| Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
|---|---|
| Darlithoedd | 30 darlith (1 awr) (darlithoedd trwy gyfrwng y Saesneg) |
| Eraill | 9 gweithdy (1 awr) ac 3 sesiwn termau (1 awr) |
| Sesiwn Ymarferol | Yn rhan o PH15010 ac PH15510 |
| Eraill | Bydd darpariaeth Gymraeg ar gyfer y gweithdai a sesiwn termau |
| Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
|---|---|---|
| Arholiad Ailsefyll | 3 Awr 3 awr, arholiad atodol | 100% |
| Arholiad Semester | 3 Awr arholiadau diwedd semester | 70% |
| Asesiad Semester | Gwaith Cwrs: Taflen enghreifftiau | 30% |
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
1. Deall sylfaeni electromagneteg, osgiliadau a thonnau a'u cymhwyso i systemau syml macrosgopig a microsgopig.
2. Dadansoddi arosodiad osgiliadau a thonnau ac ymateb cylched trydanol syml i geryntau eiledol.
3. Trafod cysyniadau tymheredd a throsglwyddo gwres.
4. Ddisgrifio priodweddau sylfaenol deunyddiau deuelectrig, magnetig, thermol a rhai sy'n dargludo trydan.
Mae Ffiseg Clasurol yn disgrifio byd macrosgopig trydan, magneteg, mecaneg, opteg, gwres a golau, sy'n sail i lawer o beirianneg a thechnoleg ein dydd. Mae tarddiad ffiseg clasurol, fodd bynnag, yn effeithiau microsgopig electronau, atomau a molecylau ond gellir eu disgrifio, o leiaf yn ansoddol, drwy syniadau clasurol. Mae cysyniadau fel gwefr a cherrynt trydanol, a meysydd trydanol a magnetig ac anwythiad electromagnetig yn disgrifio sut mae cylchedau trydan a deunyddiau deuelectrig a magnetig yn gweithio. Gyda chysyniadau o fas, dadleoliad, grymoedd adferol a ffrithiant, egni potensial a chinetig, ceir dealltwriaeth o fudiannau osgiladu a thonnau, a sail ar gyfer diffinio tymheredd, trosglwyddo gwres a lledaeniad sain a golau. Mae'r modiwl yn canolbwyntio ar drydan, magneteg, cerrynt trydan, osgiliadau, gwres a thymheredd, tonnau, sain a golau.
| Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
|---|---|
| Cyfathrebu | Drwy waith ysgrifenedig: datrys problemau, arholiadau |
| Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Ddim yn berthnasol |
| Datrys Problemau | Mae datrys problemau yn allweddol i ddatblygu dealltwriaeth yn y testunau |
| Gwaith Tim | Ddim yn berthnasol |
| Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Ddim yn berthnasol |
| Rhifedd | Yn anhepgor i gwrs Ffiseg |
| Sgiliau pwnc penodol | Trafod y pynciau drwy gyfrwng y Gymraeg |
| Sgiliau ymchwil | Disgwylir i'r myfyrwyr ddarllen yn eang am y maes |
| Technoleg Gwybodaeth | Defnyddi'r TG i ymchwilio'r maes |
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4