Module Information

Cod y Modiwl
DD30120
Teitl y Modiwl
DADANSODDI THEATR
Blwyddyn Academaidd
2008/2009
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Bwriedir ar Gyfer Blynyddoedd i Ddod
Rhagofynion
DD10320

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Traethawd 2500 o eiriau  50%
Arholiad Semester 2 Awr   50%
Asesiad Ailsefyll Unrhyw elfennau a fethwyd ynghynt 

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

Erbyn cwblhau`r modiwl hwn, fe ddylai myfyriwr/wraig sy`n cyrraedd safon gyffredin fedru cyflawni`r canlynol:
- arddangos eu dealltwriaeth a`u gwybodaeth o`r Theatr Ewropeaidd drwy ddadansoddi testunau dramataidd a`u gosod yng nghyd-destun datblygiad y cyfrwng yn y cyfnod dan sylw.
- ymateb yn feirniadol i`r deunydd astudiaeth drwy gymhwyso gwaith ysgolheigaidd yn y maes i`w gwaith ysgrifenedig
- Trafod y Ddrama fel amlygiad o fath ar Theatr i safon dderbyniol, gan fedru esbonio natur y berthynas gymhleth rhwng testun ysgrifenedig a chyfrwng celfyddydol fyw, ar lafar ac ar bapur

Disgrifiad cryno



Yn y modiwl hwn, fe`ch cyflwynir i rai o brif ddramau y theatr fodern Ewropeaidd, ac i dechnegau dadansoddi sy`n gymwys ar gyfer gosod y testunau hynny yn eu cyd-destun priodol.




Nod

Ein nod wrth gyflwyno`r modiwl hwn yw eich galluogi i wneud y canlynol:

- datblygu technegau dadansoddi a gwerthfawrogi`r testun dramataidd fel model o deip arbennig o theatr
- ymgyfarwyddo a rhai o brif destunau dramataidd y Bedwaredd ganrif ar bymtheg a`r Ugeinfed ganrif
- ehangu`r sgiliau dadansoddiadol a feithrinwyd yn DD10120 yn y flwyddyn gyntaf
- bod yn ymwybodol o theatr fel ffenomenon cymdeithasol a llenyddol cymhleth a chywrain
- amlygu gwahaniaethau rhwng y gwahanol destunau a astudir o ran method a swyddogaeth
- archwilio theatr fel strwythur




Rhestr Ddarllen

Hanfodol
Brecht, Bertolt (1995) Y Fam Ddewrder a`i Phlant (Mother Courage) Methuen Drama Chwilio Primo Buchner, Georg Woyzeck (cyfieithiad Guto Dafis, ar gael o`r adran) Chwilio Primo Goethe, J.W.F. (1994) Faust: Rhan 1 (Dramau Aberystwyth) CAA Chwilio Primo Hauptmann, Gerhart Y Gwehyddion (The Weavers) Ar gael o`r adran Chwilio Primo Ibsen, Henrik (1960) Pan Ddeffrown Ni, Y Meirw (When We Dead Awaken) Penguin Classics Chwilio Primo Ibsen, Henrik (1958) Rosmersholm Penguin Classics Chwilio Primo Jarry, Alfred (1968) Ubu Frenin (The Ubu Plays) Methuen Chwilio Primo Kaiser, Georg O Fore Tan Ganol Nos (From Morn to Midnight) Ar gael o`r Adran Chwilio Primo Wedekind, Frank (1995) Deffro`r Gwanwyn (Spring Awakening) Faber and Faber Chwilio Primo
Testun A Argymhellwyd
Broers, Michael (1996) Europe after Napoleon: Revolution, reaction and romanticism 1814-1848 Manchester University Press Chwilio Primo Brown, Marshall (2000) The Cambridge History of Literary Criticism Vol 5: Romanticism CUP Chwilio Primo Celt PB2222 (1965) Y Ddau Chwyldro: Methodism in Wales and Romanticism in Europe Clifton: Drenewydd Chwilio Primo Coleman, P; Lewis J.E.; Kowalik, J.A. (eds.) (2000) Representations of the self from the Renaissance to Romanticism CUP Chwilio Primo Cox, Jeffrey (1987) In the Shadows of Romance: romantic tragic drama in Germany, England and France Ohio University Press Chwilio Primo Cranston, Maurice William (1994) The Romantic Movement Blackwell Chwilio Primo Labbe, Jacqueline M. (2000) The Romantic Paradox: love violence and the uses of romance, 1760-1830 Macmillan: Hampshire Chwilio Primo Schenk, H. G. (1966) The Mind of the European Romantics: an essay in cultural history Constable: London Chwilio Primo

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6