Module Information

Cod y Modiwl
CYM0320
Teitl y Modiwl
Darllen fel llenor: dulliau cyfansoddi
Blwyddyn Academaidd
2015/2016
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Rhagofynion
Gradd dda yn y Gymraeg neu mewn iaith arall a meistrolaeth ar Gymraeg ysgrifenedig, neu brofiad proffesiynol perthnasol.

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Ailgyflwynir elfennau a fethwyd yn unol a?r canrannau a nodir, uchod. 
Asesiad Semester Dyddlyfr hunanfyfyriol BwrddDu  Dyddlyfr hunanfyfyriol BwrddDu yn olrhain profiad dysgu?r myfyrwyr a?r modd y cymhwysir theori yn ymarferol, yn enwedig mewn perthynas a?r portffolio gorffenedig (1,000 o eiriau).  10%
Asesiad Semester Critique neu adroddiad beirniadol a  Critique neu adroddiad beirniadol ar unrhyw dri dull creadigol (ynghyd ag enghreifftiau penodol) a drafodir ar y modiwl. (3,000 o eiriau)  75%
Asesiad Semester Arwain trafodaeth mewn seminar  Arwain trafodaeth mewn seminar  15%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

dangos eu bod wedi dirnad y gydberthynas rhwng ymchwil/darllen a chreadigrwydd.

deall a diffinio'r dulliau cyfansoddi canlynol: cynnwys a thema, cymeriadaeth; cywair; naratif; llais; disgrifio; deialog; ideoleg a rhywedd.

meithrin agwedd ymholgar wrth drafod dulliau cyfansoddi mewn amrywiaeth o destunau llenyddol; cyflwyno'r ystyriaethau hyn, ynghyd a dangos dealltwriaeth o'r dulliau cyfansoddi, mewn dull priodol, yn y tasgau a asesir.

adnabod a chloriannu ffynonellau ymchwil/darllen sy'r berthnasol i'r hanghenion creadigol penodol (sef y portffolio terfynol).

Disgrifiad cryno

Sylfaen resymegol y modiwl creiddiol hwn yw bod perthynas gilyddol rhwng ymchwil/darllen beirniadol a chreadigrwydd. Gan hynny, bydd y modiwl yn gyflwyniad theoretig ac ymarferol i dechnegau creadigol sylfaenol sy'r rhan o arfogaeth llenor mewn unrhyw gyfrwng, boed farddoniaeth neu ryddiaith. Bydd y modiwl yn galluogi myfyrwyr i gymhwyso'r sgiliau sylfaenol hyn wrth fynd i'r afael a'r modiwlau sy'r ymarfer eu creadigrwydd (CYM0120; CYM0720; CYM0220; CYM0820).

Trafodir amrywiaeth o destunau (barddoniaeth a rhyddiaith) er mwyn galluogi myfyrwyr i ymchwilio, adnabod, dadansoddi a thrafod technegau cyfansoddi, a hynny yng nghyd-destun y proses creadigol. Trafodir testunau Cymraeg yn eu cyd-destun llenyddol ehangach, gan gynnwys y cyd-destun Ewropeaidd ac Americanaidd fel y bo'r briodol. Ymhellach, rhoddir arweiniad i fyfyrwyr er mwyn eu galluogi i ddechrau cynllunio eu portffolio creadigol ac i gymhwyso'r dulliau ymchwil a darllen at y prosiect creadigol hwnnw.

Nod

Yn wahanol i CYM0220, CYM0720, CYM0120 a CYM0820 sy'r canolbwyntio ar `greu? ac ar feithrin creadigrwydd, mae pwyslais beirniadol i'r modiwl hwn. Gweler Adran D, isod. Bydd y modiwl hwn hefyd yn gyfle i ddarparu hyfforddiant ymchwil priodol: cyweiriau iaith priodol, cywain ffynonellau a'r defnyddio'r briodol, llunio (troed)nodiadau a llyfryddiaethau, gochel llen-ladrad.

Cynnwys

Dadansoddir a thrafodir y technegau creadigol canlynol mewn 10 sesiwn dwyawr (sef darlith a seminar i drafod enghreifftiau pwrpasol):
1. rhagarweiniad
2. cynnwys a thema
3. cymeriadaeth
4. cywair
5. naratif
6. llais
7. disgrifio
8. deialog
9. ideoleg
10. rhywedd
Rhoddir cyflwyniad i bob pwnc mewn darlith; yna cynhelir seminarau er mwyn dadansoddi a thrafod enghreifftiau penodol. Bydd y darlithydd yn darparu enghreifftiau i'r trafod, ond anogir myfyrwyr i adnabod enghreifftiau addas hefyd trwy gyfrwng eu gwaith darllen ac ymchwil annibynnol.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Dangos dealltwriaeth o’r dulliau cyfansoddi a’u harwyddocâd yng ngwaith awduron eraill ac mewn perthynas â’u gwaith creadigol eu hunain.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Dysgir sgiliau ymchwil, dadansoddi a chymhwyso a fydd yn sylfaen i’w gwaith creadigol y tu hwnt i’r cynllun MA hwn.
Datrys Problemau Y gallu i weithio mewn modd cyson a chynyddol ar dasgau beirniadol dros gyfnod estynedig; medru dangos eu bod yn gallu cymhwyso gwedd feirniadol y modiwl at eu gweithgarwch creadigol eu hunain.
Gwaith Tim Trafod testunau llenyddol yn feirniadol a pharchu safbwyntiau myfyrwyr eraill.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Y gallu i gynhyrchu tasgau beirniadol yn effeithiol, gan gynnwys cymhwyso’r ymchwil/darllen at eu portffolio creadigol eu hunain.
Rhifedd amherthnasol
Sgiliau pwnc penodol Mae’r sgiliau a ddatblygir oll yn benodol i’r pwnc.
Sgiliau ymchwil Ennill gwybodaeth am ddulliau cyfansoddi drwy ddarllen ac astudio rhychwant o destunau llenyddol.
Technoleg Gwybodaeth Y gallu i baratoi, llunio a chyhoeddi testunau electronig; defnyddio BwrddDu AberLearn.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7