Module Information

Cod y Modiwl
BG23400
Teitl y Modiwl
DULLIAU YMCHWIL
Blwyddyn Academaidd
2012/2013
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1 (Dysgwyd dros 2 semester)
Elfennau Anghymharus
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlithoedd 1 x darlith 2 awr (Wythnos 1)
Darlithoedd 1 x darlith 1 awr y wythnos
Eraill 14 x sesiynau cymorth ar y cyfrifiadur 3 awr
Darlithoedd 1 x darlith 1 awr y wythnos
Darlithoedd 1 x darlith 1 awr y wythnos
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester 5 e-ymarfer yn seiliedig ar Blackboard (yn trafod agweddau ar gynllunio ymchwil a dadansoddi ystadegol)  25%
Arholiad Semester 3 Awr   Arholiad teir awr  25%
Asesiad Semester Paratoi Cynllun Ymchwil  50%
Asesiad Ailsefyll Rhaid i fyfyrwyr wneud yr elfennau o'r asesiad sy'n cyfateb i'r hyn a arweiniodd at fethu'r modiwl  100%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

1. Chwilio ac adolygu'r llenyddiaeth wyddonol er mwyn adnabod cwestiynau ymchwil dilys

2. Adnabod dulliau priodol o ddadansoddi ar gyfer gwahanol fathau o ymchwil

3. Cynllunio arbrofion sy'n ddilys yn ystadegol

4. Adnabod a mesur yn erbyn ffactorau sy'n drysu wrth gynllunio ymchwil

5. Dangos dealltwrieth o'r pynciau moesegol sydd ynghlwm wrth ymchwil

6. Dadansoddi data gan ddefnyddio ystod o dechnegau meintiol ac ansoddol

7. Dehongli canlyniadau dehongli data a chymhwyso gwybodaeth ystadegol wrth werthuso archwiliadau ymchwil.

Disgrifiad cryno

Bydd y cwrs yn trafod egwyddorion ac arferion ystod o weithdrefnau meintiol ac ansoddol sylfaenol dadansoddi data, ynghyd â dealltwriaeth o gynllunio ymchwil da. Bydd y dull cyflwyno yn dibynnu’n gryf ar e-ddysgu a'r myfyriwr yn ganolog iddo, gyda chymorth gweithdai cyfrifiadurol. Trwy e-ddysgu, bydd myfyrwyr yn derbyn hyfforddiant wrth ddefnyddio pecynnau meddalwedd ystadegol, chwilio am lenyddiaeth a chynllunio ymchwil. Bydd y defnydd o fideos tiwtorial sy’n benodol i’r pwnc drwy Abercast yn sicrhau bod y myfyrwyr yn derbyn enghreifftiau esboniadol sy'n uniongyrchol berthnasol i'w maes pwnc arbennig. Ceir asesu ffurfiannol drwy ddefnyddio e-ymarferion Blackboard gan ddefnyddio rhyddhau ymaddasol, cyn cyflwyno cynllun ymchwil wedi'i ddatblygu'n gyflawn ac arholiad i brofi'r sgiliau ystadegol a ddysgwyd.

Cynnwys

Dadansoddi data
Yn dilyn sylfaen greiddiol yng ngweithdrefnau sylfaenol dadansoddi data, bydd gan fyfyrwyr y cyfle i ddewis nifer cyfyngedig o dechnegau sy'n berthnasol i gynlluniau astudio penodol. Bydd y deunydd pwnc yn cynnwys:

Natur amrywioldeb
Poblogaethau, samplau a strategaethau samplo
Mathau o ddata
Tebygolrwydd
Gwyriad safonol
Dosraniad cyffredin
Samplo o'r dosraniad cyffredin, camgymeriad safonol
Dosraniad t myfyrwyr, profion t
Dadansoddi amrywiant
Dadansoddiadau amlffactoraidd, rhwystro
Cydberthyniad ac atchweliad
Dadansoddi chi-sgwâr, tablau hapddigwyddiadau
Profion amharametrig
Techneg a strwythur holiaduron
Technegau cyfweld, grwpiau ffocws
Dadansoddi cynnwys (testunol, disgwrs, sgwrs, gweledol)

Cynllunio ymchwil
Ochr yn ochr â'r hyfforddiant dadansoddi data y bydd darlithoedd ar egwyddorion sylfaenol cynllunio arbrofol a chynllunio ymchwil. Bydd y rhain yn cynnwys:
Chwilio am lenyddiaeth a'i dehongli
Strategaethau a dulliau adolygu llenyddiaeth
Adnabod damcaniaethau a chwestiynau ymchwil
Strategaethau samplo a maint
Adnabod a mesur ffactorau sy'n drysu
Pynciau moesegol cynllunio ymchwil
Datblygiad protocol
Adnabod adnoddau

Datblygir y pynciau hyn drwy nifer o ymarferion ffurfiannol a gyflwynir drwy e-ddysgu. Bydd yr asesiad cyfunol terfynol yn gofyn i fyfyrwyr lunio, drwy ymgynghori ag aelodau o’r staff academaidd, gynllun ymchwil cynhwysfawr mewn maes unigryw sy'n berthnasol i'w cynllun astudio. Os bydd y cynllun yn cael ei gwblhau yn llwyddiannus, hwn fydd sylfaen traethawd estynedig blwyddyn derfynol y myfyriwr.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Gofynnir i fyfyrwyr ysgrifennu cynllun ymchwil eglur, cryno a manwl
Datblygu personol a chynllunio gyrfa
Datrys Problemau Pennu'r cynllun ymchwil a'r dulliau dadansoddi mwyaf priodol i'w defnyddio gyda gwahanol fathau o ddata.
Gwaith Tim
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Bydd angen i fyfyrwyr adolygu a monitro cynnydd gwaith cwrs ffurfiannol a asesir er mwyn gwella'r perfformiad cyfan.
Rhifedd Bydd y rhan fwyaf o agweddau ar y modiwl hwn yn gofyn am drafod data a chymhwyso ystadegau.
Sgiliau pwnc penodol
Sgiliau ymchwil Adnabod cwestiynau ymchwil, cynllun ymchwil, dadansoddi data a dehongli'r canlyniadau yng nghyd-destun ymchwiliad academaidd.
Technoleg Gwybodaeth Chwilio am lenyddiaeth a defnyddio chwilotwyr gwe a phecynnau ystadegol i ddadansoddi data.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5