Module Information

Cod y Modiwl
GW39420
Teitl y Modiwl
ETHOLIADAU YNG NGHYMRU
Blwyddyn Academaidd
2008/2009
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlithoedd 14 Hours. (14 x 1 awr)
Sesiwn Ymarferol 6 Hours. 3 x 2 awr (2 sesiwn cyfrifiadurol a un gweithdy cynllunio arolwg)
Seminarau / Tiwtorialau 8 Hours. (8 x 1 awr)
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Ailsefyll (Gall myfyrwyr, gyda chaniatad y Gyfadran, gael y cyfle i ailsefyll y modiwl hwn, yn ystod cyfnod yr arholiadau ychwanegol fel arfer. Am eglurhad pellach, cysyllter ar Gweinyddydd Academaidd yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol.)  
Asesiad Semester Adroddiad Y Myfyriwr o 1,500 o eiriau  30%
Asesiad Semester Traethawd: 2,500 o eiriau  40%
Asesiad Semester Prosiect  30%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

Wedi cwblhau'r modiwl fe fydd myfyrwyr yn gallu:

i) dadansoddi'n feirniadol y prif esboniadau a gynigir o batrymau pleidleisio yng Nghymru.
ii) dadansoddi'n feirniadol hanes etholiadau yng Nghymru a thu hwnt.
iii) defnyddio meddalwedd cyfrifiadurol i ddadansoddi canlyniadau arolwg barn.

Disgrifiad cryno

Fe gyflwynir myfyrwyr i'r prif ddamcaniaethau am ddulliau pleidleisio ac fe ystyrir eu heffeithiolrwydd yn y cyd-destun Cymreig.

Nod

Mae amcanion y modiwl yn cynnwys:-

- Rhoddi dealltwriaeth glir o wahanol esboniadau o batrymau pleidleisio yng Nghymru
- Rhoddi cyflwyniad i hanes etholiadau yng Nghymru a Phrydain.
- I gyflwyno myfyrwyr i waith holiadur a dadansoddiad data meintiol.
- I ddatblygu sgiliau cyfathrebu a gweithio mewn tim trwy waith prosiect.

Cynnwys

Fe fydd y modiwl hon yn trafod y gwahanol esboniadau a gynigir o batrymau pleidleisio yng Nghymru. Bydd hefyd yn ystyried datblygiad hanesyddol etholiadau yng Nghymru a Phrydain. Bydd y modiwl yn cyflwyno myfyrwyr i ddulliau ymchwil meintiol er mwyn asesu agweddau o ymddygiad pobl wrth bleidleisio.

Sgiliau trosglwyddadwy

Fe fydd myfyrwyr yn datblygu ystod eang o sgiliau trosglwyddadwy yn y modiwl hon. Yn ogystal a sgiliau cyfathrebu, dadansoddi ac ymchwilio a ddatblygir mewn modiwlau 'traddodiadol' fe gyflwynir myfyrwyr i sgiliau meiniol a sgiliau ysgrifennu o fath gwahanol. Yn benodol fe fydd cynllunio, cynnal a dadansoddi'r arolwg barn yn cynnig cyfle i ddatblygu sgiliau gweithio mewn tim, rheoli prosiectau, ymchwil meintiol ac ysgrifennu adroddiadau yn seiliedig ar ddata cynradd.

10 credydau ECTS

Rhestr Ddarllen

Testun A Argymhellwyd
Bridget Taylor & Katarina Thompson Scotland and Wales: Nations Again Chwilio Primo Paul Webb The Modern British Party System Chwilio Primo

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6