Module Information

Cod y Modiwl
DD31720
Teitl y Modiwl
PERFFORMIO 2
Blwyddyn Academaidd
2008/2009
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Bwriedir ar Gyfer Blynyddoedd i Ddod
Rhagofynion
DD21520

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Ni ddarperir asesiad atodol ar gyfer y modiwl hon am ei fod yn gynhyrchiad ymarferol. Ymgymerir ag ef yn ystod semester olaf y cynllun is-raddedig. Os methir elfen ymarferol y modiwl gwahoddir myfyrwyr i ail sefyll y modiwl y flwyddyn ganlynol.  
Asesiad Semester Chyfraniad ir broses ymarfer a pherfformio  Cyflwyniad:  70%
Asesiad Semester Nodiadau ymarfer ac ymchwil  Adroddiad Ymarferol:  30%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:


Erbyn cwblhau`r modiwl hwn, fe ddylai myfyriwr/wraig sy`n cyrraedd safon gyffredin fedru cyflawni`r canlynol:

  • amlygu eu gallu i gyfansoddi sgor perfformio, yn seiliedig ar fethodau neilltuol
  • arddangos eu cyfrifoldeb personol, yn unigol ac o fewn grwp, mewn ymarferion ac mewn perfformiadau, ac amlygu eu bod yn deall gofynion y broses greu
  • arddangos eu hynwybyddiaeth o`r berthynas anatod rhwng hyfforddiant a pherfformiad, o safbwynt eu hymarfer a`u myfyrdod beirniadol ar yr ymarfer hwnnw
  • arddangos sgiliau perfformio neilltuol, gan amlygu gallu corfforol a lleisiol datblygiedig



Disgrifiad cryno



Yn y modiwl hwn rhoddir y cyfle i chi ymarfer eich arbenigedd yn y maes perfformio i lefel ddatblygiedig. Canolbwyntir ar waith unigol yn y modiwl hwn, gan roi cyfle i chi greu sgor perfformio manwl, a chymeriad cymhleth, yn seiliedig ar fethodau neilltuol. Archwilir y cysyniad o destun yng ngwaith y perfformiwr ac asesir y berthynas rhwng testun y ddrama, testun y perfformiwr a thestun y perfformiad.

Nod




Ein nod wrth gyflwyno`r modiwl hwn yw eich galluogi i gyflawni`r canlynol:

  • paratoi myfyrwyr yn ofalus yn gorfforol ac emosiynol yn ol gofynion eu rol
  • galluogi myfyrwyr i adfyfyrio a dadansoddi eu gwaith creadigol i safon uchel
  • archwilio ag ymestyn corff y perfformiwr fel offeryn cynrychiadol

Cynnwys

Ein nod wrth gyflwyno'r modiwl hwn yw eich galluogi i gyflawni'r canlynol:
  • paratoi yn ofalus yn gorfforol ac emosiynol yn ol gofynion eich rol
  • adfyfyrio a dadansoddi eich gwaith creadigol i safon uchel
  • archwilio a myfyrio ar gorff y perfformiwr fel offeryn cynrychioliadol

Rhestr Ddarllen

Hanfodol
LABAN, RUDOLPH (1960) The Mastery of Movement Macdonald and Evans Chwilio Primo LINKLATER, Kristin (1976) Freeing the Natural Voice Drama Book Publishers Chwilio Primo MANDERINO, Ned (1989) The Transpersonal Actor: The Whole Person in Acting Manderino Chwilio Primo

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6