Module Information

Cod y Modiwl
MT27510
Teitl y Modiwl
Theori ac Ymarfer Samplu
Blwyddyn Academaidd
2013/2014
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Elfennau Anghymharus
MX37510
Rhagofynion
MA26510
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlithoedd 10 awr (10 Darlith, 1 awr)
Seminarau / Tiwtorialau 5 awr (5 trafodaeth grwp, 1 awr)
Sesiwn Ymarferol 10 awr (5 dosbarth ymarferol, 2 awr)
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Arholiad Ymarferol 2 awr, lle caiff ymgeiswyr ddefnyddioi nodiadau (50%); adroddiad arolwg (50%)  100%
Asesiad Semester Gwaith Cwrs  40%
Asesiad Semester Adroddiad Arolwg  60%

Canlyniadau Dysgu

Ar ol cwblhau'r modiwl hyn, dylai'r myfyrwyr allu:

Gweithredu'r theori ar gyfer samplu meidraidd;

Cyfrifo meintiau'r samplau sydd eu hangen er mwyn cyflawni targedau penodol;

Llunio samplau o fath addas ar gyfer amryw o boblogaethau;

Llunio holiadur er mwyn casglu gwybodaeth o ansawdd da;

Casglu, coladu, cyflwyno, dadansoddi a dehongli data arolwg sampl.

Nod

Bydd y modiwl hwn yn rhoi gwerthfawrogiad i'r myfyriwr o werth theori ystadegol ynghyd a'r anawsterau sy'n gysylltiedig a chymhwysiad ymarferol y syniadau yma. Bydd y myfyriwr yn ennill profiad o weithio fel aelod o dim, cynllunio a threfnu arolwg sampl, creu holiadur, trin a dadansoddi data real ac ysgrifennu adroddiad.

Disgrifiad cryno


Mae'r modiwl hwn yn cyfuno theori samplu gyda phrofiad o gynllunio a chynnal arolwg sampl.

Cynnwys


1. CYFLWYNIAD: Buddion samplu. Yr angen i gynllunio'n drylwyr. Poblogaethau, unedau samplu, fframiau samplu, cynlluniau samplu. Gofyn y cwestiwn cywir er mwyn cael gwybodaeth o'r ansawdd gorau posib.
2. THEORI SAMPLU MEIDRAIDD: Theori hapsamplu syml. Cywiriadau poblogaethau meidraidd. Haenu, Cwotau, Clystyru, dulliau Systematig ac Amlran. Cymharu dyluniadau samplu ar gyfer amcangyfrif cymedrau, cyfansymiau, amrywiannau, cyfrannau. Samplu optimaidd pan mae'r maint llawn neu'r gost wedi'i bennu.
3. CYNLLUNIO AROLWG SAMPL: Diffinio'r broblem, gosod amserlen, penderfynu ar gynllun samplu addas, creu holiadur.
4. RHAI PROBLEMAU: Poblogaethau targed. Diffyg ymateb. Arolygu pynciau sensitif. Poblogaethau natur gwyllt, poblogaethau anodd ei dal/holi. Ol-haenu.
5. DADANSODDI DATA: Gwirio am wallau. Dadansoddiad o dablau newidynnau, cymharu cyfraneddau, dulliau sy'n rhydd o ddosraniad (swm rhengoedd), cyflwyniad eglur o'r canlyniadau.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5