Module Information

Cod y Modiwl
GQ33320
Teitl y Modiwl
Rhyfel, y Wladwriaeth, a Chymdeithas
Blwyddyn Academaidd
2015/2016
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Seminar 10 x Seminarau 1 Awr
Darlith 22 x Darlithoedd 1 Awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll 1 x Traethawd 3,000 gair  50%
Asesiad Ailsefyll 1 x Traethawd 3,000 gair  50%
Asesiad Semester 1 x Traethawd 3,000 gair  50%
Asesiad Semester 1 x Traethawd 3,000 gair  50%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

1. Myfyrio'n feirniadol ar effeithiau rhyfel a'r wladwriaeth ar ei gilydd ac ar gymdeithas.
2. Myfyrio'n feirniadol ar elfennau allweddol y drafodaeth ynghylch y wladwriaeth, sofraniaeth, a monopoli ar ddefnydd grym.
3. Dangos dealltwriaeth o gymdeithaseg hanesyddol rhyfel a'r wladwriaeth.
4. Dangos gallu i gyflwyno dadl wybodus, gydlynol wedi ei gwreiddio mewn ysgolheictod drwyadl.
5. Dangos gallu i weld problemau 'gwirioneddau' a thybiadau sefydliedig am y drefn wleidyddol, trais, a'n gwybodaeth amdanynt.

Disgrifiad cryno

Mae'r modiwl hwn yn ymwneud yn feirniadol a'r syniadau fod 'rhyfel yn creu gwladwriaethau a bod gwladwriaethau yn creu rhyfel' a monopoli'r wladwriaeth dros ddefnyddio grym yn gyfreithlon. Trwy ddefnyddio gweithiau cymdeithaseg hanesyddol, meddwl gwleidyddol, cymdeithaseg wleidyddol, hanes milwrol, a hanes rhyngwladol, bydd y modiwl yn archwilio'r cydadweithio rhwng rhyfel yn ei amryfal ffurf a sefydliadau gwleidyddol. Bydd yn archwilo pynciau megis: swyddogaeth rhyfel wrth ffurfio gwladwriaethau; pwysigrwydd y 'chwyldro milwrol', fel y'i gelwir, yn Ewrop; esblygiad gweinyddiaeth a logisteg filwrol; y cydadweithio rhwng rhyfel, cyllid, a'r economi ehangach; swyddogaeth cenedlaetholdeb yn rhyfel a'r wladwriaeth; technoleg rhyfel a rheolaeth; pwysigrwydd tiriogaeth a phoblogaeth; coffau rhyfel 'cenedlaethol'; a'r darlun o'r milwr fel ymladdwr, dinesydd, a gwrthrych.

Nod

Nod y modiwl yw cyflwyno myfyrwyr i'r berthynas ddeinamig rhwng rhyfel, y wladwriaeth, a chymdeithas. Wrth wneud hynny bydd yn annog myfyrwyr i ystyried: y cysylltiad rhwng gwleidyddiaeth, yr awdurdod a thrais; effaith rhyfel ar ein sefydliadau cymdeithasol a gwleidyddol; rol unigolion a phoblogaethau mewn rhyfel; effaith newidiadau mewn rhyfel, gwleidyddiaeth, diwylliant, ac economeg ar ei gilydd; ac etifeddiaeth rhyfel (oedd) ar wladwriaethau a chymdeithasau.

Cynnwys

Amserlen y darlithoedd
1.Cyflwyniad: astudio rhyfel a'r wladwriaeth
2. Wladwriaeth, trais, sofraniaeth
3. Milwyr, mor-ladron, brenhinoedd I
4. Milwyr, mor-ladron, brenhinoedd II
5. Rhyfel a ffurfio wladwriaeth I
6.Rhyfel a ffurfio wladwriaeth II
7. Rhyfel a'r genedl I
8. Rhyfel a'r genedl II
9..Rhyfel diwydiannol a'r wladwriaeth dorfol I
10. Rhyfel diwydiannol a'r wladwriaeth dorfol II
11.Rhyfel, gwleidyddiaeth a neoryddfrydiaeth I
12. Rhyfel, gwleidyddiaeth a neoryddfrydiaeth II
13.
14.
15Rhyfel, milwyr a brenhinoedd cyn y wladwriaeth
16.Casgliad


Amserlen y seminarau
1.gwladwriaethau, rhyfeloedd, a thrais brenhinoedd
2.Model ffurfio gwladwriaeth ariannol-filwrol
3.Safbwyntiau cyferbyniol ar ffurfio gwladwriaeth
4.Dadl y chwyldro milwrol
5.Rhyfel a'r 'genedl-wladwriaeth'
6.Rhyfel diwydiannol a'r wladwriaeth dorfol
7.Rhyfel, gwleidyddiaeth, a neoryddfrydiaeth
8.Casgliad: rhyfel, milwyr, a brenhinoedd y tu hwnt i'r wladwriaeth

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Bydd y myfyrwyr yn dysgu sut i gyflwyno eu syniadau ar lafar ac yn ysgrifenedig a sut i gyflwyno eu dadleuon yn fwyaf effeithiol. Byddant yn dysgu pwysigrwydd gwybodaeth a chyfathrebu'n eglur a sut i wneud y gorau o'r rhain. Byddant yn gwybod sut i ddefnyddio'r amryw ffynonellau gwybodaeth sydd ar gael iddynt a sut orau i ddefnyddio'r ffurf fwyaf priodol o gyfathrebu. Byddant yn dysgu ysgrifennu a siarad yn glir a sicrhau nodau ac amcanion uniongyrchol. Byddant yn dysgu ystyried dim ond yr hyn sy'n berthnasol i'r pwnc, canolbwynt ac amcanion y ddadl neu'r drafodaeth. Gofynnir i fyfyrwyr hefyd eirbrosesu eu haseiniadau ysgrifenedig a dylai cyflwyniad y gwaith adlewyrchu mynegiant effeithiol o syniadau a defnydd da o sgiliau iaith er mwyn sicrhau eglurder, cydlyniad a chyfathrebu effeithiol.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Pwrpas y modiwl hwn yw gwella a phrofi sgiliau fydd o ddefnydd i'r myfyrwyr yn eu swyddi, yn enwedig wrth siarad a grwpiau bychain, gwrando, meddwl ac ymateb i ddatganiadau eraill. Ar ben hynny, mae'r gwaith ysgrifenedig yn cynnwys ysgrifennu'n glir ac yn gryno, sy'n dasg gyffredin yn y gweithle. Anogir myfyrwyr drwy gydol y modiwl i ystyried eu perfformiad ac ystyried gwersi i'w defnyddio yn y dyfodol.
Datrys Problemau Bydd gwaith prosiect annibynnol a datrys problemau yn un o brif amcanion y modiwl. Bydd gallu'r myfyrwyr i ddatrys problemau yn cael ei ddatblygu a'i asesu drwy ofyn iddynt: fabwysiadau gwahanol safbwyntiau; trefnu data ac amcangyfrif ateb i'r broblem; rhesymu'n rhesymegol; llunio dadleuon damcaniaethol; rhannu pynciau yn broblemau llai.
Gwaith Tim Bydd y myfyrwyr yn cyflawni ymarferion grwp yn ystod y seminarau. Ar gyfer llawer o bynciau'r modiwl hwn, bydd y seminarau yn cynnwys trafod mewn grwpiau bychain a gofynnir i fyfyrwyr drafod pynciau craidd pwnc y seminar mewn grwp. Bydd y trafodaethau a'r dadleuon hyn yn y dosbarth yn ffurfio rhan sylweddol o'r modiwl, ac yn galluogi'r myfyrwyr i fynd i'r afael a phwnc arbennig, ac ymchwilio iddo, drwy waith tim.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Nod y modiwl hwn yw hyrwyddo hunanreoli ond o fewn i gyd-destun lle bydd cefnogaeth a chymorth ar gael gan y cyd-gysylltydd a chyd-fyfyrwyr. Disgwylir i fyfyrwyr wella eu dysgu a'u perfformiad eu hunain a dilyn eu trywydd eu hunain, yn cynnwys chwilio am ffynonellau a phenderfynu (dan gyfarwyddyd) ar gyfeiriad pynciau eu gwaith cwrs a'r cyflwyniadau.
Rhifedd Amherthnasol
Sgiliau pwnc penodol Bydd y modiwl hwn yn rhoi'r cyfle i fyfyrwyr ddatblygu, ymarfer a phrofi amrywiaeth eang o sgiliau sy'n benodol i'r pwnc a fydd yn eu cynorthwyo i ddeall, cysyniadoli a gwerthuso enghreifftiau a syniadau yn y modiwl. Bydd y sgiliau pwnc-benodol hyn yn cynnwys: -Casglu a deall amrywiaeth eang o ddata sy'n berthnasol i'r modiwl -Gwerthuso safbwyntiau sy'n cystadlu a'i gilydd -Defnyddio rhychwant o fethodolegau wrth drafod problemau cymdeithasol a gwleidyddol hanesyddol a chyfoes, cymhleth.
Sgiliau ymchwil Gofynnir i'r myfyrwyr wneud gwaith ymchwil annibynnol ar gyfer elfennau o'r gwaith i'w asesu. Bydd hynny'n golygu defnyddio ffynonellau'r cyfryngau a'r we, yn ogystal a thestunau academaidd mwy confensiynol.
Technoleg Gwybodaeth Disgwylir i fyfyrwyr eirbrosesu'r gwaith fydd i'w gyflwyno. Anogir myfyrwyr hefyd i chwilio am ffynonellau gwybodaeth ar y we, yn ogystal a chwilio am ffynonellau drwy ffynonellau gwybodaeth electronig.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6