Module Information

Cod y Modiwl
DA30820
Teitl y Modiwl
GLOBALEIDDIO A CHWILFRIWIAD
Blwyddyn Academaidd
2008/2009
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Bwriedir ar Gyfer Blynyddoedd i Ddod
Rhagofynion
DA10210
Rhagofynion
DA10110

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlithoedd 20 Hours. 10 x 2 awr
Seminarau / Tiwtorialau 4 Hours.
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Ailsefyll 2 Awr   Papur ysgrifenedig  100%
Arholiad Semester 2 Awr   50%
Asesiad Semester Astudiaeth annibynnol o 3,000 o eiriau iw gyflwyno yn Wythnos 8  Aseiniad:  50%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

(i) defnyddio llenyddiaeth rhyngddisgyblaethol er mwyn dadansoddi pynciau yn ymwneud a newidiadau byd-eang, globaleiddio a chwilfriwiad, yn nhermau damcaniaethau ac astudiaethau achos.

(ii) deall natur a rol globaleiddio yn ei gyd-destun hanesyddol.

(iii) datblygu sgilliau dadansoddi o wahanol mathau trwy ddefnydd o lenyddiaeth, ffynonellau ystadegol ac astudiaeth annibynnol.

Nod

(i) ystyriaeth o'r newidiadau byd-eang diweddaraf gan ddefnyddio dulliau damcaniaethol ac astudiaethau achos.

(ii) ymwneud a'r ddadl globaleiddio.

(iii) deall y cyfyngiadau ar globaleiddio, anghyfartaledd prosesau cyfoes ynghyd a phwysigrwydd y 'lleol'.

Cynnwys

Pwrpas y modiwl yw cyflwyno dadleuon cyfoes am globaleiddio a chwilfriwiad. Pwysleisir nifer o themau allweddol, sef
  • globaleiddio yn ei gysylltiadau hanesyddol
  • pa mor fyd eang yw globaleiddio: patrymau daearyddol anghyfartal
  • cyfyngiadau globaleiddio
  • gwrthwynebiad i globaleiddio
  • globaleiddio oddi uchod ac oddi isod
  • lleolelddio yn ei gysylltiadau byd eang
Trafodir y themau hyn trwy ystyried nifer o astudiaethau achos (gweler Darlithoedd 7, 8, 9 a 10 isod)
Pynciau'r darlithoedd:

  1. Beth yw globaleiddio/nid yw globaleiddio a chwilfriwiad yn gwrthddweud eu gilydd
  2. Globaleiddio economaidd
  3. Globaleiddio diwylliannol
  4. Globaleiddio gwleidyddol
  5. Cyfyngiadau ar globaleiddio/pwysigrwydd y lleol
  6. Ymwrthod a globaleiddio/globaleiddio oddi isod
  7. Astudiaeth Achos I: tiodi a dyled yng ngwledydd Is Sahara Affrica
  8. Astudiaeth Achos II: mudo, ffoaduriaid, diogelwch a hawliau dynol
  9. Astudiaeth Achos III: troseddau - masnach cyffuriau a golchi arian
  10. Astudiaeth Achos IV: crefydd - ffwndamentaliaeth ac actifiaeth crefyddol

















Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6