Module Information
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlithoedd | 19 Awr. (19 x 1 darlith awr) |
Seminarau / Tiwtorialau | 3 Awr. (3 x 1 dosbarth enghreifftiol) |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Arholiad Semester | 2 Awr 2 Awr (arholiad ysgrifenedig) | 100% |
Asesiad Ailsefyll | 2 Awr 2 Awr (arholiad ysgrifenedig) | 100% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau’r modiwl, dylai’r myfyrwyr allu:
1. disgrifio maes eang rhaglennu llinol;
2. fformwleiddio sefyllfaoedd real fel problemau rhaglennu llinol;
3. datrys problemau o’r fath gan ddefnyddio Dull Simplecs;
4. gweithredu addasiadau addas i’r dechneg sylfaenol.
5. dehongli canlyniadau o ddatrysiadau rhaglennu llinol wedi’w cynhyrchu gan gyfrifiadur.
Disgrifiad cryno
Prif nôd Rhaglennu Llinol yw i facsimeiddio neu minimeiddio ffwythiant llinol sydd â amryw o newidynnau, yn ôl cyfyngiadau wedi eu mynegi ar ffurf anhafaliadau llinol neu hafaliadau. Mae theori Rhaglennu Llinol bellach wedi hen ymsefydlu, i’r graddau iddo gael ei gynnig fel opsiwn o fewn pecynnau cyfrifiadurol megis taenlenni ar gyfer busnesau. Mae’r modiwl hwn yn cyfuno theori a chymwysiadau’r pwnc yn ogystal a chysidro’r dehongliad i ddatrysiadau’r problemau.
Nod
Cyflwyno techneg bwysig mewn Mathemateg sy’n cael ei ddefnyddio’n helaeth yn y byd gwaith.
Cynnwys
2. Y DULL SIMPLECS: Y syniad cyffredinol; nodweddion algebraidd a geometregol. Theorem Sylfaenol Rhaglennu Llinol. Newidynnau artiffisial; dull M-mawr, dull dwy wedd, Dull Simplex Ddeuol. Newidynnau diarwydd. Beth all fynd o’i le.
3. DADANSODDIAD SENSITIFRWYDD: Dehongli’r darlun simplecs, yn cynnwys dehongliad economaidd lle bo’n briodol. Prisiau deuol. Newid ac elw ffiniol.
4. DEUOLRWYDD: Y broblem ddeuol a’i hysgogiad. Theorem Sylfaenol Deuolrwydd. Y berthynas rhwng datrysiadau i’r broblem wreiddiol a’r broblem ddeuol. Llacrwydd cyflenwol. Dehongliadau o’r broblem Ddeuol.
5. PYNCIAU ARBENNIG: Detholiad o’r pynciau: Gemau swm-sero, rhaglennu cyfanrifau, problemau priodoli, problemau trawsgludo.
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6