Module Information

Cod y Modiwl
IE10400
Teitl y Modiwl
Hanes a Diwylliant Ewropeaidd
Blwyddyn Academaidd
2013/2014
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1 (Dysgwyd dros 2 semester)

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlithoedd Darlithoedd: 20 awr
Seminarau / Tiwtorialau Seminarau: 20 awr
Dadansoddi Llwyth Gwaith Paratoi ar gyfer/gwaith yn dilyn darlithoedd: 20 Paratoi ar gyfer/gwaith yn dilyn seminarau: 20 Adolygu ar gyfer yr arholiad: 40 Ysgrifennu traethodau: 80 awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester 2 x traethawd (1,500 gair yr un)  Mae hyn yn unol â modiwlau 20 credyd eraill yn yr adran sydd ar lefel 4.  40%
Arholiad Semester 2 Awr   arholiad  60%
Arholiad Ailsefyll 2 Awr   asesiad Atodol  Mae'r asesiad atodol hwn yn unol â modiwlau lefel 4 20 credyd eraill yn yr adran sy'n cynnwys dau draethawd ac un arholiad ar gyfer yr asesiad semester.  1 x arholiad ysgrifenedig a fydd yn ymdrin â'r un meysydd â'r asesiadau semester (2 awr)  100%

Canlyniadau Dysgu

Wrth gwblhau'r modiwl hwn, dylai myfyrwyr fedru:
.
dangos ymwybyddiaeth o hanes cyffredinol Ewrop o 1789 i'r presennol

dangos dealltwriaeth o'r syniadau pwysicaf sydd wedi cyfrannu at hunaniaeth(au) Ewropeaidd a gorllewinol ers 1789

dangos dealltwriaeth o gyfnodau allweddol yn hanes Ewrop

dangos dealltwriaeth o dueddiadau a datblygiadau cyffredinol yn niwylliant gorllewin Ewrop
.
dangos y gallu i ystyried elfennau diwylliannol o fewn cyd-destun hanesyddol

Disgrifiad cryno

Mae'r modiwl yn cynnig arolwg o fudiadau allweddol yn syniadaeth a diwylliant Ewrop, yn ogystal â digwyddiadau hollbwysig 'Ewropeaidd' sydd hefyd yn cyfrannu'n sylweddol at hanes y byd: Chwyldroadau gwleidyddol y 19eg Ganrif, y Chwyldro Diwydiannol, Twf Cenedlaetholdeb, Syniadau newydd fel Sosialaeth a Chomiwnyddiaeth, Twf Ffasgaeth, y ddau Ryfel Byd, er enghraifft. Yn ystod hanner cyntaf y cwrs, fe fydd yn canolbwyntio ar y 18fed a'r 19eg Ganrif, ac yn edrych ar gyd-destun hanesyddol a chymdeithasol Ewrop ar drothwy'r Oes Fodern. Edrycha'r modiwl ar yr Oes Oleuedig, a'r 19eg ganrif a'r Oes Ramantaidd. Mae'r ail dymor yn canolbwyntio ar yr ugeinfed ganrif a hyd at y presennol.

Cynnwys

Y 18fed a'r 19eg Ganrif

1. Sesiwn cyflwyno (pawb)
2. Darlith: Ewrop 17-89-1815(Chwyldro Ffrengig, Cyfnod Napoléon a'r Goleuo) (i'w gadarnhau)
3. Darlith a seminar: Hanes Ewrop 1815-1830 (Cytundeb Fiena, Chwyldro 1830 a Rhamantiaeth) (i'w gadarnhau)
4. Darlith: Chwyldro Diwydiannol yn Ewrop (Edith Grüber)
5. Darlith a seminar: Chwyldro 1848 a Genedigaeth y genedl-wladwriaeth (Edith Grüber)
6. Darlith a seminar: Egin cenedlaetholdeb yn Sbaen a diwylliant a gwleidyddiaeth yng Nghatalwnia (Siân Edwards)
7. Darlith a seminar: Ymfudo yn yr Oes Ddiwydiannol (Gethin Matthews/ Edith Grüber)
8. Sesiwn ysgrifennu traethawd (Edith Grüber)
9. Sesiwn adolygu ac adborth (Edith Grüber)

Yr 20fed a'r 21ain Ganrif

9. Darlith a seminar: Y Rhyfel Byd Cyntaf (Gethin Matthews)
10. Darlith a seminar: Gwreiddiau a Thwf Ffasgaeth (Steffan John)
11.Darlith: Ffasgaeth mewn grym (Steffan John)
12.Darlith a seminar: Ffrainc a'r Ail Rhyfel Byd: Ffilm Au Revoir les Enfants (Kathryn Jones)
13.Darlith a seminar: Ffilmio Ewrop: yr 20fed Ganrif a'r 21ain (Jonathan Ervine)
14. 2 ddarlith a seminar: Ewrop a'r Byd: Dehongli'r byd trwy lygaid 'Ewropeaidd' (Sophie Smith)
15. 2 ddarlith a seminar: Ewrop ac America Ladin (Geraldine Lublin)
16. Darlith: Sefydlu'r Undeb Ewropeaidd (Siân Beidas)
17. Darlith a seminar: Statws Ieithoedd Lleiafrifol yn yr Undeb Ewropeaidd (Siân Beidas)
18. Sesiwn adolygu ac adborth (i'w gadarnhau)

Nod

Modiwl ar gyfer myfyrwyr y Celfyddydau ar ddechrau eu gyrfa academaidd yw hwn. Mae'n archwilio newidiadau allweddol yn hanes, syniadaeth a diwylliant Ewrop o 1789 i'r cyfnod modern. Serch hynny, nid modiwl hanesyddol yn unig yw hwn. Fe geir amlinelliad o hanes a datblygiad Ewrop yn gyffredinol, ond anogir y myfyrwyr i ddadansoddi diwylliant Ewropeaidd a pherthnasedd cyfnodau hanesyddol pwysig i'r datblygiad hwnnw. Mae'r modiwl yn darparu sail hollbwysig er mwyn i fyfyrwyr allu astudio diwylliant a hanes gwledydd Ewrop mewn dyfnder a manylder a bydd yn cyfeirio at ystod eang o ffurfiau diwylliannol: llenyddiaeth, celf, delweddau a ffilm.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Datblygir: Sgiliau cyfathrebu ar lafar, drwy gyfrannu i drafodaethau'r dosbarth a seminarau, ac yn ysgrifenedig drwy ysgrifennu traethodau
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Datblygir drwy ddarlithoedd a seminarau: Y gallu i ddatblygu barnau annibynnol ac i fynegi, arholi ac amddiffyn y farn honno ar lafar ac yn ysgrifenedig
Datrys Problemau Datblygir: Y gallu i ddadansoddi digwyddiadau hanesyddol a diwylliant yn feirniadol drwy ddarlithoedd, seminarau, traethodau a'r arholiad nas gwelir o flaen llaw.
Gwaith Tim Dysgir y seminarau mewn grwpiau bach ac mae trafodaethau grwp yn rhan annatod o'r dysgu.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Datblygir: Sgiliau trefnu amser trwy reoli eu hastudiaethau a'u gwaith trwy gyflwyno traethodau asesedig yn brydlon
Rhifedd Nid yw'r modiwl hwn yn ymdrin â'r sgil hwn yn uniongyrchol
Sgiliau pwnc penodol Datblygir drwy ddarlithoedd, seminarau, traethodau a'r arholiad nas gwelir o flaen llaw: Y gallu i ddadansoddi diwylliant o fewn cyd-destun hanesyddol
Sgiliau ymchwil Datblygir drwy ddarlithoedd, seminarau, traethodau a'r arholiad nas gwelir o flaen llaw: Y gallu i ymchwilio pwnc yn effeithiol Y gallu i ddadansoddi testunau, delweddau, ffilm a ffynonellau diwylliannol eraill
Technoleg Gwybodaeth Bydd disgwyl i fyfyrwyr ddefnyddio'r we, y Porth, technoleg fideo-gynadledda a phrosesydd geiriau wrth baratoi ar gyfer seminarau ac ysgrifennu traethodau

Rhestr Ddarllen

Testun A Argymhellwyd
Auerbach, Erich (1959) Mimesis: The Representation of Reality in Western literature Francke Chwilio Primo Cranston, Maurice (1994) The Romantic Movement Blackwell Chwilio Primo Doyle, William (2002) The Oxford History of the French Revolution 2nd Edition Oxford University Press Chwilio Primo Ford, Glyn (1992) Fascist Europe: The Rise of Racism and Xenophobia Pluto Press Chwilio Primo Furst, Lilian R. (1979) The Contours of European Romanticism Macmillan Chwilio Primo Heer, Friedrich (1972) Europe, Mother of Revolutions Weidenfeld and Nicolson Chwilio Primo Hoffmeister, Gerhart (1990) Literary Cross-Currents, Modes, and Models European Romanticism Wayne State UP Chwilio Primo Lukacs, G (1972) Studies in European Realism The Merlin Press Chwilio Primo Mosse, George L. (1963) The Culture of Western Europe: the Nineteenth and Twentieth Centuries; an Introduction Murray Chwilio Primo Porter, Roy (2001) The Enlightenment Palgrave Chwilio Primo Strachan, Huw (2003) The First World War Simon & Schuster Chwilio Primo Jones, Aled and Jones, Bill (2003) Journal of Imperial and Commonwealth History The Welsh World and the British Empire, c. 1851-1939: An Exploration http://www.tandfonline.com/doi/pdf/10.1080/03086530310001705606 Cyf. 31 Rhif 2 Thacker, Toby Cymry'r Rhyfel Mawr Ar-lein Hunaniaeth Gymreig a'r Rhyfel Mawr http://www.cardiff.ac.uk/share/research/projectreports/welshvoices/articles/articles.html

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4