Module Information

Module Identifier
CYM0320
Module Title
Darllen fel llenor: dulliau cyfansoddi
Academic Year
2014/2015
Co-ordinator
Semester
Semester 1
Pre-Requisite
Gradd dda yn y Gymraeg neu mewn iaith arall a meistrolaeth ar Gymraeg ysgrifenedig, neu brofiad proffesiynol perthnasol.
Other Staff

Course Delivery

 

Assessment

Assessment Type Assessment length / details Proportion
Semester Assessment Critique neu adroddiad beirniadol a  Critique neu adroddiad beirniadol ar unrhyw dri dull creadigol (ynghyd ag enghreifftiau penodol) a drafodir ar y modiwl. (3,000 o eiriau)  75%
Semester Assessment Arwain trafodaeth mewn seminar  Arwain trafodaeth mewn seminar  15%
Semester Assessment Dyddlyfr hunanfyfyriol BwrddDu  Dyddlyfr hunanfyfyriol BwrddDu yn olrhain profiad dysgu’r myfyrwyr a’r modd y cymhwysir theori yn ymarferol, yn enwedig mewn perthynas â’r portffolio gorffenedig (1,000 o eiriau).  10%
Supplementary Assessment Ailgyflwynir elfennau a fethwyd yn unol â’r canrannau a nodir, uchod. 

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

dangos eu bod wedi dirnad y gydberthynas rhwng ymchwil/darllen a chreadigrwydd.

deall a diffinio’r dulliau cyfansoddi canlynol: cynnwys a thema, cymeriadaeth; cywair; naratif; llais; disgrifio; deialog; ideoleg a rhywedd.

meithrin agwedd ymholgar wrth drafod dulliau cyfansoddi mewn amrywiaeth o destunau llenyddol; cyflwyno’r ystyriaethau hyn, ynghyd â dangos dealltwriaeth o’r dulliau cyfansoddi, mewn dull priodol, yn y tasgau a asesir.

adnabod a chloriannu ffynonellau ymchwil/darllen sy’n berthnasol i’w hanghenion creadigol penodol (sef y portffolio terfynol).

Brief description

Sylfaen resymegol y modiwl creiddiol hwn yw bod perthynas gilyddol rhwng ymchwil/darllen beirniadol a chreadigrwydd. Gan hynny, bydd y modiwl yn gyflwyniad theoretig ac ymarferol i dechnegau creadigol sylfaenol sy’n rhan o arfogaeth llenor mewn unrhyw gyfrwng, boed farddoniaeth neu ryddiaith. Bydd y modiwl yn galluogi myfyrwyr i gymhwyso’r sgiliau sylfaenol hyn wrth fynd i’r afael â’r modiwlau sy’n ymarfer eu creadigrwydd (CYM0120; CYM0720; CYM0220; CYM0820).

Trafodir amrywiaeth o destunau (barddoniaeth a rhyddiaith) er mwyn galluogi myfyrwyr i ymchwilio, adnabod, dadansoddi a thrafod technegau cyfansoddi, a hynny yng nghyd-destun y proses creadigol. Trafodir testunau Cymraeg yn eu cyd-destun llenyddol ehangach, gan gynnwys y cyd-destun Ewropeaidd ac Americanaidd fel y bo’n briodol. Ymhellach, rhoddir arweiniad i fyfyrwyr er mwyn eu galluogi i ddechrau cynllunio eu portffolio creadigol ac i gymhwyso’r dulliau ymchwil a darllen at y prosiect creadigol hwnnw.

Content

Dadansoddir a thrafodir y technegau creadigol canlynol mewn 10 sesiwn dwyawr (sef darlith a seminar i drafod enghreifftiau pwrpasol):
1. rhagarweiniad
2. cynnwys a thema
3. cymeriadaeth
4. cywair
5. naratif
6. llais
7. disgrifio
8. deialog
9. ideoleg
10. rhywedd
Rhoddir cyflwyniad i bob pwnc mewn darlith; yna cynhelir seminarau er mwyn dadansoddi a thrafod enghreifftiau penodol. Bydd y darlithydd yn darparu enghreifftiau i’w trafod, ond anogir myfyrwyr i adnabod enghreifftiau addas hefyd trwy gyfrwng eu gwaith darllen ac ymchwil annibynnol.

Aims

Yn wahanol i CYM0220, CYM0720, CYM0120 a CYM0820 sy’n canolbwyntio ar ‘greu’ ac ar feithrin creadigrwydd, mae pwyslais beirniadol i’r modiwl hwn. Gweler Adran D, isod. Bydd y modiwl hwn hefyd yn gyfle i ddarparu hyfforddiant ymchwil priodol: cyweiriau iaith priodol, cywain ffynonellau a’u defnyddio’n briodol, llunio (troed)nodiadau a llyfryddiaethau, gochel llên-ladrad.

Module Skills

Skills Type Skills details
Application of Number amherthnasol
Communication Dangos dealltwriaeth o’r dulliau cyfansoddi a’u harwyddocâd yng ngwaith awduron eraill ac mewn perthynas â’u gwaith creadigol eu hunain.
Improving own Learning and Performance Y gallu i gynhyrchu tasgau beirniadol yn effeithiol, gan gynnwys cymhwyso’r ymchwil/darllen at eu portffolio creadigol eu hunain.
Information Technology Y gallu i baratoi, llunio a chyhoeddi testunau electronig; defnyddio BwrddDu AberLearn.
Personal Development and Career planning Dysgir sgiliau ymchwil, dadansoddi a chymhwyso a fydd yn sylfaen i’w gwaith creadigol y tu hwnt i’r cynllun MA hwn.
Problem solving Y gallu i weithio mewn modd cyson a chynyddol ar dasgau beirniadol dros gyfnod estynedig; medru dangos eu bod yn gallu cymhwyso gwedd feirniadol y modiwl at eu gweithgarwch creadigol eu hunain.
Research skills Ennill gwybodaeth am ddulliau cyfansoddi drwy ddarllen ac astudio rhychwant o destunau llenyddol.
Subject Specific Skills Mae’r sgiliau a ddatblygir oll yn benodol i’r pwnc.
Team work Trafod testunau llenyddol yn feirniadol a pharchu safbwyntiau myfyrwyr eraill.

Notes

This module is at CQFW Level 7