Module Information

Cod y Modiwl
HCM1060
Teitl y Modiwl
TRAETHAWD HIR 2 HANES CYMRU
Blwyddyn Academaidd
2008/2009
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 3 (Traethawd Hir)
Cyd-Ofynion
HAM1030 HYM1030
Elfennau Anghymharus
WHM1060
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Seminarau / Tiwtorialau Cyfarwyddyd unigol yn ol yr angen gan oruchwylwyr y traethodau ymchwil.
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Ailsefyll Ailgyflwyno traethawd a fethodd hyd at flwyddyn ar ol y canlyniad gwreiddiol, ar gyfer marc heb fod yn fwy na 50 
Asesiad Semester Traethawd hir 20,000 o eiriau  100%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

Arddangos arbenigedd ymchwil ym maes neilltuol eu hastudiaeth;

Cynhyrchu darn hanesyddol trefnus sy'n dangos sgiliau beirniadaol a dadansoddiadol;

Gwneud cyfraniad at faes ymchwil hanesyddol;

Cyflwyno gwaith o safon academaidd proffesiynol o ran cyfeiriadau a chyflwyniad.

Disgrifiad cryno

Ar gyfer y modiwl hwn, ymchwilir a chyflwynir traethawd hir yr MA yn Hanes Cymru, sef darn o waith ymchwil annibynnol ar bwnc yn ymwneud a Hanes Cymru, o hyd at 20,000 o eiriau, gyda chyfarwyddyd aelod o staff a benodir i oruchwylio'r ymchwil.

Nod

Y traethawd hir yw'r elfen olaf yn rhaglen MA yr Adran ac y mae'n llenwi'r gofynion ar gyfer Rhan II y radd MA. Nod y traethawd yw i asesu gallu'r myfyryiwr i ddadansoddi corff sylweddol o ddeunydd hanesyddo, ei drefnu, a'i gyflwyno mewn ffordd sy'n cynnal dadl sy'n argyhoeddi ac sy'n gwneud cyfraniad i ysgolheictod hanesyddol. Ni ddisgwylir o reidrwydd i'r myfyriwr ddarganfod canlyniadau newydd, ond yn hytrach i ysgrifennu darn o ymchwil wreiddiol sy'n arddangos y gallu i feddwl yn annibynnol.

Cynnwys

Cynnwys y modiwl yw paratoi a chyflwyno'r traethawd. Disgwylir i'r myfyrwyr gyflawni hyn yn ystod yr haf, gyda chyfarwyddyd aelod o staff. Bydd y traethawd yn ddarn o waith ymchwil hanesyddol annibynnol 20,000 o eiriau ar bwnc o ddewis y myfyriwr.
Bydd y myfyrwyr eisoes wedi pasio HAM1030/Traethawd Hir I: Paratoi ar gyfer y Traethawd Hir/HYM1030/Dissertation 1: Dissertation Preparation, a bydd ganddynt oruchwyliwr ymchwil a ddewiswyd gyda golwg ar bwnc y traethawd.
Anogir myfyrwyr yn yr Adran Hanes a Hanes Cymru i gyflwyno'u traethodau erbyn 30 Medi yn ystod blwyddyn eu hastudio (erbyn 30 Medi yn ail flwyddyn eu cyfnod astudio yn ystod yn achos myfyrwyr rhan-amser), ond y mae'r Adran yn caniatau iddynt gymeryd hyd at flwyddyn ychwanegol yn achos myfyrwyr llawn amser ac hyd at ddwy flynedd yn achos myfyrwyr rhan amser, os oes angen, yn ol rheoliadau'r Brifysgol.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Dangos y gallu i gyfleu syniadau beirniadaol cymhleth, ar sail ymchwil annibynnol, ar ffurf traethawd academaidd.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Datblygu ymwybodaeth o medrau personol, safbwyntiau a nodweddion personol, yng nghyswllt dilyniant cwrs; cynllunio a pharatoi ar gyfer gyrfa yn y dyfodol.
Datrys Problemau Nodi problemau; nodi ffactorau a allai effeithio ar atebion posibl; datblygu meddylfryd creadigol tuag at ddatrys problemau; gwerthuso manteision ac anfanteision atebion posibl; llunio cynnig rhesymegol wrth ymateb i broblem.
Gwaith Tim Heb fod yn berthnasol.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Dangos ymwybyddiaeth o ddulliau dysgu, hoffterau ac anghenion personol, a'r rhwystrau rhag dysgu; cynllunio a gweithredu strategaethau dysgu a hunanreolaeth realistig; creu cynllun gweithredu personol a fydd yn cynnwys targedau tymor byr a thymor hir; arolygu a monitor cynnydd, gan adolygu'r cynllun gweithredu fel bo'n briodol, i wella perfformiad cyffredinol.
Rhifedd Casglu a dadansoddi data'n feirniadol lle bo galw.
Sgiliau pwnc penodol Gallu i gynllunio a chwblhau prosiect ymchwil ym maes hanes Cymru, gan arddangos sgiliau lefel meistr wrth leoli ac asesu corff o ddeunydd o ran ffynonellau gwreiddiol a llenyddiaeth hanesyddol a chyflwyno ymchwil annibynnol ar ffurf ysgrifenedig i gynulleidfa academaidd.
Sgiliau ymchwil Darganfod a gwerthuso ystod o ffynonellau gwreiddiol ac eilaidd, gyda golwg arbennig ar hanes Cymru.
Technoleg Gwybodaeth Defnyddio'r dechnoleg wrth ymchwilio, gan gynnwys drwy'r rhyngrwyd, ynghyd a defnyddio prosesu geiriau wrth lunio'r traethawd.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7