Module Information

Cod y Modiwl
FG37540
Teitl y Modiwl
PROSIECT UNIGOL
Blwyddyn Academaidd
2012/2013
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2 (Dysgwyd dros 2 semester)
Rhagofynion
Successful completion of part 2.
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Sesiwn Ymarferol 22 x sesiwn ymarferol 4 awr y semester
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Chwiliad llenyddiaeth (Semester 1)  5%
Asesiad Semester Arolwg Llenyddiaeth (Semester 1)  15%
Asesiad Semester Cynllun Prosiect (Semester 1)  5%
Asesiad Semester Canlyniadau Cychwynnol (Semester 2)  5%
Asesiad Semester Adroddiad Terfynol (Semester 2)  45%
Asesiad Semester Cyflwyniad Llafar (Semester 2)  15%
Asesiad Semester Marc cynnydd (Semester 2)  10%
Asesiad Ailsefyll Ail gyflwyno rhan a fethwyd  100%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

Adnabod, dadansoddi a chrynhoi y llenyddiaeth wyddonol yn y maes a ddewisir.

Cynllunio a gweithredu eu prosiect unigol gyda dealltwriaeth dda o ffiseg y gwaith ac o'r llenyddiaeth cefndir.

Adnabod yr adnoddau er mwyn ymgymryd â'r prosiect unigol.

Disgrifiad cryno

Mae'r modiwl hwn ar darparu prosiect blwyddyn olaf i fyfyrwyr BSc a phrosiect canolradd i fyfyrwyr MPhys. Bydd yr holl fyfyrwyr yn ymgymryd â phrosiect a byddant yn gweithio mewn parau dan gyfarwyddyd eu goruchwylydd prosiect personol, ac yn cyflwyno eu canlyniadau mewn cyflwyniad llafar unigol ac adroddiad prosiect terfynol. Ysgrifennir adroddiadau unigol gan fyfyrwyr BSc ar eu prosiect blwyddyn olaf, tra bydd myfyrwyr MPhys yn ysgrifennu eu adroddiad prosiect â chydawdur. Cynlluniwyd nifer o gerrig milltir (strategaeth chwilio llenyddiaeth, adolygiad llenyddiaeth llawn, cynllun prosiect a dogfen canlyniadau rhagarweiniol) i gadw ffocws y prosiect ac i sicrhau bod y baich gwaith yn cael ei ddosbarthu'n weddol hafal drwy'r flwyddyn.

Nod

Mae'r myfyrwyr yn dysgu i ymchwilio problem wyddonol neilltuol o'u dewis mewn dyfnder, gan wneud defnydd llawn o'r llenyddiaeth wyddonol. Maent yn gyfrifol am gynllunio a rheoli eu prosiect, a byddant yn defnyddio dulliau cyffredin o gyflwyno eu canlyniadau gwyddonol i'r gymuned ar ffurf adroddiadau llafar ac ysgrifenedig.

Cynnwys

Cyfnod chwiliad y llenyddiaeth (chwiliad llenyddiaeth ac adolygiad)
Cyfnod cynllunio (cynllun prosiect, adnoddau)
Cyfnod arbrofol (gwaith arbrofol, dogfen canlyniadau rhagarweiniol)
Cyfnod lledaenu (cyflwyniad llafar, adroddiad llafar)

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6