Module Information

Module Identifier
TR30600
Module Title
Traethaed Estynedig Empiraidd
Academic Year
2014/2015
Co-ordinator
Semester
Semester 1 (Taught over 2 semesters)
Mutually Exclusive
Pre-Requisite
Pre-Requisite
Pre-Requisite
Other Staff

Course Delivery

Delivery Type Delivery length / details
Seminars / Tutorials Sesiynau datrys problemau ar y cyd bob pythefnos; cyfarfodydd &acirc'r goruchwyliwr, yn &ocircl yr angen. Prosiectau gr&#373p - cynhelir y cyfarfodydd bob pythefnos ar gyfer grwpiau
Lecture 10 awr
 

Assessment

Assessment Type Assessment length / details Proportion
Semester Assessment Traethawd estynedig 12,000 - 20,000 o eiriau  . Rhaid cynnwys: Y syniad neu gynllun y traethawd estynedig; Arolwg o'r maes gan osod y cwestiwn yng nghyd-destun y dadleuon academaidd cyfredol Cynllun ymchwil; Methodoleg ymchwil; Astudiaeth beilot, os oes; Casglu data; Dadansoddi data; Ysgrifennu Bydd y prosiect cyffredinol yn cael ei asesu yn ogystal.  100%
Supplementary Assessment Traethawd estynedig 15,000 - 20,000 o eiriau - fel uchod  100%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

1. Cynllunio cwestiwn ymchwil y gellir ei brofi drwy brosiect empiraidd.
2. Dangos gallu i osod y cwestiwn hwnnw mewn cyd-destun damcaniaethol
3. Dangos gallu i gynnal arolwg effeithiol o'r maes
4. Dangos gallu i ddewis a chynllunio'r fethodoleg fydd yn taflu goleuni ar y cwestiwn / cwestiynau ymchwil orau
5. Nodi a thrafod y problemau methodolegol cyffredin
6. Casglu data
7. Dadansoddi a gwerthuso data ymchwil yn feirniadol
8. Dangos gallu i ddehongli canfyddiadau
9. Dod i gasgliadau sy'n seiliedig ar y canfyddiadau
10. Sicrhau bod y data'n cefnogi'r casgliadau yn glir
11. Gosod y canfyddiadau yng nghyd-destun ehangach damcaniaeth a pholisi

Aims

Datblygu'r sgiliau sy'n gysylltiedig â darn sylweddol o waith ymchwil yn arbennig y sgiliau a'r gallu y gellir eu hystyried yn annibynnol ar y rheiny a gyflwynir drwy'r broses ddysgu ac a brofir gan arholiadau ysgrifenedig confensiynol.

Content

Fe'i gosodir gan y myfyrwyr yn dilyn cyngor a chymeradwyaeth y staff.

Brief description

Bydd y modiwl hwn yn galluogi myfyrwyr i gynllunio, cyflawni ac ysgrifennu prosiect ymchwil empiraidd manwl ym maes Troseddeg.

Module Skills

Skills Type Skills details
Application of Number Mae ymchwil empiraidd yn peri bod rhaid wrth ddefnyddio pecynnau TG, yn enwedig ar gyfer cyflwyno data. Mae ymchwil bob amser yn peri bod rhaid wrth ddefnyddio ffynonellau electronig a phapur y llyfrgell yn ogystal &#226'r we a disgwyliwn na fydd yn wahanol i fodiwlau eraill yn hyn o beth.
Communication (a) datblygu gwerthfawrogiad o bosibiliadau ymchwil pynciau trwy ddewis testun hyfyw i ymchwilio iddo; (b) datblygu sgiliau ymchwil o ran dod o hyd i'r deunyddiau perthnasol, yn arbennig trwy ddefnyddio canllawiau llyfryddiaethol a chronfeydd data pynciau; (c) datblygu'r sgiliau sy'n gysylltiedig &#226 pharatoi, cynllunio, trefnu, casglu canlyniadau a dadansoddi ac amserlennu darn o waith ymchwil y gellir ei gynnal dros gyfnod o rai misoedd; (d) meithrin y gallu i drefnu syniadau a rhoi deunyddiau mewn trefn i gyflwyno'r ddadl a'r data yn effeithiol; (e) datblygu sgiliau ysgrifennu academaidd ar gyfer cyflwyniad eglur, rhugl a darllenadwy o'r pwnc dan sylw ar ffurf ysgrifenedig sylweddol o 6,000 - 10,000 o eiriau.
Improving own Learning and Performance Datblygir ac asesir sgiliau ysgrifennu trwy ysgrifennu'r prosiect. Ni fydd sgiliau llafar yn cael eu hasesu ond bydd disgwyl i'r myfyrwyr amddiffyn eu cynllun a'u methodoleg ger bron y goruchwyliwr a myfyrwyr eraill yn y gr&#373p.
Information Technology Bydd rhai myfyrwyr yn dewis prosiect grŵp ac asesir pa mor dda y mae'r gr&#373p wedi gweithio yn ogystal ag asesu unigolion, o ran eu gallu i weithio fel rhan o'r gr&#373p a'u cyfraniad fel unigolion. Lle bydd myfyrwyr yn gweithio ar eu prosiectau eu hunain, fe'u gelwir ynghyd i drafod eu gwaith ymchwil mewn grwpiau. Yn y darlithoedd bydd disgwyl iddynt hefyd wneud ymarferion byr, ac i ddatrys neu drafod problemau amrywiol mewn grwpiau.
Personal Development and Career planning Bydd rhaid wrth hyn. Mae gwerthuso deunyddiau meintiol yn feirniadol, boed yn ddeunyddiau personol neu'n ddeunyddiau ymchwilwyr eraill, yn gofyn am ddadansoddi gwybodaeth rifyddol. Bydd y myfyrwyr yn cael eu cyflwyno i ddefnyddio a dadansoddi gwybodaeth rifyddol, yn enwedig yr wybodaeth ystadegol a ddefnyddir mewn ymchwil empiraidd.
Problem solving
Research skills Canfod pwnc hyfyw i ymchwilio iddo, gosod cwestiwn ymchwil, cynllunio'r fethodoleg, ei defnyddio a dadansoddi'r canlyniadau. Bydd pob elfen o hyn yn gofyn am sgiliau datrys problemau.
Subject Specific Skills
Team work Bydd y rhan fwyaf o fyfyrwyr yn dewis cwblhau eu prosiect empiraidd eu hunain fydd yn datblygu o reidrwydd waith annibynnol fydd yn cael ei asesu. O ddewis prosiect gr&#373p, bydd gofyn i bob un o fyfyrwyr y prosiect reoli elfen benodol o'r ymchwil a bydd eu mewnbwn personol yn cael ei asesu ar sail yr hyn a gyflawnir yn yr adran hon. Asesir yr unigolyn yn y gr&#373p drwy gyfrwng asesu gan gymheiriaid a chyflwyniadau / cyflwyniadau llafar gan y gr&#373p.

Notes

This module is at CQFW Level 6