Module Information

Cod y Modiwl
DA25720
Teitl y Modiwl
DAEARYDDIAETHAU CYFALAFIETH HWYR
Blwyddyn Academaidd
2008/2009
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Elfennau Anghymharus
GG25610
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlithoedd 11 x 2 hours
Seminarau / Tiwtorialau 6 x 2 hours
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Ailsefyll 2 Awr   Arholiad dibaratoad. Ateb dau gwestiwn allan o bedwar.  50%
Arholiad Semester 2 Awr   Arholiad dibaratoad. Ateb dau gwestiwn allan o bedwar  50%
Asesiad Ailsefyll Cyflwyniad llafar pryd y disgwylir i fyfyrwyr gysylltu themau'r darlithiau a digwyddiad neu broses cyfoes allweddol.  20%
Asesiad Ailsefyll Cylchgrawn ymchwil lle mae myfyrwyr yn ystyried themau allweddol sy'n codi yn y darlithiau.  30%
Asesiad Semester Cyflwyniad llafar lle mae disgwyl i fyfyrwyr gysylltu themau'r darlithiau a digwyddiad neu broses cyfoes allweddol.  20%
Asesiad Semester Cylchgrawn ymchwil lle mae myfyrwyr yn ystyried themau allweddol sy'n codi yn y darlithiau  30%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

  1. Dangos eu bod yn deall y newidiadau allweddol sy'n digwydd o fewn daearyddiaeth y gyfalafiaeth gyfoes gan ganolbwyntio'n benodol ar ranbarthau Gorllewin Ewrop a Gogledd America.
  2. Gwerthuso'n feirniadol rhai ymdriniaethau damcaniaethol cyfoes ar ddaearyddiaeth y newidiadau economaidd, gwleidyddol, dinesig a diwylliannol.
  3. Integreiddio'r ymdriniaethau damcaniaethol hyn a^ dehongliadau o brosesau empirig "gweladwy" mewn gwahanol ofodau dinesig, rhanbarthol a chenedlaethol o fewn cyfalafiaeth "orllewinol".
  4. Dangos tystiolaeth o ddyfnder eu darllen, eu gallu i ddehongli a gwerthuso arfer academaidd a pholisiau cyfredol drwy drefnu trafodaeth ar lafar ac yn ysgrifenedig.

Cynnwys

Darlith 1 Cyflwyniad
Darlith 2 Ailstrwythuro Economaidd: Cysyniadu Newid
Darlith 3 Roger a mi
Darlith 4 Cyfalafiaethau Amgen?
Darlith 5 Ymgorffori Cyfalafiaeth? Nwyddau, Cylchdroadau a 'Cyborgs'
Darlith 6 Cyflwyno Cyfalafiaeth? Tai, Iechyd, Addysg
Darlith 7 Daearyddiaethau Dinesig Newydd? Y Ddinas Entreprenwraidd
Darlith 8 Daearyddiaethau Gwleidyddol Newydd? Newidiadau yn y wladwriaeth
Darlith 9 Ystyried y Drefn Lywodraethol
Darlith 10 Ymfudo a Dinasyddiaeth
Darlith 11 Arolwg a Strategaethau Arholiad

6 Seminar yn dilyn darlithiau 1, 3, 5, 7, 9 a 10

Disgrifiad cryno

Yn y modiwl hwn cyflwynir myfyrwyr i thema^u allweddol daearyddiaeth economaidd gyfoes. Mae'n archwilio'r newidiadau allweddol sy'n digwydd o fewn economi gofod cyfalafol cyfoes a'r drefn wleidyddol a chymdeithasol gysylltiedig. Yn benodol, mae'n archwilio'r prosesau sy'n cynnal ac yn siglo cyfalafiaeth a sut y mae daearyddiaeth yn gysylltiedig a^ chyfalafiaeth - o'r raddfa fyd-eang i'r corff. Wrth drafod y thema^u hyn, mae'r modiwl yn cyflwyno sawl fframwaith damcaniaethol sy'n galluogi myfyrwyr i ystyried daearyddiaeth y newidiadau allweddol cymdeithasol, economaidd a gwleidyddol. O blith y thema^u penodol a drafodir mewn darlithiau y mae ailstrwythuro economaidd, cyfalafiaeth amgen, ymgorffori cyfalafiaeth, daearyddiaethau dinesig newydd, daearyddiaethau llywodraethu ac ymfudo a dinasyddiaeth. Yn ogystal a^ darlithiau ar y thema^u hyn, bydd y myfyrwyr hefyd yn mynychu chwe seminar lle byddant yn trafod yn fanylach thema^u allweddol sy'n codi o'r darlithiau.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Bydd sgiliau cyfathrebu llafar yn cael eu datblygu a'u hasesu yn y seminarau, a'r sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig yn yr arholiad.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Ni fydd yn cael ei ddatblygu'n benodol drwy'r modiwl hwn. Gall cynnwys y darlithiau a'r darllen annog myfyrwyr yn anuniongyrchol i ystyried eu syniadau a'u safbwyntiau, ac i rai gall arwain at lwybr gyrfa posibl efallai.
Datrys Problemau Bydd datrys problemau yn cael rhywfaint o sylw anuniongyrchol o ganlyniad i gynnwys y darlithiau ond ni fydd yn cael ei ddatblygu'n benodol yn y modiwl.
Gwaith Tim Nis datblygir yn y modiwl hwn.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Dylai myfyrwyr ymdrechu i ddatblygu eu sgiliau yn y maes hwn drwy neilltuo amser rhydd i ddarllen a pharatoi ar gyfer arholiadau. Nid yw'n cael ei ddatblygu'n benodol yn y modiwl.
Rhifedd Nis datblygir yn y modiwl hwn
Sgiliau pwnc penodol Nodwyd y rhain yn Adran B.
Sgiliau ymchwil Anogir myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau ymchwil drwy gasglu deunydd o'r llyfrgell a'r rhyngrwyd wrth baratoi ar gyfer y seminarau.
Technoleg Gwybodaeth Bydd myfyrwyr yn cael eu cyfeirio at ddeunydd o'r rhyngrwyd wrth iddynt baratoi am y seminar.

Rhestr Ddarllen

Testun A Argymhellwyd
Amin, A. (1994) Post Fordism: A Reader. Blackwell (Oxford) Chwilio Primo Barnes, T., Peck, J., Sheppard, E. and Tickell, A. (2004) Reading Economic Geography Blackwell (Oxford) Chwilio Primo Danziger, D. (1997) Danziger's Britain: A Journey to the Edge. Flamingo: London Chwilio Primo Harvey, D. (1973) Social Justice and the City. Edward Arnold, London. Chwilio Primo Harvey, D. (1982) The Limits to Capital The University of Chicago Press, Chicago. Chwilio Primo Harvey, D. (1989) The condition of postmodernity. Blackwell, London Chwilio Primo Hudson and Williams (1995) Divided Britain Wiley, Chichester Chwilio Primo Hutton, W. (1996) The State We¿re In Vintage: London Chwilio Primo Hutton, W. and Giddens, A. (2000) On the Edge: Living with Global Capitalism Jonathan Cape, London Chwilio Primo Johnstone, C and Whitehead, M. (2004) New Horizons in British Urban Policy. Ashgate. Chwilio Primo Johnstone, C and Whitehead, M. (2004) New Horizons in British Urban Policy. Ashgate, Aldershot. Chwilio Primo Marx, K. (1999 (1867)) Capital Oxford University Press: Oxford Chwilio Primo Massey, D. (1984) Spatial Divisions of Labour: Social Structure and the Geographies of Production Methuen, London Chwilio Primo McDowell, L. (1997) Capital Culture Blackwell (Oxford) Chwilio Primo Mitchell, D. (2003) The Right to the City The Guildford Press, New York Chwilio Primo Mohan, J. (1999) A United Kingdom? Economic, Social and Political Geographies. Arnold, London. Chwilio Primo Pinch, S. (1996) Worlds of Welfare: Understanding the Changing Geographies of Social Welfare Provision Routledge, London Chwilio Primo Shepard, E. and Barnes, T. (ed) (2000) A Companion to Economic Geography Blackwell (Oxford) Chwilio Primo Sorkin, M. (1992) Variations on a Theme Park: The New American City and the Right to Public Space New York Hill and Wang Chwilio Primo Thrift, N. (2004) Knowing Capitalism Sage, London Chwilio Primo

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5