Module Information

Cod y Modiwl
CY12700
Teitl y Modiwl
Cyflwyniad i Gymraeg Proffesiynol
Blwyddyn Academaidd
2014/2015
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1 (Dysgwyd dros 2 semester)
Rhagofynion
Fel arfer 'A' neu 'B', Safon A Cymraeg (Iaith Gyntaf)
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlithoedd 11 darlith (bob pythefnos)
Seminarau / Tiwtorialau 11 awr - seminar/dosbarth ymarferol
Sesiwn Ymarferol
Dadansoddi Llwyth Gwaith (Llwyth gwaith i fyfyrwyr o 100 awr ar gyfer pob 10 credyd) Darlithoedd/seminarau/dosbarthiadau: 22 awr Paratoi ar gyfer seminarau/dosbarthiadau: 48 awr Ymchwilio/adolygu: 130 awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Semester 2 Awr   40%
Asesiad Semester Asesiadau ar dasgau ysgrifenedig a llafar (y 4 tasg orau allan o 6 bob semester) Cyfwerth ywr asesiadau ysgrifenedig ar asesiadau llafar.  60%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

Dangos dealltwriaeth o sut mae'r Gymraeg yn cael ei defnyddio yn y byd cyfoes.

Dangos sgiliau llafar priodol.

Dangos sgiliau ysgrifennu priodol.

Nod

Mae'r modiwl hwn yn paratoi myfyrwyr rhugl yn y Gymraeg ar gyfer gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg ar lefel broffesiynol yn y Brifysgol ac yn y gweithle. Anelir at fyfyrwyr ym mhob Cyfadran sydd am ddatblygu eu sgiliau iaith

Disgrifiad cryno

Astudiaeth o ddefnydd a chyweiriau'r iaith gyfoes mewn amgylchiadau amrywiol, e.e. ysgrifennu academaidd, newyddiaduraeth, cyfieithu ar y pryd, addasu a chyfieithu, cadw cofnodion ffurfiol, ysgrifennu adroddiadau, ysgrifennu datganiadau i'r wasg.

Cynnwys

Darperir 11 darlith ac 11 seminar/dosbarth ymarferol (am yn ail) ar y pynciau canlynol:
1 Y Gymraeg yn y Cynulliad
2 Gweinyddu drwy'r Gymraeg; cymryd cofnodion
3 Llunio adroddiadau, ysgrifennu llythyron ffurfiol, a gwneud precis
4 Llunio c.v. a chynnal cyfweliadau
5 Cyfieithu ar y pryd, chyfieithu ar bapur a chyfeithu ar y cyfrifiadur
6 Y Gymraeg mewn newyddiaduraeth; ysgrifennu datganiadau i'r wasg
7 Y diwydiant cyhoeddi yng Nghymru
8 Cyfieithu ac addasu deunyddiau ysgrifenedig o iaith arall
9 Golygu a pharatoi ar gyfer y wasg; cysodi a chywiro proflenni
10 Addasu geiriau caneuon o iaith arall
11 Addasu llyfrau ar gyfer cyfrwng arall (radio, teledu, ffilm)

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Drwy gyfrannu ar lafar mewn seminarau a dosbarthiadau a thrwy sefyll profion.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Drwy ddatblygu ymwybyddiaeth o fedrau personol ac ymwybyddiaeth o ofynion byd gwaith
Datrys Problemau Drwy werthuso'n feirniadol broblemau a osodir yn ystod y cwrs.
Gwaith Tim Drwy gyfrannu'n effeithiol i weithgareddau grw^p
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Drwy werthuso adborth gan ddarlithwyr a thiwtoriaid
Rhifedd
Sgiliau pwnc penodol
Sgiliau ymchwil Drwy ddod o hyd i wybodaeth berthnasol yn y llyfyrgell, ar y We, ac yn y cyfryngau perthnasol.
Technoleg Gwybodaeth Drwy ddefnyddio pecynnau meddalwedd berthnasol megis Cysill, Cysgair a Google Translate, ac offer cyfieithu.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4