Module Information

Cod y Modiwl
HAM0160
Teitl y Modiwl
Traethawd Hir 2
Blwyddyn Academaidd
2013/2014
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 3 (Traethawd Hir)

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Seminarau / Tiwtorialau Cyfarwyddyd unigol yn ôl yr angen gan oruchwylwyr y traethodau ymchwil. Cyfarwyddyd unigol yn ôl yr angen gan oruchwylwyr y traethodau ymchwil.
Dadansoddi Llwyth Gwaith Ymchwil ac astudiaeth annibynnol, ynghyd ag ysgrifennu’r traethawd: 600 awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Ailgyflwyno traethawd a fethodd hyd at flwyddyn ar ôl y canlyniad gwreiddiol, ar gyfer marc heb fod yn fwy na 50 
Asesiad Semester Traethawd hir 15,000 o eiriau  Traethawd hir 15,000 o eiriau 

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

Arddangos arbenigedd ymchwil ym maes neilltuol eu hastudiaeth;

Cynhyrchu darn hanesyddol trefnus sy’n dangos sgiliau beirniadaol a dadansoddiadol;

Gwneud cyfraniad at faes ymchwil hanesyddol;

Cyflwyno gwaith o safon academaidd proffesiynol o ran cyfeiriadu a chyflwyniad.

Disgrifiad cryno

Rhesymeg academaidd y cynnig:
Y traethawd hir yw’r elfen olaf yn rhaglen MA yr Adran ac y mae’n llenwi’r gofynion ar gyfer Rhan II y radd MA. Nod y traethawd yw i asesu gallu’r myfyryiwr i ddadansoddi corff sylweddol o ddeunydd hanesyddol, ei drefnu, a’i gyflwyno mewn ffordd sy’n cynnal dadl sy’n argyhoeddi ac sy’n gwneud cyfraniad i ysgolheictod hanesyddol. Ni ddisgwylir o reidrwydd i’r myfyriwr ddarganfod canlyniadau newydd, ond yn hytrach i ysgrifennu darn o ymchwil wreiddiol sy’n arddangos y gallu i feddwl yn annibynnol.
Disgryfiad cryno:
Ar gyfer y modiwl hwn, ymchwilir a chyflwynir traethawd hir yr MA, sef darn o waith ymchwil annibynnol o hyd at 15,000 o eiriau, gyda chyfarwyddyd aelod o staff a benodir i oruchwylio’r ymchwil.
Cynnwys:
Cynnwys y modiwl yw paratoi a chyflwyno’r traethawd. Disgwylir i’r myfyrwyr gyflawni hyn yn ystod yr haf, gyda chyfarwyddyd aelod o staff. Bydd y traethawd yn ddarn o waith ymchwil hanesyddol annibynnol 15,000 o eiriau ar bwnc o ddewis y myfyriwr.
Disgwylir i fyfyrwyr gyflwyno’u traethodau erbyn 30 Medi yn ystod blwyddyn eu hastudio. Bydd myfyrwyr rhan-amser yn cyflwyno erbyn 30 Medi yn y flwyddyn ganlynol.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Datblygir drwy ddangos y gallu i gyflwyno dadl synhwyrol mewn darn o ysgrifennu hanes sydd yn cyrraedd safon academaidd derbyniol, o bosib yn cynnwys theorïau cymhleth sydd angen eu cyfleu’n effeithiol i’r darllenydd.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Drwy ddatblygu ymwybyddiaeth o sgiliau personol, a fydd yn cyfrannu at gyflogadwyedd i’r dyfodol.
Datrys Problemau Datblygir sgiliau o ran lleoli deunyddiau a threfnu canlyniadau ymchwil mewn modd systematig ac effeithiol. Hefyd wrth ddod i adnabod materion ymghlwm â’r prosiect a all fod yn broblematig a darganfod ffyrdd i ddygymod â rhain.
Gwaith Tim Heb fod yn berthnasol.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Drwy osod targedau realistig a chynllunio sut i’w cyrraedd; drwy fyfyrio’n feirniadol ar y gwaith; drwy ymateb yn gadarnhaol i feirniadaeth adeiladol; drwy gadw llygad ar gynnydd personol er mwyn sicrhau’r canlyniadau gorau posib.
Rhifedd Pan yn briodol i’r prosiect, drwy gasglu a dadanoddi data ystadegol yn feirniadol.
Sgiliau pwnc penodol
Sgiliau ymchwil Datblygir sgiliau drwy leoli a gwerthuso ystod o ffynonellau gwreiddiol ac eilaidd sy’n berthnasol i bwnc y traethawd, gan wneud defnydd priodol o’r rhain i adeiladu a chyflwyno dadl gyson.
Technoleg Gwybodaeth Drwy wneud defnydd addas o adnoddau i gynorthwyo ymchwil, adnoddau arlein a phecynnau meddalwedd amrywiol, gan ddibynnu ar anghenion y prosiect ymchwil.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7