan deulu Mrs Rhiannon Davies er cof amdani ac i goffau ei statws fel athrawes a chyfieithydd Ffrangeg.
Rheoliadau:
1.    Bydd Gwobr yn cael ei dyfarnu’n flynyddol.
2.    Bydd myfyrwyr a fu’n astudio Ffrangeg ac yn astudio pwnc arall hefyd yn llwyr neu’n rhannol trwy gyfrwng y Gymraeg yn gymwys i dderbyn y Wobr.
3.    Bydd y Wobr yn cael ei dyfarnu i fyfyriwr sy’n cwrdd â’r gofynion ym mharagraff 2 ac yn ennill y marc uchaf yn y gwaith cyfieithu Ffrangeg yn y flwyddyn olaf.
4.    Gellir penderfynu peidio â dyfarnu’r Wobr neu ei rhannu os ceir teilyngdod cyfartal.
5.    Dyfernir y Wobr gan y Senedd ar argymhelliad y Bwrdd Arholi ar gyfer Ffrangeg.
6.    Gellir defnyddio arian sy'n crynhoi am na chafodd y gwobrau eu dyfarnu neu am unrhyw reswm arall.

 

Glynis R. Thompson Bursary Award

A £1,000 bursary for applicants to an MA, MPhil or MRes course within the Department of Modern Languages. The prize is awarded on the basis of a 500-word research proposal (not including bibliography). Each proposal is read by two staff members, designated by the PG tutor, who will each assess the proposal’s relevance and rigour. UG results (projected UG results for current Final Year students) may be used to decide between proposals of equal merit.

  • How to apply: Applications should be sent to the central departmental address ieithoeddmodern@aber.ac.uk with the subject line Glynis R. Thompson Bursary.
  • Deadlines: 1 April (for September entry)
  • Selection Criteria: Applicants must hold an undergraduate degree of at least 2(1) (applicants in the final year of their undergraduate degree are welcome to apply, and to forward their degree results to us in due course). At least one of the main languages taught in the department (French, German, Italian, Spanish) must have been part of the student’s Undergraduate degree (joint honours students combining a language with another subject are eligible).
  • Awarding body:
  • Further information: Please email the Department if you have any questions - ieithoeddmodern@aber.ac.uk