Module Information

Cod y Modiwl
GF14030
Teitl y Modiwl
CYFRAITH EWROP
Blwyddyn Academaidd
2012/2013
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2 (Dysgwyd dros 2 semester)
Elfennau Anghymharus
LA17120, LA37120, LA32410, GF17120, GF32410, LA34030, GF34030, LA14030
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlithoedd 40 awr (yn Saesneg)
Seminarau / Tiwtorialau 8 awr. 4 x 1 awr yn Gymraeg pob semester.
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Ailsefyll 3 Awr   Arholiad  - Caiff ymgeiswyr ddod a chopiau heb eu marcio o Rudden & Wyatt, EU Treaties and Legislation; Blackstone's EU Treaties and Legislation; Sweet & Maxwell's Statutes: EU Law; Palgrave Macmillan Core EU Legislation i mewn i'r arholiad. Rhaid i unrhyw ddeunydd heb ei farcio o'r fath aros heb ei farcio drwy gydol yr arholiad. Caniateir goleuo testun a thanlinellu. Cewch ddefnyddio nodiadau gludiog post-it i gadw tudalennau.  100%
Arholiad Semester 3 Awr   Arholiad  - Caiff ymgeiswyr ddod a chopiau heb eu marcio o Rudden & Wyatt, EU Treaties and Legislation; Blackstone's EU Treaties and Legislation; Sweet & Maxwell's Statutes: EU Law; Palgrave Macmillan Core EU Legislation i mewn i'r arholiad. Rhaid i unrhyw ddeunydd heb ei farcio o'r fath aros heb ei farcio drwy gydol yr arholiad. Caniateir goleuo testun a thanlinellu. Cewch ddefnyddio nodiadau gludiog post-it i gadw tudalennau.  100%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

1. Egluro a dangos dealltwriaeth o natur a datblygiad cyfraith yr UE.
2. Egluro rolau'r prif Sefydliadau Ewropeaidd.
3. Dadansoddi prosesau deddfwriaeth a datblygiad egwyddorion cyfreithiol yn Ewrop.
4. Dangos tystiolaeth o gwblhau ymchwil gyfreithiol er mwyn dangos lefel sylfaenol o gymhwysedd wrth leoli a defnyddio prif ffynonellau a ffynonellau eilaidd cyfraith Ewropeaidd.
5. Dangos dealltwriaeth o sut y mae gwahanol gategorïau o gyfraith Ewrop yn rhyngweithio â systemau cyfreithiol cenedlaethol.
6. Egluro'r egwyddorion y seilir y farchnad fewnol sengl arnynt a sut yr adlewyrchir y rhain mewn darpariaethau Cytuniad a'u datblygiad mewn deddfwriaeth eilaidd ac achos Llys Cyfiawnder Ewrop.
7. Cymhwyso'r egwyddorion cyfreithiol perthnasol er mwyn datrys problemau damcaniaethol ac ymarferol sy'n codi pynciau yn ymwneud ag agweddau ar Gyfraith yr Undeb Ewropeaidd.

Disgrifiad cryno

Mae cyfraith yr Undeb Ewropeaidd (UE) bellach yn cynnwys corff sylweddol iawn o reolau sy'n rheoli sbectrwm eang o weithgareddau masnachol a chymdeithasol yn yr aelod-wladwriaethau ac mae hi'n amhosibl bellach i feithrin dealltwriaeth synhwyrol o gyfraith a system gyfreithiol y DU heb wybodaeth am yr UE a gorchmynion cyfreithiol Ewropeaidd eraill. Mae'r modiwl hwn yn cyflwyno deunyddiau a methodolegau gorchmynion cyfreithiol Ewrop i fyfyrwyr ac yn egluro prif nodweddion y systemau cyfreithiol sy'n seiliedig ar yr Undeb Ewropeaidd. Bydd y modiwl yn canolbwyntio'n benodol ar brosesau deddfu; gweithredu a gorfodi cyfraith a pholisi'r UE; atebolrwydd cyfreithiol sefydliadau'r Undeb Ewropeaidd; y berthynas rhwng yr UE a systemau cenedlaethol, ynghyd â meysydd pwysig cyfraith sylwedd yr UE, megis y rheolau cyfreithiol sy'n rheoli'r farchnad fewnol.

Cynnwys

1. Hanes datblygiad yr Undeb Ewropeaidd; ei berthynas â Chyngor Ewrop ac yn arbennig y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol; Maes Rhyddid, Diogelwch a Chyfiawnder.
2. Natur Cyfraith yr UE: Ystyr a datblygiad Athrawiaeth Goruchafiaeth cyfraith yr UE; Athrawiaeth effaith uniongyrchol; Cymwysterau a Chategorïau'r Gyfraith (Rheoliadau, Cyfarwyddebau, Penderfyniadau)
3. Strwythur sefydliadol yr Undeb Ewropeaidd: Comisiwn, Cyngor a Senedd (cyfansoddiad a phwerau); Cyfansoddiad a Strwythur Sefydliadol Llysoedd yr UE; rôl yr Adfocad Cyffredinol; Dulliau Gwaith a Phroses Rhesymu'r Llysoedd Ewropeaidd.
4. Prosesau deddfu'r UE: Prosesau Deddfu ffurfiol a 'Chyfraith Feddal'.
5. Gweithredu a gorfodi rheolau'r Undeb Ewropeaidd; rôl Llysoedd Cenedlaethol a'r Drefn Gyfeirio Ragarweiniol; Effaith Uniongyrchol; Atebolrwydd Gwladol.
6. Atebolrwydd yng nghyfraith yr UE: Adolygiad Barnwrol o Weithredu'r Undebau; Sail dros yr Adolygiad Barnwrol o Weithredu'r Undebau; Comisiwn yn Gorfodi Rheolau'r UE.
7. Rheoliad y Farchnad Fewnol: Darpariaethau Symud yn Rhydd (Pobl, Nwyddau a Gwasanaethau).
8. Meysydd Polisi Sylwedd Dethol yn ôl Cymhwysedd yr UE neu feysydd cyfraith sy'n ymwneud â rheoliad y farchnad fewnol, e.e. meysydd Cyfraith Cystadlu, Polisi Cymdeithasol.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Paratoi, a thrafod, mewn seminarau
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Bydd dysgu drwy gydol y modiwl yn berthnasol i yrfa ym myd y gyfraith
Datrys Problemau Paratoi a thrafod cwestiynau datrys-problemau mewn seminarau
Gwaith Tim Gwaith seminar: paratoi a thrafodaethau grwp
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Ymchwilio yn dilyn y darlithoedd a pharatoi seminarau
Rhifedd
Sgiliau pwnc penodol Ymchwil gyfreithiol: defnyddio cronfeydd data cyfreithiol a gynlluniwyd yn benodol fel adnodd ar gyfer cyfraith statudol a chyfraith achosion
Sgiliau ymchwil Ymchwilio yn dilyn y darlithoedd a pharatoi seminarau
Technoleg Gwybodaeth Ymchwilio yn dilyn y darlithoedd a pharatoi seminarau

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4