Module Information

Cod y Modiwl
TCM0330
Teitl y Modiwl
YMARFER PERFFORMIO A CHYNHYRCHU CYDGYFEIRIANNOL
Blwyddyn Academaidd
2012/2013
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Elfennau Anghymharus
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Eraill 5 x Gweithdai 6 awr 5 x Sesiwn Hyfforddi 4 awr (wedi’u harwain gan diwtor)
 
Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Cyflwyniad Ymarferol Grŵp (Gofynnir i’r myfyriwr ymgynnull grŵp er mwyn ail sefyll yr asesiad er mwyn llunio a chyflwyno perfformiad rhyngweithiol byr o 30 munud ar thema rhagbenodedig)   60%
Asesiad Ailsefyll Sylwebaeth feirniadol ar gyfraniad yr unigolyn i’r prosiect gorffenedig: 2,000 o eiriau  40%
Asesiad Semester Cyflwyniad Ymarferol mewn Grŵp (Gofynnir i’r myfyrwyr ymrannu’n grwpiau bychain er mwyn llunio a chyflwyno perfformiad rhyngweithiol byr o 30 munud ar thema rhagbenodedig;. Caiff y cyflwyniad ei ddogfennu er mwyn ei ddangos i’r arholwr allanol a’i gadw fel rhan o gofnodion y myfyriwr yn yr Adran. Fe ddefnyddir system o ddatgrynhoi marciau grŵp wrth asesu’r cyflwyniad hwn.)   60%
Asesiad Semester Sylwebaeth feirniadol ar gyfraniad yr unigolyn i’r prosiect gorffenedig: 2,000 o eiriau  40%

Canlyniadau Dysgu

Wrth gwblhau'r modiwl hwn, dylai myfyrwyr fedru:
1. Arddangos dealltwriaeth o strategaethau a thechnegau cymhleth ar gyfer dyfeisio digwyddiad perfformiadol / cyfryngol / rhyngweithiol, gan gynnwys arddangos meistrolaeth o fethodolegau storiol sy'n briodol ar gyfer y rhychwant o gyfryngau dyfeisio a chyflwyno yn y digwyddiad hwnnw;.
2. Arddangos gallu i gymryd cyfrifoldeb dros weithredu egwyddorion methodolegol a chynrychioliadol mewn ffordd drefnus ac ystyrlon, a defnyddio sgiliau datblygedig wrth gyflawni ymchwil annibynnol a chreadigrwydd gweithredol a fydd yn arwain at gyflwyniad ymarferol;
3. Arddangos gallu i weithio'n effeithiol a chydweithredol mewn sefyllfa gymunol, a fydd yn cynnwys gweithredu a goruchwylio, cymryd cyfrifoldeb wrth reoli a llywio profiad unigol a phrofiad grwp mewn sefyllfa greadigol;
4. Gwerthuso strategaethau a thechnegau cyfansoddi, strwythuro, llwyfannu a chyflwyno wrth greu estheteg berfformiadol / gyfryngol unigol;

Nod

Mae nod y modiwl hwn fel a ganlyn:

a) i gyflwyno ac archwilio ystod eang o strategaethau a methodau o greu a chyflwyno deunydd ymarferol (gwaith corfforol byw a/neu waith a gyflwynir trwy'r cyfryngau). Fe fydd y strategaethau a methodau hyn yn hyrwyddo prosesau cysyniadol, cyfansoddi ac ymarfer;
b) i ddarparu sail ddeallusol ac ymarferol ar gyfer creu gwaith perfformio a chynhyrchu cyfoes trwy gyfrwng cyfres o wahanol fethodau dyfeisio;
c) i ddarparu cyfleoedd i weithredu'r strategaethau cyfansoddiadol a chysyniadol a archwilir yn ystod y gwaith cwrs;
d) i hyrwyddo a galluogi'r broses o lunio, datblygu a chyflwyno darnau o waith perfformiadol a chyfryngol.

Disgrifiad cryno

Cynnwys

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Disgwylir i'r myfyrwyr ddatblygu'r sgiliau hyn trwy ofyn iddynt ystyried a dangos proses a chanlyniadau ymchwil yn yr aseiniadau.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Fe rydd y modiwl gyfle i'r myfyrwyr wylio gwaith ymarferwyr gwadd. Fe fydd hefyd yn rhoi cyfle iddynt ddatblygu medrau perfformio a chymathu egwyddorion ymarferol a all fod o ddefnydd mewn gyrfa broffesiynol. Nid asesir yr agweddau proffesiynol hyn fel rhan o'r modiwl, fodd bynnag
Datrys Problemau Fe fydd y modiwl yn helpu myfyrwyr i ddatblygu'r sgiliau hyn trwy eu herio i geisio ymgorffori'r deunydd a'r egwyddorion a gyflwynwyd ac wrth geisio cwrdd a'r brîff rhagosodedig yn yr aseiniad ymarferol ac ysgrifenedig.
Gwaith Tim
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Fe fydd y modiwl yn cymell myfyrwyr i ddatblygu ac i werthuso allbwn creadigol personol effeithiol a gwreiddiol. Gofynnir iddynt hefyd i asesu perthnasedd yr arbrawf ymarferol yn y modiwl hwn ar gyfer eu gwaith pellach.
Rhifedd
Sgiliau pwnc penodol
Sgiliau ymchwil Fe fydd y modiwl yn helpu myfyrwyr i ddatblygu'r sgiliau hyn trwy ofyn iddynt ystyried a dangos proses a chanlyniadau ymchwil yr aseiniadau.
Technoleg Gwybodaeth

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7