Module Information
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlithoedd | 18 darlith (50 munud yr un) |
Seminarau / Tiwtorialau | 5 seminar (100 munud yr un) dosbarthiadau tiwtorial unigol |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Arholiad Semester | 3 Awr Arholiad ysgrifenedig 3 awr | 60% |
Asesiad Semester | 2 x traethawd o 2,500 o eiriau | 40% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Arddangos dealltwriaeth bendant o ddulliau cyfoes a dadleuon ynglyn a hanes yr Oesoedd Canol o tua 1100 hyd 1500
Arddangos gwybodaeth gyffredinol o ddiwylliant canoloesol
Arddangos y gallu i ddefnyddio ac ymdrin yn feirniadol a gwahanol fathau o ffynonellau gwreiddiol ac eilaidd
Arddangos y gallu i gasglu a defnyddio tystiolaeth hanesyddol briodol a chynhyrchu dadleuon priodol
Arddangos y gallu i weithio fel unigolion ac mewn grwpiau
Arddangos y medrau sydd yn briodol i astudio diwylliant canoloesol a chynhyrchu gwaith mewn modd proffesiynol
Disgrifiad cryno
I ba raddau y mae'n bosibl i haneswyr heddiw `gwrando' ar leisiau pobl yn yr Oesoedd Canol? Beth mae'r dystiolaeth ganoloesol yn gallu dweud wrthym heddiw am gymdeithas ac unigolion sawl canrif yn ol? Archwilio ac asesu ymagweddiadau a syniadaeth diwylliannau a chymdeithasau'r Oesoedd Canol ar draws gwledydd Ewrop trwy ffynonellau y cyfnod yw ffocws y modiwl hwn. Trwy edrych ar themau gwahanol, o weithgareddau'r Babaeth i ymarferion hamdden a bywyd bob dydd pobl `gyffredin', bydd myfyrwyr yn dysgu am fydoedd yr Oesoedd Canol. Bydd y seminarau yn arbennig yn ystyried yn fanwl fathau gwahanol o dystiolaeth ganoloesol - y rhan fwyaf ohonynt yn ysgrifenedig (llythyrau, llenyddiaeth dogfennau ffurfiol, croniglau, gan gynnwys gwaith Gerallt Gymro, Jaume I o Aragon, Froissart, Matthew Paris ac eraill) - er mwyn trafod yn ddwys y themau sy'n codi yn y darlithoedd.
Nod
Bwriad y modiwl yw cyflwyno myfyrwyr i rai o'r dulliau a'r agweddau hanesyddol a ddefnyddir er mwyn dadansoddi diwylliannau'r Oesoedd Canol yn Ewrop, gan dalu sylw arbennig i ffynonellau canoloesol ysgrifenedig a gweledol. Fel y cyfryw, mae'r modiwl yn ychwanegu at rai presennol mewn hanes yr Oesoedd Canol.
Cynnwys
1. Cyflwyniad
2. Gwreiddiau a chyd-destunau
Llywodraeth a chymdeithas yn Ewrop yr Oesoedd Canol
3. Awdurdod a llywodraeth
4. "Pobl gyffredin"
5. Grwpiau ffiniol
6. Yr economi
7. Hamdden
8. Teithio a symudedd
9. Afiechyd a meddygaeth
10. Celfyddyd a llenyddiaeth
Yr Eglwys yn Ewrop yr Oesoedd Canol
11. Y ffydd Gristnogol
12. Heresi
13. Mwslimiaid ac Iddewon
14. Y Babaeth a hierarchaeth yr eglwys
15. Yr urddau crefyddol
16. Addysg a'r "meddwl canoloesol"
Tu hwnt i'r Oesoedd Canol
17. Tu hwnt i Ewrop
18. Diwedd yr Oesoedd Canol?
Seminarau:
1. Croniglau
2. Dogfennau ffurfiol
3. Llythyrau
4. Llenyddiaeth
5. Celfyddyd
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Darllen o fewn cyd-destunau gwahanol ac at ddibenion gwahanol; gwrando'n effeithiol; ysgrifennu ar gyfer dibenion a chynulleidfaoedd gwahanol. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Datblygu ymwybodaeth o medrau personol, safbwyntiau a nodweddion personol, yng nghyswllt dilyniant cwrs; cynllunio a pharatoi ar gyfer gyrfa yn y dyfodol. |
Datrys Problemau | Nodi problemau; nodi ffactorau a allai effeithio ar atebion posibl; datblygu meddylfryd creadigol tuag at ddatrys problemau; gwerthuso manteision ac anfanteision atebion posibl; llunio cynnig rhesymegol wrth ymateb i broblem. |
Gwaith Tim | Deall y cysyniad o ddeinameg grwp; cyfrannu at osod targedau grwp; cyfrannu'n effeithiol at gynllunio gwaithgareddau grwp; cymryd rhan weithredol mewn gweithgareddau grwp; ymarfer medrau trin a thrafod, a medrau perswad; gwerthuso gweithgareddau grwp a chyfraniad personol. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Dangos ymwybyddiaeth o ddulliau dysgu, hoffterau ac anghenion personol, a'r rhwystrau rhag dysgu; cynllunio a gweithredu strategaethau dysgu a hunanreolaeth realistig; creu cynllun gweithredu personol a fydd yn cynnwys targedau tymor byr a thymor hir; arolygu a monitor cynnydd, gan adolygu'r cynllun gweithredu fel bo'n briodol, i wella perfformiad cyffredinol. |
Rhifedd | |
Sgiliau pwnc penodol | Datblygu gwybodaeth ac adnabyddiaeth ffynonellau ynglyn a diwylliant canoloesol; datblygu'r gallu i ddefnyddio offer ymchwil hanesyddol addas. |
Sgiliau ymchwil | Deall ystod o ddulliau ymchwil; cynllunio a chyflawni ymchwil; cynhyrchu adroddiadau academaidd addas. |
Technoleg Gwybodaeth | Defnyddio amrywiaeth o becynnau meddalwedd a ddefnyddir yn gyffredin; paratoi a mewngofnodi data; rheoli systemau storio; cyflwyno gwybodaeth a data; defnyddio rhyngrwyd yn briodol ac yn effeithiol. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6