Module Information
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | Cyfraniad ir broses ymarfer a pherfformio | 70% |
Asesiad Semester | Dyddlyfr Ymarfer ac Ymchwil | 30% |
Asesiad Ailsefyll | Gan fod hwn yn fodiwl ymarferol a gyflwynir yn ystod ail semeter y drydedd flwyddyn, ni ellir cynnig asesiad atodol llawn i fyfyrwyr syn mynnu graddio ar ddiwedd y flwyddyn honno. Rhoddir cyfle ir myfyrwyr hynny na fedrodd gwblhaur elfen ymarferol, neu a fethodd y modiwl oherwydd ennill marc isel yn yr elfen ymarferol, i gyflwyno gwaith ysgrifenedig yn seileidig ar y cynhyrchiad gwreiddiol fel asesiad atodol. Os methir yr elfen ysgrifenedig or modiwl, rhaid ailgyflwynor gwaith hwnnw yn ddiymdroi neu oedi blwyddyn cyn graddio ai ailgyflwyno yn ystod y cyfnod ailsefyll fis Awst. |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Wrth gwblhau'r modiwl hwn, fe ddylai myfyrwyr sy'n cyrraedd safon gyffredin fedru cyflawni'r canlynol:
1. amlygu eu gallu i gyfansoddi a defnyddio sgor perfformio, yn seiliedig ar fethodau neilltuol
2. arddangos eu dealltwriaeth o ofynion y broses greadigol, yn unigol ac o fewn grwp, mewn ymarferion ac mewn perfformiadau
3. arddangos eu hymwybyddiaeth o'r berthynas annatod rhwng y broses hyfforddi, ymarfer a pherfformio, o safbwynt eu hymarfer a'u myfyrdod beirniadol ar yr ymarfer hwnnw
4. cyd-weithio a chyfranogi fel perfformwyr o fewn y grwp, gan amlygu galluoedd corfforol a lleisiol datblygiedig fel sy'n gymwys yn ol gofynion y dasg
Cynnwys
Cynhyrchiad ymarferol.
Nod
Bydd y modiwl yn roi cyfle i fyfyrwyr arddel a gweithredu'r sgiliau a'r wybodaeth a enillwyd ganddynt yn ystod eu cynllun gradd mewn Astudiaethau Perfformio trwy gymryd rhan mewn cynhyrchiad datblygiedig llawn.
Bydd y cynhyrchiad yn fodd i'r myfyrwyr archwilio'r cysyniad o destun yng ngwaith y perfformiwr ac asesu'r berthynas rhwng testun y ddrama, testun y perfformiwr a thestun y perfformiad
Disgrifiad cryno
Fe fydd cyfarwyddwr y cynhyrchiad yn gofyn i'r myfyrwyr baratoi yn ofalus yn gorfforol ac emosiynol yn ol gofynion eu rol, adfyfyrio a dadansoddi eu gwaith creadigol i safon uchel, ac archwilio a myfyrio ar gorff y perfformiwr fel offeryn cynrychioliadol
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Bydd yr elfen ymarferol a'r elfen ysgrifenedig o'r modiwl yn hyrwyddo sgiliau cyfathrebu. Disgwylir i'r myfyriwr weithio'n ddyfal yn ystod y cyfnod ymarfer i ddatblygu technegau cyfathrebu corfforol a lleisiol a fydd yn briodol i egwyddorion a thechnegau cyflwyno cyffredinol y cynhyrchiad yn ei gyfanrwydd. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Ni fydd gwaith y modiwl yn arwain yn uniogyrchol at ystyriaethau gyrfaol. |
Datrys Problemau | Bydd elfen o ddatrys problemau creadigol ymhlyg yn ymdrech y myfyrwyr i greu rôl iddyn nhw eu hunain o fewn y cynhyrchiad gorffenedig. |
Gwaith Tim | Fe fydd y modiwl yn rhoi cryn bwyslais ar y modd y mae myfyrwyr yn cydweithio fel rhan o dîm creadigol. Er y bydd pwyslais digamsyniol ar greu sgôr unigol, fe fydd meini prawf asesiad y modiwl hefyd yn pwysleisio gallu a pharodrwydd y nyfyrwyr i ymroi i gydweithio â'u cydfyfyrwyr er lles cyffredinol y cynhyrchiad. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Gan mai un cynhyrchiad yn unig a asesir yn y modiwl hwn, ni fydd cyfle i fyfyrwyr wella'u dysgu a'u perfformiad eu hunain. Disgwylir y bydd y myfyrywr, ar sail eu profiad academaidd ac ymarferol blaenorol, eisoes wedi datblygu'u gwaith i lefel uchel erbyn ymgymryd â'r modiwl hwn. |
Sgiliau ymchwil | Fe fydd ymchwil personol yn elfen bwysig o waith y myfyrwyr wrth baratoi cymeriad a sgôr perfformiadol ond nid asesir medrau ymchwil y myfyrwyr yn uniongyrchol fel rhan o'r modiwl |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6