Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | Portffolio yn cynnwys 2 ddadansoddiad o berfformiad theatraidd byw a chynhyrchiad cyfryngol 500 gair yr un | 40% |
Asesiad Semester | Cyfraniad yn y sesiynau | 10% |
Asesiad Semester | Sylwebaeth estynedig mewn maes dewisol a fydd yn cynnwys ystyriaeth o adolygiadau/ymatebion beirniadol yn y wasg ac wedi ei gyfeirio at gynulleidfa benodol 2000 gair. | 50% |
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
1 - arddangos eu dealltwriaeth o'r cynhyrchiad theatraidd, y rhaglen deledu, a'r ffilm fel cynnyrch celfyddydol gan fanylu ar y ffactorau celfyddydol a diwylliannol sy'n cyfrannu at eu creu
2 - dadansoddi gwaith theatr fyw, rhaglenni teledu a ffilmiau drwy arsylwi ar nodweddion unigol yn ogystal a ffactorau mwy cyffredinol sy'n nodweddu'r cynnyrch.
3 - Lleoli eu beirniadaeth o'r cynnyrch o fewn i gyd-destun genre.
4 - Ymateb yn greadigol i adolygiadau eraill sy'n ymddangos yn y wasg wrth lunio adolygiad.
5 - Arddangos dealltwriaeth o natur y gynulleidfa ar gyfer eu cynnyrch nhw sef yr adolygiadau eu hunain a'r modd o gyrraedd y cyfryw gynulleidfa.
Mae'r modiwl yn cyflwyno myfyrwyr i sgiliau adolygu sy'n berthnasol wrth werthuso a gwerthfawrogi'r gwahanol gyfryngau sy'n sail i astudiaeth yn yr adran; drama, ffilm, teledu a chyfryngau. Mae'n meithrin y grefft o ymateb yn feirniadol i berfformiadau theatraidd, rhaglenni teledu, ffilmiau a chynnwys cyfryngol arall a chyflwyno'r feirniadaeth honno mewn modd adeiladol sy'n dangos ymwybyddiaeth o gyd-destun a chynulleidfa'r cyfrwng o dan sylw.
Yn y modiwl hwn byddwch yn archwilio'r cynhyrchiad (boed hwnnw'n berfformiad llwyfan, ffilm, rhaglen deledu, cynnwys aml-gyfryngol, gwefan ac ati) fel cyfanwaith celfyddydol, gan sylwi ar yr elfennau hynny sy'n dod at ei gilydd i roi ansawdd ac ystyr arbennig iddo. Byddwn yn mynychu perfformiadau o destunau theatraidd priodol yn ogystal a chynyrchiadau mwy arbrofol fel y bo cyfle ac yn gwylio detholiadau o ffilmiau, rhaglenni teledu a chynnwys aml blatfform a'r we. Byddwn yn meithrin y grefft o adolygu gan sylwi ar ansawdd a natur yr hyn a ddarlledir ac a welir yn ogystal a dango dealltwriaeth o gyd-destun y gwaith ac o natur y gynulleidfa y cyfeirir y gwaith ati. Fe fydd ymgais bwrpasol i gyflwyno methodoleg i fyfyrwyr wrth iddynt wynebu'r her o adolygu gwaith mewn modd gwerthfawr ac ar lefel academaidd briodol.
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Datblygir y sgil hwn trwy ryngweithio creadigol mewn sesiynau dysgu yn ogystal a thrwy ymarfer a pherffeithio'r grefft o adolygu. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Datblygir y sgil hwn wrth i fyfyrwyr feithrin y grefft o adolygu ar gyfer anghenion y farchnad e.e ar gyfer safleoedd gwe, cyfnodolion a chyhoeddiadau. |
Datrys Problemau | Fe fydd yna drafodaeth o ddulliau o ddatrys problemau mewn perthynas a chyfryngau celfyddydol penodol ac mewn perthynas a chynnyrch celfyddydol penodol ond ni fydd y myfyrwyr yn datrys y problemau ond yn hytrach yn myfyrio ar ddatrysiad unigolion eraill megis cyfarwyddwyr ac ymarferwyr proffesiynol. |
Gwaith Tim | Datblygir y sgil hwn wrth i fyfyrwyr gyd-drafod mewn sesiynau dysgu ac arsylwi ar dystiolaeth o waith cydweithredol a gyflwynir gan gynyrchiadau a rhaglenni teledu a ffilmiau o safbwynt y sawl sy'n creu ac yn cyflwyno'r cynnyrch. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Datblygir y sgil hwn wrth i fyfyrwyr fyfyrio dros yr hyn y maent yn ei gyflawni mewn sesiynau dysgu a pharatoi gwaith ar gyfer sesiynau gan gynnwys adolygu a golygu drafftiau perthnasol. |
Rhifedd | Ddim yn berthnasol. |
Sgiliau pwnc penodol | Meithrinir y grefft o ysgrifennu ar gyfer adolygiadau sy'n wahanol i'r grefft o ysgrifennu academaidd. Meithrinir y grefft o ddehongli a dadansoddi ymatebion synhwyrus unigol a'u cyflwyno ar ffurf ysgrifenedig a llafar sy'n hygyrch ac yn werthfawr i gynulleidfa ehangach. |
Sgiliau ymchwil | Datblygir y sgil hwn trwy gyfrwng ymchwil personol y myfyriwr/wraig wrth iddynt fwrw ati i ddarllen adolygiadau diweddar a rhai hynach hefyd a gwylio deunydd perthnasol a allai sbarduno adolygiadau. |
Technoleg Gwybodaeth | Datblygir y sgil hwn wrth i fyfyrwyr feithrin ymwybyddiaeth o'r we fel cyfrwng i gyhoeddi gwaith adolygu yn benodol mewn perthynas a safle gwe theatreinwales.com sydd wedi ymrwymo i gyhoeddi peth o'u gwaith. Bydd ymweliad gyda'r safle a safleoedd eraill yn rhan o waith paratoi ar gyfer sesiynau dysgu. |
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4