Module Information

Cod y Modiwl
CY35420
Teitl y Modiwl
BARDDONIAETH TRI CHWARTER CANRIF, 1900-79
Blwyddyn Academaidd
2012/2013
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlithoedd 22 awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Ailsefyll 2 Awr   Arholiad atodol  100%
Arholiad Semester 2 Awr   70%
Asesiad Semester Traethawd: 3000 o eiriau  30%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

Trafod yn feirniadol waith prif feirdd y cyfnod dan sylw

Deall y gweithiau hyn yn eu cyd-destun llenyddol a chymdeithasol ehangach

Ystyried, cloriannu a gwerthfawrogi'r gwaith dan sylw gan ddefnyddio ystod o dechnegau beirniadol

Disgrifiad cryno

Cyflwyniad amseryddol bras i brif feirdd a mudiadau llenyddol y cyfnod 1900-79. Bydd yn gosod y beirdd hyn yn eu cyd-destun cymdeithasol a hanesyddol. Y bwriad yw cynnig arolwg o'r cyfnod trwy ganolbwyntio ar feirdd nodedig.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Disgwylir i fyfyrwyr gyfathrebu'n rhugl, yn ysgrifenedig ac ar lafar, gan ddefnyddio Cymraeg graenus a chywir. Neilltuir cyfran o bob darlith i drafod cerdd neu gerddi yn fanylach.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Bydd y modiwl yn meithrin sgiliau astudio ac ymchwil. Bydd cynnwys y mdiwl yn berthnasol i rai a fydd yn dilyn gyrfa ym myd dysgu, addysg a'r dyniaethau.
Datrys Problemau Meithrinnir medrau'r myfyrwyr mewn perthynas ag adnabod ac ymdrin a^ thestunau cymhleth o ran iaith, mynegiant a syniadaeth
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Meithrinnir cyneddfau beirniadol y myfyrwyr mewnn perthynas a^'r testunau a astudir ac a^'u gwaith eu hunain. Anogir myfyrwyr i ddarllen gwaith ei gilydd ac i drafod eu gwaith ysgrifenedig wrth iddo gael ei baratoi.
Rhifedd Amherthnasol
Sgiliau pwnc penodol Dealltwriaeth o'r berthynas rhwng hanes meddyliol gwleidyddol a diwylliannol y cyfnod dan sylw a'i gynnyrch barddonol.
Sgiliau ymchwil Disgwylir i fyfyrwyr ymchwilio traethawd sy'n gofyn darllen y tu hwnt i'r testunau a drafodir yn y darlithiau.
Technoleg Gwybodaeth Anogir myfyrwyr (a'u hyfforddi lle bo hynny'n briodol) i ddefnyddio ffynonellau ar y we er mwyn ategu eu gwaith.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6