Module Information

Cod y Modiwl
CY10110
Teitl y Modiwl
THEMAU A FFIGURAU LLEN C.550-1900
Blwyddyn Academaidd
2008/2009
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Cyd-Ofynion
I'r rhai a fyn ddilyn cwrs gradd yn y Gymraeg: CY10210, CY10310, CY10410
Elfennau Anghymharus
CY10510, CY10610, CY10710, CY10810, CY12220
Rhagofynion
Cymraeg (Iaith Gyntaf) Safon Uwch (fel arfer, ond nid o raid)
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlithoedd 22 Hours.
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Semester 2 Awr   70%
Asesiad Semester Traethodau: 2,000 o eiriau  30%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

1. Dylai myfyrwyr a fydd wedi dilyn y cwrs hwn fod yn gyfarwydd a^ rhai o brif fannau llenyddiaeth Gymraeg o'r chweched ganrif hyd ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

2. Byddant yn gyfarwydd a^ rhai cysyniadau beirniadol wrth ymdrin a^ llenyddiaeth hanesyddol.

3. Byddant yn ymwybodol o rai o'r syniadau a'r symudiadau Ewropeaidd a ddylanwadodd ar lenyddiaeth Gymraeg ar hyd y canrifoedd.

4. Gallant osod rhai darnau o farddoniaeth a rhyddiaith Gymraeg yn eu cyd-destun hanesyddol a chymdeithasol.

Disgrifiad cryno

Arolwg beirniadol o hanes llenyddiaeth Gymraeg o'r Oesoedd Canol hyd at Ddaniel Owen. Trafodir gweithiau unigol, gwahanol fathau o lenyddiaeth, prif syniadau llenyddol y cyfnodau dan sylw, a pherthynas llenyddiaeth Gymraeg a^ llenyddiaethau eraill a ddylanwadodd arni o dro i dro.


Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4