Module Information
Course Delivery
Delivery Type | Delivery length / details |
---|---|
Other | Gweithdai/Darlithoedd 10 x 2 awr |
Assessment
Assessment Type | Assessment length / details | Proportion |
---|---|---|
Semester Assessment | 1. Dyddiadur Digidol Portffolio o ymarferion a thasgau i'w cwblhau yn raddol dros gyfnod Semester 1. Bydd hyn yn cynnwys mynegi drwy amrywiol ddulliau cyfathrebol. | 50% |
Semester Assessment | 2. Cyflwyniad Ffurfiol ar Lafar Ar ddiwedd Semester 1, bydd y myfyrwyr yn cyflwyno yr hyn y maent wedi ei gynnwys yn y Dyddiadur Digidol ac yn ei ystyried mewn modd atblygol ac mewn perthynas a theorïau'r maes, Hyd y cyflwyniad 20 munud. | 50% |
Supplementary Assessment | 1. Os methir y Dyddiadur Digidol, yna rhaid ei ailgyflwyno | 50% |
Supplementary Assessment | 2. Os methir y cyflwyniad ffurfiol ar lafar, yna rhaid ailgyflwyno gerbron dosbarth neu o flaen isafswm o ddau arholwr/wraig yn ôl gofynion ac amodau’r amserlen. | 50% |
Learning Outcomes
The module TCM0620 Cyfathrebu Digidol requires students to demonstrate the following:
• a depth of understanding and critical awareness of key theories and practice in digital communication as postgraduate students of creative media;
• the ability to evaluate and apply some of the main tenets of digital communication, as practitioners and as researchers;
• to reflect upon their own digital practices in written and oral form.
Aims
Amcan y modiwl hwn yw cyflwyno myfyrwyr i ystod o ddamcaniaeth ac ymarfer sydd yn sylfaenol ar gyfer deall cyfathrebu digidol, fel ymarferwyr ac fel ymchwilwyr. Bwriad y modiwl yw rhoi cyfle i fyfyrwyr y cwrs meistr gael sylfaen gref mewn cyfathrebu digidol, gan fireinio eu sgiliau ac adeiladu arnynt. Bydd yn datblygu ymwybyddiaeth y myfyrwyr o amrywiaeth cyd-destun cyfathrebu digidol.
Brief description
Mae'r modiwl hwn yn cynnig cyfle i fyfyrwyr archwilio ystod o theorïau ac ymarfer sydd yn allweddol i gyfathrebu digidol. Bydd hyn yn cynnwys astudio'r cyfryngau cymdeithasol a phlatfformau rhyngweithiol eraill, gyda'r bwriad o alluogi'r myfyrwyr i ddeall a gweithredu yn y cyd-destunau hyn fel ymarferwyr ac fel ymchwilwyr. Fe rydd y modiwl gyfle i fyfyrwyr drafod ac ymholi i werth a chyrhaeddiad y syniadau hyn ac i'w gosod mewn cyd-destun a fydd yn berthnasol i'w cynllun astudio neilltuol hwy.
Content
1. Cyflwyniad i gyfathrebu digidol
2. Egwyddorion sylfaenol Gwe 2.0 a rhyngweithedd
3. Moeseg cyfathrebu arlein
4. Technolegau a chymdeithas.
5. Naratifau amlblatfform
6. Ystyriaethau ieithyddol wrth ddefnyddio platfformau rhyngweithiol
7. Cyfryngau Cymdeithasol fel arf i'r ymchwilydd
8. Cyfryngau Cymdeithasol fel arf i'r ymarferydd
9. Datblygu platfform wici
10. Amlgyfryngedd a chyfranogiad rhyngweithiol
Module Skills
Skills Type | Skills details |
---|---|
Application of Number | Nid oes disgwyl i fyfyrwyr ddatblygu eu sgiliau defnyddio gwybodaeth rifyddol yn y modiwl hwn. |
Communication | Mae'r modiwl yn gosod pwyslais sylweddol ar allu cyfathrebu: fe fydd y traethawd ysgrifenedig yn profi gallu'r myfyriwr i lunio a chyflwyno dadl a dadansoddiad cynhwysfawr ar bapur; ac fe fydd y cyflwyniad llafar ffurfiol yn gofyn iddo/iddi baratoi a chyflwyno dadl yn ogystal ag ateb cwestiynau a sylwadau wedi hynny. |
Improving own Learning and Performance | Fe fydd y myfyriwr yn derbyn ymateb ac adborth gan y dosbarth ar yr aseiniad cyntaf (cyflwyniad llafar) ac fe rydd hyn gyfle i fyfyrwyr archwilio eu profiad dysgu a pherfformio eu hunain. |
Information Technology | Bydd cyfle i ddefnyddio elfennau ychwanegol o dechnoleg gwybodaeth o fewn yr aseiniad cyntaf, ond nid asesir hyn. |
Personal Development and Career planning | Ni fydd sesiynau ffurfiol ar gynllunio gyrfa a datblygiad personol o fewn y modiwl penodol hwn. |
Problem solving | Fel unrhyw fodiwl sy'n trafod theori a chysyniadau, fe fydd y modiwl yn gofyn i'r myfyrwyr fynd i'r afael â syniadau a'u cymhwyso ar gyfer eu hanghenion a'u daliadau neilltuol eu hunain. Fe fydd y modiwl hefyd yn gofyn i fyfyrwyr ystyried sut y gellir trosglwyddo syniadau am ddiwylliant i gyd-destun ymarferol trwy baratoi a chynhyrchu cyflwyniad llafar ffurfiol. |
Research skills | Fe fydd y naill asesiad a'r llall ar gyfer y modiwl hwn yn gofyn i'r myfyriwr gyflawni ymchwil llyfrgell ac archif. |
Subject Specific Skills | Lle bo'n briodol gall myfyriwr ddefnyddio technegau ymchwil a chyflwyno mewn perthynas ag ymarfer nad ydynt yn gyffredin mewn pynciau cyffelyb. |
Team work | Ni ddatblygir gwaith tîm yn ffurfiol o fewn y modiwl hwn y tu hwnt i'r hyn sydd yn arferol mewn modiwlau sydd yn cynnwys seminarau. Yn yr aseiniad cyntaf, disgwylir i fyfyrwyr gyd-drafod eu gwaith ynghyd â chynnig adborth a gwneud sylwadau ar waith ei gilydd. |
Reading List
Recommended TextBenkler, Y. (2006) The wealth of networks: how social production transforms markets and freedoms Yale University Press Primo search Coupland, N (2010) The handbook of language and globalisation Androutsopoulos, J. 'Localizing the Global on the Participatory Web' Pgs 202-231 Oxford: Wiley-Blackwell Primo search Coupland, N. (2010) The handbook of language and globalisation Oxford: Wiley-Blackwell Primo search Jenkins, H. (2006) Convergence Culture: where old and new media collide New York University Press Primo search Jones, E.H.G & Uribe-Jongbloed, E. (2013) Social Media and Minority Languages: Convergence and the Creative Industries Clevedon: Multinlingual Matters Primo search O'Reilly, T. & Milstein, S. (2009) The Twitter Book O'Reilly Media Primo search Ellinson, N., Lampe, C. Steinfeld, C. (2011) New Media and Society Connection Strategies: Social Capital Implications of Facebook-Enabled Communication Practices 13 (6), pgs 873-892 Primo search Ferguson, D. & Greer, C. (2011) Journal of Broadcasting and Electronic Media Using Twitter for Promotion and Branding: A Content Analysis of Local Television Twitter Sites 55 (2), 198-214 Primo search Golan, G. & Lim, J. (2011) Communication Research Social Media Activism in Response to the Influence of Political Parody Videos in YouTube 38(5), 710-727 Primo search Honeycutt, C. and Herring, Susan C. (2009) Proceedings of the Forty-Second Hawaii International Conference on System Sciences Beyond Microblogging: Conversation and collaboration via Twiter Los Alamitos, CA IEE Primo search Java, A., Song, X., Finin, T. & Tseng, B. (2007) Proceedings of the 9th WebKDD and 1st SNA-KDD 2007 workshop on Web mining and social network analysis Why we Twitter: Understanding microblogging usage and communities. pp. 56-65 San Jose, CA. ACM Primo search Marwick, A. & Boyd, D. (September 2010) New Media and Society I Tweet Honestly, I Tweet Passionately: Twitter Users, Context Collapse and the Imagined Audience Sage Primo search Simpson, B., Markovsky, B. & Steketee, M. (2011) Social Networks Power and the Perceptin of Social Networks 33(2), 166-171 Primo search http://socialmediacollective.org/publications/ http://www.danah.org/researchBibs/twitter.php
Notes
This module is at CQFW Level 7