Module Information

Cod y Modiwl
HA33320
Teitl y Modiwl
Hanes ar y Teledu
Blwyddyn Academaidd
2014/2015
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Elfennau Anghymharus
Any other skills module
Rhagofynion
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Seminarau / Tiwtorialau 10 x sesiynau 2 awr
Seminarau / Tiwtorialau 'Tiwtorial adborth' unigol am 10 munud ar gyfer pob aseiniad a gyflwynir
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester 1 x traethawd 1,500 o eiriau  20%
Asesiad Semester 1 x cyflwyniad seminar a chyfraniadau llafar cyffredinol  20%
Asesiad Semester 1 x prosiect 5,000 o eiriau  60%
Asesiad Ailsefyll 1 x traethawd atodol (ail-sefyll) 1,500 o eiriau  20%
Asesiad Ailsefyll 1 x cyflwyniad seminar a chyfraniadau llafar cyffredinol  20%
Asesiad Ailsefyll 1 x prosiect atodol (ail-sefyll) 5,000 o eiriau  60%

Canlyniadau Dysgu

Wrth gwblhau'r modiwl hwn, dylai myfyrwyr fedru:
dangos eu bod yn gyfarwydd a'r gwahanol ffyrdd y mae hanes wedi cael ei bortreadu ar y teledu;

dangos ymwybyddiaeth o sut y mae cynhyrchwyr rhaglenni teledu hanesyddol yn ceisio ymdrin a'r gynulleidfa, a'r math o ystyriaethau sy'n dylanwadu ar sylwedd ac arddull rhaglenni;

astudio mewn ffordd beirniadol y berthynas rhwng hanes ar y teledu fel enghraifft o `hanes poblogaidd' a hanes fel disgyblaeth academaidd, a thensiynau all godi yn y berthynas yma;

llunio a chynnal dadleuon yn ysgrifenedig ac ar lafar;

gweithio yn annibynol ac o fewn grwp, a chymryd rhan mewn trafodaethau seminar.

Disgrifiad cryno

Bydd y cwrs yn annog myfyrwyr i astudio'n gritigol un o'r prif ffyrdd y caiff hanes ei grosglwyddo i gynulleidfa eang - sef y teledu.
Cychwyna'r modiwl drwy astudio cysyniadau a themau allweddol, megis y syniad o `hanes cyhoeddus' a sut y caiff hanes ei ddirnad y tu allan i academia, a datblygiad genre y rhaglen ddogfen ffeithiol. Bydd yr asesiad cyntaf, byr, yn cyfeirio at y themau yma.
Bydd gweddill y modiwl yn edrych yn uniongyrchol ar sut y mae teledu wedi portreadu hanes, gan ganolbwyntio ar Brydain. Trafodir newidiadau hir-dymor yn y ffyrdd yr ymdrinir a phynciau hanesyddol, a'r rhesymeg dros ddewis pynciau arbennig ar gyfer rhaglenni. Hefyd bydd trafodaeth o arddull rhaglenni, a'r amrywiol ffyrdd y mae cynhyrchwyr rhaglenni yn ceisio ennyn diddordeb eu gwylwyr mewn testunau hanesyddol. Trwy gydol y modiwl, bydd y berthynas rhwng syniadau poblogaidd ac academiaidd ynglyn a hanes yn ganolog. Archwilir sut y gall hanes ar y teledu fod yn ffocws ar gyfer tensiynau rhwng y ffyrdd yma o ddirnad y gorffennol. Bydd prif ddarn o waith y myfyrwyr yn archwiliad critigol manwl o enghraifft o raglen dogfen hanesyddol.

Nod

Yn y blynyddoedd diwethaf bu twf aruthrol yn y nifer o raglenni hanesyddol ar y cyfryngau. Mae teledu aml-siannel wedi rhoi'r cyfle i nifer o sianelu newydd, sy'n canolbwyntio'n helaeth ar hanes, i ddatblygu, ac mae haneswyr megis David Starkey a Simon Schama wedi dod yn adnabyddus iawn i'r cyhoedd. Dim ond yn ddiweddar iawn y mae haneswyr proffesiynol wedi dechrau astudio'r ffenomenon yma mewn modd beirniadol.
Nawr, mae cwestiynnau pwysig yn cael eu gofyn ynglyn a'r hyn sy'n gyrru agenda'r gwneuthurwyr rhaglenni, sut y mae teledu yn ceisio ymdrin a'r gynulleidfa ac ymateb y gwylwyr i raglenni hanes, y berthynas rhwng `hanes cyhoeddus' a hanes proffesiynol, ac os y caiff rhai o'r blaenoriaethau sy'n bwysig i gyflwyno hanes ar y teledu yn beryglus i hanes fel disgyblaeth ddysgedig.
Bwriad y modiwl yw i annog myfyrwyr i ymdrin a'r fath bynciau, ac ymchwilio i un o'r ffyrdd mwyaf cyffredin y mae'r rhan fwyaf o'r boblogaeth yn dirnad a deall y gorffennol. Dylai'r modiwl apelio at ystod eang o haneswyr, ac hefyd bydd o fantais i rai sy'n ystyried gyrfa yn y cyfryngau

Cynnwys

1. Cyflwyniad: hanes a'r teledu
2. `Hanes cyhoeddus' [`Public history']
3. Y rhaglen deledu ddogfen.
4. Pwy sy'n rheoli'r agenda? Haneswyr, comisiynwyr, a gwneuthurwyr rhaglenni
5. Cyfnod cynnar rhaglenni hanesyddol - addysgu'r genedl
6. Datblygiad hanes ar y teledu - `dumbing down' ynteu democrateiddio?
7. Delio ag anghydfod hanesyddol a phynciau llosg
8. Enyn diddordeb y gwyliwr - dulliau cynhyrchu ac effeithiau arbennig
9. Y defnydd o atgofion personol - problemau a chyfleon
10. Casgliad

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Darllen o fewn cyd-destunau gwahanol ac at ddibenion gwahanol; gwrando'n effeithiol; ysgrifennu ar gyfer dibenion a chynulleidfaoedd gwahanol.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Datblygu ymwybodaeth o medrau personol, safbwyntiau a nodweddion personol, yng nghyswllt dilyniant cwrs; cynllunio a pharatoi ar gyfer gyrfa yn y dyfodol.
Datrys Problemau Nodi problemau; nodi ffactorau a allai effeithio ar atebion posibl; datblygu meddylfryd creadigol tuag at ddatrys problemau; gwerthuso manteision ac anfanteision atebion posibl; llunio cynnig rhesymegol wrth ymateb i broblem.
Gwaith Tim Deall y cysyniad o ddeinameg grwp; cyfrannu at osod targedau grwp; cyfrannu'n effeithiol at gynllunio gwaithgareddau grwp; cymryd rhan weithredol mewn gweithgareddau grwp; ymarfer medrau trin a thrafod, a medrau perswâd; gwerthuso gweithgareddau grwp a chyfraniad personol.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Dangos ymwybyddiaeth o ddulliau dysgu, hoffterau ac anghenion personol, a'r rhwystrau rhag dysgu; cynllunio a gweithredu strategaethau dysgu a hunanreolaeth realistig; creu cynllun gweithredu personol a fydd yn cynnwys targedau tymor byr a thymor hir; arolygu a monitor cynnydd, gan adolygu'r cynllun gweithredu fel bo'n briodol, i wella perfformiad cyffredinol.
Sgiliau pwnc penodol Datblygu gwybodaeth sylfaenol gadarn am brif themau sydd wedi cael effaith ar hanes a chymdeithas Cymru.
Sgiliau ymchwil Deall ystod o ddulliau ymchwil; cynllunio a chyflawni ymchwil; cynhyrchu adroddiadau academaidd addas.
Technoleg Gwybodaeth Defnyddio amrywiaeth o becynnau meddalwedd a ddefnyddir yn gyffredin; paratoi a mewngofnodi data; rheoli systemau storio; cyflwyno gwybodaeth a data; defnyddio rhyngrwyd yn briodol ac yn effeithiol.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6