Module Information
Course Delivery
Delivery Type | Delivery length / details |
---|---|
Lecture | Darlithoedd a Seminarau: 5x 2 awr yn ystod Semester 1 |
Lecture | Darlithoedd a Seminarau: 5 x 2 awr yn ystod Semester 2 |
Assessment
Assessment Type | Assessment length / details | Proportion |
---|---|---|
Semester Assessment | 1. Llyfryddiaeth gyda nodiadau | 25% |
Semester Assessment | 2. Cynllun Ysgrifenedig o'r Cynnig Ymchwil Dylai hefyd ymgorffori amserlen a chynllun manwl o'r camau ar gyfer cyflawni a chyflwyno'r ymchwil terfynol. Dylai'r cynllun ysgrifenedig fod yn 3,500 o eiriau. Dylai gynnwys yr elfennau uchod (thema, methodoleg, fframwaith cysyniadol). Bydd yn ddilyniant o'r Cyflwyniad Llafar. | 75% |
Supplementary Assessment | Llyfryddiaeth gyda nodiadau Os methir y modiwl oherwydd methu unrhyw elfen ohono, rhaid ailgyflwyno'r elfen honno. | 25% |
Supplementary Assessment | Cynllun Ysgrifenedig o'r Cynnig Ymchwil | 75% |
Learning Outcomes
On successful completion of this module students should be able to:
1. Arddangos dealltwriaeth o ofynion ymchwil academaidd ar lefel uwchraddedig
2. Arddangos y gallu i adnabod, caffael a chymhwyso methodoleg addas ar gyfer cynllunio prosiect ymchwil uwchraddedig
3 Arddangos y gallu i drefnu a chyflwyno cynllun ymchwil cynhwysfawr, cydlynol a chyraeddadwy.
Aims
Amcan y modiwl hwn yw cyflwyno myfyrwyr i'r methodolegau ymchwil a arddelir ym meysydd y cyfryngau creadigol gyda'r bwriad o ddatblygu eu hymwybyddiaeth o'r amrywiaeth sydd a'r gael, dyfnhau eu gwybodaeth ohonynt a chynnig cyfle iddynt archwilio'r tensiynau rhyngddynt.
Brief description
Mae'r modiwl hwn yn cynnig cyfle i fyfyrwyr archwilio ystod o fethodolegau ymchwil addas gan arwain at baratoi cynnig deallus, dilys a chydlynol ar gyfer eu prosiect neu draethawd ymchwil terfynol TCM0560.
Content
Beth yw Cwestiwn Ymchwil?
Dulliau Dadansoddi ac Ymchwil: Bydd sesiynau yn ystyried achosion penodol o ymchwil yn defnyddio rhai o'r canlynol:
(i) Dadansoddi Testun
(ii) Dadansoddi Cynnwys
(iii) Dadansoddi Disgwrs
(iv) Ethnograffeg a'r Ymchwilydd
(v) Ysgrifennu Perfformiadol
(vi) Ymchwil drwy Ymarfer
(vii) Ymarfer fel Ymchwil
Ffurfio a chyflwyno cynnig ymchwil
Module Skills
Skills Type | Skills details |
---|---|
Application of Number | Bydd rhai methodolegau (e.e. dadansoddi cynnwys) yn estyn defnydd o wybodaeth rifyddol ac ystadegol y myfyrwyr. |
Communication | Bydd yn rhaid i'r myfyriwr gyflwyno'r cynnig ymchwil ar lafar ac yn ysgrifenedig. Caiff y sesiynau dysgu hefyd eu cynnig yn gyfle i'r myfyriwr finiogi ei sgiliau cyfathrebu, gan ddisgwyl cyfraniadau ystyrlon a gloyw. |
Improving own Learning and Performance | Bydd angen i'r myfyrwyr ddatblygu cynnig a chynllun ymchwil unigryw eu hunain a fydd yn seiliedig ar eu syniadau, eu dealltwriaeth a'u gwybodaeth. Mae hunanreolaeth yn rhan bwysig o ddatblygu ffiniau'r cynllun terfynol. Fe fydd y sesiynau yn cynnig cyfle i fyfyrwyr archwilio eu profiad dysgu a pherfformio eu hunain. |
Information Technology | Bydd rhai methodolegau (e.e. dadansoddi cynnwys) yn estyn sgiliau technoleg gwybodaeth y myfyrwyr. Disgwylir hefyd y bydd defnydd o gyfryngau newydd yn rhan o’r hinsawdd ymchwil hwn. |
Personal Development and Career planning | Rhydd y modiwl hwn gyfle i fyfyrwyr ddatblygu prosiect ymchwil arbennig sydd wedi ei leoli o fewn cyd-destun ymchwil academaidd ac o fewn maes y cyfryngau creadigol. Rhoddir pwyslais ar i'r myfyriwr ddatblygu'n bersonol o fewn y fframwaith hwn. |
Problem solving | Arddangos gallu i lunio cynnig ar gyfer prosiect ymchwil. Bydd y medrau hyn yn cael eu datblygu wrth i'r myfyriwr ystyried y math o gwestiynau ymchwil, y dulliau a'r methodolegau addas ar gyfer y dasg a'r technegau a'r strategaethau o gynllunio ymchwil uwchraddedig. |
Research skills | Prif amcan y modiwl hwn yw astudio ac ystyried ystod o fethodolegau ar gyfer dod i benderfyniad ynglŷn â chynllun ymchwil uwchraddedig. Mae gofyn i'r myfyriwr roi ystyriaeth lawn i'r dulliau a'r deunyddiau ymchwil. |
Subject Specific Skills | Rhydd y modiwl hwn gyfle i fyfyrwyr ddatblygu prosiect ymchwil arbennig sydd wedi ei leoli o fewn cyd-destun ymchwil academaidd ac o fewn maes y cyfryngau creadigol. Rhoddir pwyslais ar i'r myfyriwr ddatblygu'n bersonol o fewn y fframwaith hwn. |
Team work | Er mai cynigion ymchwil unigol yw prif ffocws asesiadau'r modiwl, disgwylir i'r myfyrwyr gyfranogi at waith eu cyd-fyfyrwyr yn ystod y seminarau a hefyd wrth iddynt gyflwyno eu cynnig ymchwil ar lafar. |
Reading List
Recommended TextAnderson, J & Poole, M (1998) Assignment and Thesis Writing John Wiley Primo search Berry, Ralph (2000) The Research Project: how to Write it Routledge Primo search Burgess, R (1997) Practice Based Doctorates in Creative and Performing Arts and Design Council for Graduate Education Primo search Deacon, David, Pickering, Michael, Golding, Peter and Murdock, Graham (2007) Researching Communications: A Practical Guide to Methods in Media and Cultural Analysis London: Arnold Primo search Ferre, J.P. (1983) Merrill Guide o the Research Paper Columbus, Ohio: Merrill Primo search Jensen, K.B. and Janowski, N. (eds.) (1991) A Handbook of Qualitative Methodologies for Mass Communication Research Routledge Primo search Stokes, Jane (2003) How to do Media and Cultural Studies London: Sage Primo search Turabian, K.A. (1996) A Manual for Writers of Term Papers, Theses and Dissertations University of Chicago Press Primo search Wisker, G. (1987) Writing a Thesis: A Guide to Long Essays and Dissertations London: Longman Primo search
Notes
This module is at CQFW Level 7