Module Information

Cod y Modiwl
GW35020
Teitl y Modiwl
Cymru a Datganoli
Blwyddyn Academaidd
2014/2015
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlithoedd 16 o oriau. (16 x 1 awr)
Seminarau / Tiwtorialau 8 o oriau. (8 x 1 awr)
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Ailsefyll 2 Awr   (1 x 2 awr)  50%
Arholiad Semester 2 Awr   (1 x 2 awr)  50%
Asesiad Ailsefyll 1 x traethawd 3,000 o eiriau  50%
Asesiad Semester 1 x traethawd 3,000 o eiriau  50%
Asesiad Semester 1 x traethawd 3,000 o eiriau  50%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

- Deall a dadansoddi'n feirniadol brif nodweddion strwythurol a chyfansoddiadol y gwahanol gynlluniau a gafwyd cyn 1997 ar gyfer mwy o hunan-lywodraeth i Gymru; 

- Deall a dadansoddi'n feirniadol prif nodweddion strwythurol, deddfwriaethol a chyfansoddiadol datganoli i Gymru;

- Deall a gwerthuso natur y broses bolisi yng Nghymru wedi datganoli;

- Dadansoddi natur perthnasau rhyng-lywodraethol y llywodraeth ddatganoledig gyda lefelau eraill o lywodraeth, yn enwedig lefel y DG a'r Undeb Ewropeaidd

- Ystyried yn ddeallus a thrafod y dystiolaeth parthed natur cystadleuaeth bleidiol a natur diwylliant gwleidyddol yn y gyfundrefn ddatganoledig

- Ystyried yn feirniadol yr argymhellion cyfredol ar gyfer datblygu datganoli i Gymru

Disgrifiad cryno

Bwriad y modiwl yw cyflwyno myfyrwyr i'r gyfundrefn lywodraethu a sefydlwyd yng Nghymru gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 a Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Wedi trafod y cynlluniau blaenorol am ddatganoli bydd yn canolbwyntio ar wahanol agweddau ar wleidyddiaeth a threfniadau cyfansoddiadol Cymru ddatganoledig. Bydd hyn yn rhoi sail i asesu'r goblygiadau am ddyfodol datganoli.

Nod

Nod y modiwl yw datblygu'r gallu i drafod, deall a dadansoddi'r canlynol:

- gosod cyd-destun datganoli drwy drafod prif nodweddion strwythurol a chyfansoddiadol y gwahanol gynlluniau a gafwyd cyn 1997 ar gyfer hunan-lywodraeth i Gymru;
- prif nodweddion strwythurol a chyfansoddiadol datganoli i Gymru;
- natur y broses bolisi wedi datganoli;
- natur cystadleuaeth bleidiol a diwylliant gwleidyddol yn y gyfundrefn ddatganoledig;
- materion allweddol yn ymwneud â dyfodol datganoli i Gymru.

Cynnwys

Cyflwyniad

Datganoli : Y Cefndir Hanesyddol

Gor-olwg o'r ymdrechion hanesyddol am ddatganoli i Gymru

O Kilbrandon i Fethiant 1979

Atgyfodi'r freuddwyd: Y Llwybr i'r Cynulliad Cenedlaethol

Y Cynulliad Cenedlaethol

Y Cynllun Gwreiddiol: Deddf Llywodraeth Cymru 1998

Esblygiad datganoli: 1999 - 2006

Deddf Llywodraeth Cymru 2006 Rhan III

Deddf Llywodraeth Cymru Rhan IV

Y broses bolisi a datganoli i Gymru

Y Cynulliad, y Wladwriaeth Brydeinig, yr Undeb Ewropeaidd a'r Byd

Diwylliant Gwleidyddol yng Nghymru wedi datganoli

Gwleidyddiaeth Etholiadol yng Nghymru wedi datganoli

Y Pleidiau Gwleidyddol wedi datganoli

Y Cynulliad a Chymdeithas Sifil yng Nghymru

Cynrychiolaeth a'r Cynulliad Cenedlaethol

Dyfodol Datganoli i Gymru

Sgiliau trosglwyddadwy

Rhoddir cyfle i fyfyrwyr ddatblygu, ymarfer a phrofi ystod eang o sgiliau trosglwyddadwy a fydd oll o gymorth iddynt wrth geisio deall, dadansoddi a rhoi mynegiant i wahanol syniadau, cysyniadau a digwyddiadau. Trwy gydol y modiwl anogir myfyrwyr i ymarfer eu sgiliau darllen a dadansoddi, i hogi eu sgiliau rheoli amser, ac i ddeall arwyddocad rhifau syml. Yn y darlithoedd ceir cyfle i ddatblygu sgiliau gwrando a dadansoddi yn ogystal ag ysgrifennu nodiadau. Yn y seminarau ceir cyfle i wella sgiliau dadansoddiadol a chyfathrebu, ynghyd â'r gallu i weithio fel rhan o dim. Wrth baratoi traethodau caiff myfyrwyr eu hannog i ddatblygu ymhellach eu gallu i ymchwilio'n annibynnol, ac i wella eu sgiliau ysgrifennu a TG. Yn yr arholiadau profir sgiliau dadansoddiadol ac ysgrifennu yng nghysgod cyfyngder amser.

Rhestr Ddarllen

Testun A Cyffredinol
Llywodraeth y Cynulliad (2004) Adroddiad Comisiwn Richard HMSO Chwilio Primo Chaney, P., Hall, T., Pithouse (gol) (2001) New Governance - New Democracy? Post Devolution Wales Gwasg Prfiysgol Cymru, Caerdydd Chwilio Primo Hazell R (gol) (2003) The state of the Nations: The Third Year of Devolution in the United Kingdom Llundain, UCL, Imprint Academic Chwilio Primo Morgan, Kenneth O. (1998) Rebirth of a nation :a history of modern Wales /Kenneth O. Morgan. Chwilio Primo Osmond J and Barry Jones, J (gol) (2003) Birth of Welsh Democracy: The First Term of the National Assembly Caerdydd, Sefydliad Materion Cymreig Chwilio Primo Rawlings, Richard. (2003) Delineating Wales :constitutional, legal and administrative aspects of national devolution /by Richard Rawlings. Chwilio Primo

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6