Module Information

Cod y Modiwl
TC30120
Teitl y Modiwl
DADANSODDI A DAMCANIAETHAU CYNHYRCHIAD
Blwyddyn Academaidd
2012/2013
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2 (Dysgwyd dros 2 semester)
Rhagofynion
Cwblhau Rhan 1 yn llwyddiannus yn y cyfryw gynlluniau gradd
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlithoedd Darlith/Gweithdy 1 x 2 awr yr wythnos
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Portffolio adfyfyriol (yn gyfatebol a 2500 o eiriau)  50%
Asesiad Semester Traethawd (2500 o eiriau)  50%
Asesiad Ailsefyll Portffolio adfyfyriol (2500 o eiriau) - (Gwaith newydd)  50%
Asesiad Ailsefyll Traethawd (2500 o eiriau) - (Gwaith newydd)  50%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

1. Dangos dealltwriaeth o swyddogaeth damcaniaeth wrth astudio theatr a pherfformop neu ffilm a'r cygryngau.

2. Trin a thrafod gwahanol theoriau a syniadau beirniadol yn hyderus ac yn addas.

3. Cymwyso theori critigol wrth astudio performiad theatrig neu gynhyrchiad cyfryngol.

Nod

Amcan y modiwl hwn yw cyflwyno syniadaeth allweddol ym meysydd y cyfryngau creadigol (perfformio a chyfryngau) gan ganiatau i'r myfyrwyr astudio cynyrchiadau mewn perthynas a'r theoriau hyn.

Nod y modiwl hwn fydd cynnig cyflwyniad i fyfyrwyr Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu gyda'i gilydd o rai o'r meysydd theoretig pwysicaf a mwyaf amlwg eu dylanwad ar y cyfryngau a'r ymarferwyr y byddant yn eu hastudio yn ystod eu cwrs Gradd Anrhydedd.

Fe fydd y darlithoedd ar gyfer y modiwl yn canolbwyntio ar amlinellu amodau ac amcanion y meysydd theoretig hyn, tra bod y sesiynau gwylio yn rhoi cyfle iddynt ystyried i ba raddau y mae modd cymhwyso'r syniadau theoretig wrth ymateb i ddigwyddiadau cyfryngol a byw.

O ran hynny, fe fydd modd i'r myfyrwyr ddewis pa fath o ddeunydd y dymunant ei wylio: naill theatr a pherfformio byw neu ffilmiau, rhaglenni teledu a deunydd o'r cyfryngau newydd. Trafodir a ddadansoddir y gweithiau hyn ar wahan i'w gilydd mewn dau gyfres o seminarau.

Un o gonglfeini'r broses ddysgu ar y modiwl hwn fydd y tasgau cyfieithu deunydd theoretig a gynhelir yn y darlithoedd/seminarau: fe fydd y rhain yn cymella galluogi'r myfyrwyr i ystyried sut y mae cymhwyso terminoleg o wahanol fathau er mwyn ymateb yn ddeallus, yn ddadansoddiadol a chreadigol i'r deunydd theoretig a gyflwynir iddynt.

Disgrifiad cryno

Fe fydd y modiwl hwn yn gyfle i fyfyrwyr ddod yn gyfarwydd a rhai o'r prif theoriau sydd yn sylfaen i astudio'r cyfryngau creadigol ac yn gyfle hefyd i gymwyso rhai ohonynt wrth astudio perfformiadau neu gynyrchiadau ffilm a chyfryngol.

Cynnwys

Yn ogystal a sesiwn gyflwyniadol a sesiwn grynhoi, fe fydd y modiwl yn cynnig sesiynau fel a ganlyn:

1. Sesiwn gyflwyniadol
2. Defnyddio Theori a Beirniadaeth wrth Astudio Cynyrchiadau
3. Marcsiaeth, y Chwith Brydeinig ac Astudiaethau Diwylliannol
4. Cenedl, Cenedligrwydd a Chenedlaetholdeb
5. Astudiaethau Rhywedd, Ffeminyddiaeth, Gwrywdodau a Theoriau Rhywioldeb
6. Ol-drefedigaethedd
7. Globaleiddio a'r Gymdeithas Rwydwaith
8. Dadansoddi Cynhyrchiad Perfformiadol neu Theatrig
9. Dadansoddi Cynhyrchiad Cyfryngol neu Ffilm
10. Sesiwn grynhoi

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Bydd yn rhaid i'r myfyriwr gyflwyno'u gwaith ar lafar ac yn ysgrifenedig. Caiff y sesiynau dysgu eu cynnig mewn modd ble gall y myfyrwyr gyfrannu at drafodaeth. Rhydd hyn gyfle i fyfyrwyr finiogi eu sgiliau cyfathrebu ar lafar ac yn ysgrifenedig.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Disgwylir i fyfyrwyr wneud dewisiadau unigol ar y gwaith perfformiadol neu gynhyrchiad cyfryngol y maent am ganolbwyntio arnynt ar gyfer Aseiniad 3, gan gyfrannu at Ddatblygiad Personol. Nid oes sesiynau penodol ar gynllunio gyrfa ond wrth astudio perfformiadau a chynyrchiadau cyfoes, caiff y myfyrwyr gyfle i ddyfnhau eu gwybodaeth o ddiwydiant y cyfryngau creadigol.
Datrys Problemau Disgwylir cyfle i fyfyrwyr arddangos ymwybyddiaeth o adnabod problemau a chanfod ffyrdd o'u datrys o fewn cyd-destun astudiaeth y modiwl.
Gwaith Tim Er mai yn unigol y caiff y gwaith asesedig ei farcio, bydd disgwyl i fyfyrwyr gyfranogi at waith ei gilydd drwy gyflwyno sylwadau ar y cyfleyniad llafar yn benodol.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Bydd y myfyrwyr yn cyflwyno eu hasesiad llafar o flaen eu cyfoedion ac fe fyddant yn rhoi sylwadau ar y cynnwys a'r perfformiad. Bydd cyfle felly i'r myfyrwyr wella eu gwybodaeth o theoriau yn dilyn yr asesiad hwn.
Rhifedd Ni ragwelir y bydd y modiwl hwn yn datblygu sgiliau defnyddio gwybodaeth rifyddol.
Sgiliau pwnc penodol
Sgiliau ymchwil Disgwylir i fyfyrwyr ymchwilio ymhellach n achynnwys ffurfiol y darlithoedd er mwyn canfod deunydd priodol i gyflawni eu haseiniadau.
Technoleg Gwybodaeth Disgwylir i fyfyrwyr ddefnyddio sgiliau sylfaenol technoleg gwybodaeth ar gyfer y modiwl hwn. Bydd cyfle i ddefnyddio meddalwedd penodol ae gyfer y cyflawniad llafar ond nid yw hynny'n angenrheidiol.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6