Module Information

Cod y Modiwl
MT14010
Teitl y Modiwl
DYNAMEG A PHERTHNASEDD
Blwyddyn Academaidd
2008/2009
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Rhagofynion
Mathemateg Safon Uwch
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlithoedd 1 awr 20 x sesiynau 1-awr o ddarlithoedd MP14010 a dosbarthiadau esiampl (darlithoedd trwy gyfrwng y Saesneg)
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Semester Arholiad semester  2 awr: arholiad ysgrifenedig  70%
Asesiad Semester Asesiad semester  Gwaith cwrs: 2 taflen asesiad  30%
Asesiad Ailsefyll Arholiad ail-eistedd  2 awr: arholiad ysgrifenedig  100%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

1. disgrifio egwyddorion sylfaenol Dynameg a Pherthynoledd Arbennig.

2. modelu problemau mewn dynameg a pherthynoledd arbennig gydag hafaliadau mathemategol, cymhwyso technegau datrys elfennol i'r hafaliadau hyn a dehongli'r canlyniadau mewn cyd-destun ffisegol gwreiddiol.

3. datrys problemau rhifol mewn dynameg llinellol a chylchdro ac mewn perthynoledd arbennig.

Disgrifiad cryno

Mae'r modiwl hwn yn cynnig cyflwyniad i'r ddamcaniaeth glasurol o ddynameg a'r ddamcaniaeth o berthynoledd arbennig. Bydd y problemau sy'n cael eu trafod mewn dynameg yn cynnwys cinemateg clasurol, Cyfreithiau Newton, egni a momentwm a mudiant o dan ddisgyrchiant. Bydd goblygiadau yr egwyddorion o berthynoledd arbennig ar gyfer y cysyniadau o ofod ac amser hefyd yn cael eu hastudio. Bydd pwyslais yn cael ei roi ar ddatrys problemau a bydd taflenni esiampl yn cynnwys ymarferion rhifol.

Nod

Mae'r modiwl yn datblygu egwyddorion a thechnegau dynameg a pherthynoledd, gyda phwyslais ar ddatrys problemau, ac mae'r cwrs yn addas fel modiwl craidd ar gyfer cynlluniau gradd anrhydedd mewn Mathemateg. Mae'r modiwl hefyd yn paratoi myfyrwyr ar gyfer astudiaeth uwch o'r pynciau hyn fel yn MP21010.

Rhestr Ddarllen

Testun A Cyffredinol
French, A. P. (1968 [unspecifi) Special relativity /A.P. French. CRC Press Chwilio Primo
Testun A Argymhellwyd
Tipler, Paul Allen (2004.) Physics for scientists and engineers /[Paul A. Tipler, Gene Mosca] 5th edition. W.H. Freeman Chwilio Primo

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4