Module Information

Cod y Modiwl
HA32120
Teitl y Modiwl
Dweud y Gwir?: Ceisio Lleisiau'r Oesoedd Canol
Blwyddyn Academaidd
2014/2015
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Seminarau / Tiwtorialau 10 x sesiynau 2 awr
Seminarau / Tiwtorialau 'Tiwtorial adborth' unigol am 10 munud ar gyfer pob aseiniad a gyflwynir
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Traethawd 1 - 1 x traethawd 1,500 o eiriau  20%
Asesiad Semester Traethawd 2 - 1 x traethawd 1,500 o eiriau  20%
Asesiad Semester 1 x prosiect 5,000 o eiriau  60%
Asesiad Ailsefyll Traethawd 1-1 x traethawd atodol (ail-sefyll) 5,000 o eiriau  20%
Asesiad Ailsefyll Traethawd 2-1 x traethawd atodol (ail-sefyll) 1,500 o eiriau  20%
Asesiad Ailsefyll 3 Awr   1 x prosiect atodol (ail-sefyll) 5,000 o eiriau  60%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

Disgrifiad cryno

Sut mae clywed lleisiau'r oesoedd canol? A oes posib cael syniad iawn o sut oedd pobl yn teimlo a sut oeddent yn meddwl? I ba raddau mae'r bosibl cael at y `gwirionedd? wrth edrych ar ffynonellau'r cyfnod? Dyma'r materion y bydd y modiwl hwn yn ymdrin a hwy. Wrth edrych ar ffynonellau llenyddol o'r cyfnod, yn enwedig barddoniaeth, byddwn yn trafod pa mor agos maent yn dod a ni at adnabod y bobl a'r gymdeithas a'r cynhyrchodd. Mae corff mawr o farddoniaeth wedi goroesi o Gymru'r oesoedd canol ac maent yn amrywiol iawn yn eu natur. O'r doniol i'r difrifol, o'r rhywiol i'r crefyddol, o ganmol i wawdio, maent i gyd yn ein dysgu am fywyd y cyfnod ac yn taflu goleuni ar agweddau gwahanol o gymdeithas: cyfoeth, eiddo, rhyfela, gwleidyddiaeth, diwylliant, hunaniaeth, credoau, emosiynau a dioddefaint. Wrth astudio'r ffynonellau, yn eu ffurf gwreiddiol ac ar ffurf diweddariadau, daw myfyrwyr i werthfawrogi pwysigwydd ffynonellau llenyddol a'r modd y gellir eu defnyddio i ddeall hanes a chael golwg ar deimladau a syniadau'r gorffennol.

Nod

Seminarau:
1. Rhagarweiniad: barddoniaeth a Chymru'r oesoedd canol
2. Canu mawl a marwnad - Llais y bardd? Llais y noddwr?
3. Canu serch a natur
4. Canu crefyddol
5. Canu brud
6. Barddoniaeth a gwleidyddiaeth
7. Barddoniaeth a'r personol
8. Barddoniaeth a diwylliant materol
9. Barddoniaeth fel ffynhonnell ffeithiol
10. Casgliadau: darlun o gymdeithas ganoloesol?

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6