Module Information

Module Identifier
TCM1340
Module Title
Ymarfer Perfformio a Chynhyrchu Cydgyfeirianol
Academic Year
2014/2015
Co-ordinator
Semester
Semester 2
Other Staff

Course Delivery

Delivery Type Delivery length / details
Seminars / Tutorials 8 x 3 awr o weithdai seminar/ymarferol wythnosol
 

Assessment

Assessment Type Assessment length / details Proportion
Semester Assessment a) Cyflwyniad Ymarferol mewn Gr&#373p  Caiff y cyflwyniad ei ddogfennu er mwyn ei ddangos ir arholwr allanol ai gadw fel rhan o gofnodion y myfyriwr yn yr Adran. Fe ddefnyddir system o ddatgrynhoi marciau gr&#373p wrth asesur cyflwyniad hwn.)  (Gofynnir i'r myfyrwyr ymrannu'n grwpiau bychain er mwyn llunio a chyflwyno perfformiad rhyngweithiol byr o 30 munud ar thema rhagbenodedig;.  50%
Semester Assessment b) Sylwebaeth feirniadol  ar gyfraniad yr unigolyn i'r prosiect gorffenedig: 2,000 o eiriau  25%
Semester Exam 7 Hours   c) Cyflwyniad Unigol  Gofynnir i fyfyrwyr unigol i gyflwyno ymarfer unigol sydd yn gysylltiedig gyda'r gwaith gr&#373p. Gall hwn fod yn ymarfer rhagbaratoadol neu yn un olsyllol wedi'r gwaith gr&#373p.  25%
Supplementary Assessment Rhaid ailgyflwyno'r gwaith a fethwyd. a) Cyflwyniad  Ymarferol Gr&#373p (Gofynnir i'r myfyriwr ymgynnull gr&#373p er mwyn ail sefyll yr asesiad er mwyn llunio a chyflwyno perfformiad rhyngweithiol byr o 30 munud ar thema rhagbenodedig)  50%
Supplementary Assessment b) Sylwebaeth feirniadol  ar gyfraniad yr unigolyn i'r prosiect gorffenedig: 2,000 o eiriau  25%
Supplementary Exam 7 Hours   c) Cyflwyniad Unigol  Gofynnir i fyfyrwyr gyflwyno ymarfer unigol  25%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

1. Arddangos dealltwriaeth o strategaethau a thechnegau cymhleth ar gyfer dyfeisio digwyddiad perfformiadol / cyfryngol / rhyngweithiol, gan gynnwys arddangos meistrolaeth o fethodolegau storiol sy'r briodol ar gyfer y rhychwant o gyfryngau dyfeisio a chyflwyno yn y digwyddiad hwnnw;.
2. Arddangos gallu i gymryd cyfrifoldeb dros weithredu egwyddorion methodolegol a chynrychioliadol mewn ffordd drefnus ac ystyrlon, a defnyddio sgiliau datblygedig wrth gyflawni ymchwil annibynnol a chreadigrwydd gweithredol a fydd yn arwain at gyflwyniad ymarferol;
3. Arddangos gallu i weithio'r effeithiol a chydweithredol mewn sefyllfa gymunol, a fydd yn cynnwys gweithredu a goruchwylio, cymryd cyfrifoldeb wrth reoli a llywio profiad unigol a phrofiad gr'r mewn sefyllfa greadigol;
4. Gwerthuso strategaethau a thechnegau cyfansoddi, strwythuro, llwyfannu a chyflwyno wrth greu estheteg berfformiadol / gyfryngol unigol;

Aims

Mae nod y modiwl hwn fel a ganlyn:
a) i gyflwyno ac archwilio ystod eang o strategaethau a methodau o greu a chyflwyno deunydd ymarferol (gwaith corfforol byw a/neu waith a gyflwynir trwy'r cyfryngau). Fe fydd y strategaethau a methodau hyn yn hyrwyddo prosesau cysyniadol, cyfansoddi ac ymarfer;
b) i ddarparu sail ddeallusol ac ymarferol ar gyfer creu gwaith perfformio a chynhyrchu cyfoes trwy gyfrwng cyfres o wahanol fethodau dyfeisio;
c) i ddarparu cyfleoedd i weithredu'r strategaethau cyfansoddiadol a chysyniadol a archwilir yn ystod y gwaith cwrs;
d) i hyrwyddo a galluogi'r broses o lunio, datblygu a chyflwyno darnau o waith perfformiadol a chyfryngol.

Brief description

Mae hwn yn fodiwl ymarferol a fydd yn gofyn i fyfyrwyr archwilio a gweithredu strategaethau, methodau a thechnegau ar gyfer dyfeisio gwaith perfformio a chynhyrchu. Fe fydd pob sesiwn yn canolbwyntio ar agwedd neilltuol o'r broses ddyfeisio ac yn arwain at greu a chyflwyno darn byr o waith ymarferol a fydd yn arddangos yr egwyddorion a archwilir.

Content

2 sesiwn 3 awr x 5 wythnos (wedi'r dysgu dros un diwrnod yr wythnos) ar y pynciau canlynol:

Wythnos 1
1. Dyfeisio: diffiniadau a dulliau ymarfer
2. Y Storiol, y Testunol a'r Perfformiadol
Wythnos 2
3. Safleoedd, llefydd a lleoliadau
4. Dramatwrgiaeth I: natur a ffynonellau deunydd dramataidd
Wythnos 3
5. Dramatwrgiaeth II: trefnu a golygu'r deunydd dramataidd
6. Dramatwrgiaeth III: cymalu a chyfryngu'r deunydd a gyfansoddwyd
Wythnos 4
7. Trosglwyddo rhwng Cyfryngau
8. Cyfansoddi I: gosod a threfnu'r perfformiad / cynhyrchiad mewn gofod
Wythnos 5
9. Cyfansoddi II: gosod a threfnu'r perfformiad / cynhyrchiad mewn amser
10. Pa mor Bresennol?: Y Gynulleidfa

Yn cyd-redeg gyda'r uchod mi fydd myfyrwyr yn cael 4 awr dros 5 wythnos o hyfforddiant arbenigol a fydd yn adlewyrchu'r pynciau a ddysgir yn ystod y gweithdai dwys uchod

Module Skills

Skills Type Skills details
Application of Number Ni ddatblygir medrau rhifyddol fel rhan o'r modiwl hwn.
Communication Disgwylir i'r myfyrwyr ddatblygu'r sgiliau hyn trwy ofyn iddynt ystyried a dangos proses a chanlyniadau ymchwil yn yr aseiniadau.
Improving own Learning and Performance Fe fydd y modiwl yn cymell myfyrwyr i ddatblygu ac i werthuso allbwn creadigol personol effeithiol a gwreiddiol. Gofynnir iddynt hefyd i asesu perthnasedd yr arbrawf ymarferol yn y modiwl hwn ar gyfer eu gwaith pellach.
Information Technology Ni ddatblygir medrau TG fel rhan o'r modiwl hwn.
Personal Development and Career planning Fe rydd y modiwl gyfle i'r myfyrwyr wylio gwaith ymarferwyr gwadd. Fe fydd hefyd yn rhoi cyfle iddynt ddatblygu medrau perfformio a chymathu egwyddorion ymarferol a all fod o ddefnydd mewn gyrfa broffesiynol. Nid asesir yr agweddau proffesiynol hyn fel rhan o'r modiwl, fodd bynnag.
Problem solving Fe fydd y modiwl yn helpu myfyrwyr i ddatblygu'r sgiliau hyn trwy eu herio i geisio ymgorffori'r deunydd a'r egwyddorion a gyflwynwyd ac wrth geisio cwrdd â'r brîff rhagosodedig yn yr aseiniad ymarferol ac ysgrifenedig.
Research skills Fe fydd y modiwl yn helpu myfyrwyr i ddatblygu'r sgiliau hyn trwy ofyn iddynt ystyried a dangos proses a chanlyniadau ymchwil yr aseiniadau.
Subject Specific Skills Fe fydd y modiwl yn rhoi cyfle i'r myfyrwyr ddatblygu ac ymestyn medrau yn ymwneud ag arddangos gwybodaeth wedi'i ymgorffori; cymhwyso strategaethau a thechnegau cyfansoddiadol ar gyfer cyflwyno sgiliau cyfathrebu personol; a gweithredu creadigol soffistigedig.
Team work Fe fydd y modiwl hwn yn cymell myfyrwyr i weithio gyda'i gilydd ac i ddatblygu strategaeth effeithiol wrth gydweithio &#226'u cyd-fyfyrwyr tuag at y nod creadigol. Fe fydd ansawdd y gwaith gr&#373p yn rhan allweddol bwysig o lwyddiant y cyflwyniad ymarferol.

Reading List

Recommended Text
Barba, E. (1991) A Dictionay of Theare Anthropology Routledge/CPR Primo search Etchells, Tim (2000) Certain Fragments: Contemporary Performance and Forced Entertainment Routledge Primo search Garoian, C.R. (1999) Performing Pedagogy State University of New York Press Primo search Goldberg, R (2001) Performance Art Thames & Hudson Primo search Gregory, R.L. (1998) Eye and Brain: The Psychology of Seeing Oxford University Press Primo search Grotowski, Jerzy (1969) Towards a Poor Theatre Methuen Primo search Heathfield, A. (2000) Small Acts: Performance, the Millenium and the Marking of Time London: Black Dog Press Primo search Howell, A. (1999) The Analysis of Performance Art Amsterdam: Harwood Academic Primo search Kaye, Nick (2000) Site-specific art: performance, place and documentation Routledge Primo search Levin, Thomas Y., Frohne, Ursula and Weibel, Peter (eds.) (2002) CTRL: Rhetorics of Suveillance from Bentham to Big Brother MIT Press Primo search O'Pray, Michael (ed.) (1996) The British Avant-garde Film, 1926-1995: An Anthology of Writings University of Luton Primo search Rogoff, I. (2000) Terra inferma: geography's visual culture Routledge Primo search Schneider, R. and Cody, G. (2001) Re: Direction Routledge Primo search Sitney, P. Adams (2002) Visionay Film: the American Avant-Garde, 1943-2000 Oxford University Press Primo search Sterritt, David (ed.) (c.1998) Jean-Luc Godard: Interviews University Press of Mississippi Primo search Stevenson, jack (c.2003) Dogme uncut: Lars von Trier, Thomas Vinterburg, and the gang that took on Hollywood Santa Monica Press Primo search Wees, William C. (1992) Light Moving in Time: Studies in the Visual Aesthetics of Avant-Garde Film University of California Press Primo search Zarrilli, Phillip (1995) Acting (re) Considered Routledge Primo search

Notes

This module is at CQFW Level 7