Module Information

Cod y Modiwl
GW35320
Teitl y Modiwl
Rhyfela Wedi Waterloo: Hanes Milwrol 1815-1918
Blwyddyn Academaidd
2015/2016
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Seminar 5 x Seminarau 2 Awr
Darlith 22 x Darlithoedd 1 Awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester 1 x traethawd 2,500 o eiriau  40%
Arholiad Semester 2 Awr   (1 x 2 awr)  60%
Arholiad Ailsefyll 2 Awr   (1 x 2 awr)  60%
Asesiad Ailsefyll 1 x traethawd 2,500 o eiriau  40%

Canlyniadau Dysgu

Wrth gwblhau'r modiwl hwn, dylai myfyrwyr fedru:
1. Asesu'n feirniadol waddol rhyfeloedd Napoleon ar gyfer amrywiaeth o wledydd Ewropeaidd a'u lluoedd arfog
2. Asesu'r datblygiadau hanfodol ym maes rhyfela yn y cyfnod modern
3. Trafod yr heriau sy'n wynebu lluoedd Ewrop wrth weithredu mewn cyd-destun nad ydyw'n rhan o Ewrop yn oes imperialaeth
4. Disgrifio a dadansoddi'r ffactorau allweddol, tueddiadau hanesyddol asiantwyr a'r ddeinameg strwythurol a ddylanwadodd ar siap, athrawiaethau a dulliau ymladd newidiol gwahanol luoedd arfog yn Ewrop a thu hwnt yn ystod y cyfnod dan ystyriaeth
5. Gwerthuso'n feirniadol rol y lluoedd morol a'r tirfilwyr a'u strwythur a'u recriwtio mewn perthynas a gwahanol ddiwylliannau gwleidyddol-strategol cenedlaethol a dulliau rhyfel
6. Asesu'r dadleuon ynghylch natur ac esblygiad 'Rhyfel Diymatal' yn y cyfnod modern, ac yn fwyaf arbennig, yn y cyfnod modern diweddar.

Disgrifiad cryno

Bydd y modiwl hwn yn galluogi myfyrwyr i archwilio gwaddol rhyfela o Ryfeloedd Napoleon hyd 1918. Bydd hyn yn galluogi myfyrwyr i ystyried strwythurau, recriwtio a meddwl strategol lluoedd arfog Ewrop, ac i adnabod a nodi enghreifftiau o'r tueddiadau yn y meysydd hyn a'r newidiadau technolegol a effeithiodd ar y lluoedd arfog, yn Ewrop a thu hwnt, hyd at ac yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

Cynnwys

Darlithoedd
I. Rhyfel yn Ewrop, 1618-1792
II. Napoleon: Athrylith rhyfel
III. Gwaddol Napoleon
IV. Cytgord Ewrop, Rhyfel Cyfyngedig a Rhyfel Crimea
V. Rhyfel Cartref America 1861-65 (I)
VI. Rhyfel Cartref America 1861-65 (II)
VII. Rhyfeloedd Uno'r Almaen, 1864-71
VIII. 'Byddin a Gwladwriaeth': Prwsia, 1640-1945
IX. Rhyfel De Affrica, 1899-1902
X. O 'furiau pren' i'r Dreadnoughts: datblygiadau ar y mor, 1815-1914
XI. Dylanwad grym morwrol ar hanes: Mahan a Corbett et al.
XII. Chwyldro Arfau, 1879-1914
XIII. Gwreiddiau'r Rhyfel Byd Cyntaf: Ras, Cynghrair ac Argyfwng Arfau
XIV. Dechreuadau'r Rhyfel Mawr, Awst 1914
XV. Y Rhyfel Mawr ar y Mor: Jutland 1916, a bygythiad ymosodiad Llongau Tanfor 1917
XVI. Rhyfel Ffrainc: 'Aux armes, citoyens'
XVII. Torri'r lluoedd arfog: Blinder Entente, 1917
XVIII. Kaiserschlacht a chwymp yr Almaen Imperialaidd, 1918
XIX. Gwawrio Rhyfel Diymatal?

Seminarau
SEMINAR UN (Gwaddol rhyfeloedd Napoleon)
a) Rheolaeth, systemau gweithrediadol, tactegau
b) Meddwl Strategol :Clausewitz (I): rhyfel fel gwleidyddiaeth; 'Rhyfel Absoliwt vs. Rhyfel Go-iawn'; y 'Drindod Baradocsaidd'
c) Meddwl strategol : Clausewitz (II): Anghytuno a'i oblygiadau; Ymosod vs. Amddiffyn; y Bobl mewn Rhyfel
d) Logisteg a Chudd-wybodaeth: pam y bu'r rhain yn Sinderela sefydliadau milwrol … ac astudiaethau hanes milwrol?
SEMINAR DAU (Rhyfel yng nghanol y 19eg ganrif)
a) Trefnu ar gyfer Rhyfel: staffio cyffredinol, consgripsiwn ac atgyfnerthu
b) Diwydiannu rhyfel: telegraffau, agerlongau, rheilffyrdd, reifflau
c) Rhyfel Crimea (1854-6) a Rhyfeloedd Uno'r Almaen
d) Rhyfel Cartref America, 1861-5
SEMINAR TRI (Rhwng hwyl a chyflafan: y lluoedd arfog a'r llynges pan oedd Prydain yn ei hanterth, 1871-1914)
a) Lluoedd Arfog Ewrop a 'Chwrdd a'r Brodorion' (Astudiaeth Achos: Rhyfel Zwlw 1878-79)
b) Manteisio ar Rym Morwrol a thwf meddwl strategol morwrol (Mahan a Corbett)
c) Pethau i Ddod? Yr Ail Ryfel Boer (1899-1902) a'r Rhyfel rhwng Rwsia a Siapan (1904-5)
d) Arfau'n Gwrthdaro: Brwydr y Ffiniau, Awst-Medi 1914
SEMINAR PEDWAR (Tuag at Ryfel Diymatal: Ffrynt y Gorllewin, 1914-18)
a) 'Trenchlock' a rhyfeloedd gwarchae modern: y cyflenwadau/trafnidiaeth/cynnal pos yr ymosodiad
b) Elan vital vs. Stobtruppen? Dulliau Ffrainc a'r Almaen o ennill ar Ffrynt y Gorllewin
c) 'Pwy sy'n rheoli yma?' Gorchymyn, rheoli a chyfathrebu cyn dyddiau'r radio cludadwy a ffonau symudol
d) Tactegau'r frwydr a'r Cynghreiriaid yn dysgu'n araf: Arras, Messines ac Ypres, Ebrill-Tachwedd 1917
SEMINAR PUMP (Tuag at Ryfel Diymatal: 'Eilbethau' a Rhyfeloedd ar y Mor)
a) Buddugoliaeth y Cynghreiriaid a aeth yn angof: Ffrynt y Gorllewin, Gorffennaf-Tachwedd 1918
b) Atynfa'r Dull Anuniongyrchol: Ai syniad da a gafodd ei drefnu'n wael oedd Gallipoli, neu a oedd yn syniad gwael yn y lle cyntaf?
c) Pam oedd y cyhoedd ym Mhrydain a Swyddogion y Llynges Frenhinol mor siomedig oherwydd canlyniad Brwydr Jutland (1916)?
d) Pa mor ddifrifol oedd bygythiad ymosodiad Llongau Tanfor yr Almaen yn 1917 i Brydain, a pham?

Nod

Nod y modiwl hwn yw rhoi'r cyfle i fyfyrwyr astudio datblygiadau milwrol, a dadleuon hanesyddiaethol amdanynt, sy'n ymwneud a rhyfel, recriwtio a threfnu'r lluoedd arfog, datblygiad strategaeth ac effaith newidiadau technolegol ar luoedd arfog a'r gweithrediadau a gafwyd rhwng 1815 a 1918.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Bydd y myfyrwyr yn dysgu sut i gyflwyno eu syniadau ar lafar ac yn ysgrifenedig a sut i gyflwyno eu dadleuon yn fwyaf effeithiol. Byddant yn dysgu pwysigrwydd gwybodaeth a chyfathrebu'n eglur a sut i ddefnyddio'r rhain yn effeithiol. Byddant yn gwybod sut i ddefnyddio'r amryw ffynonellau gwybodaeth sydd ar gael iddynt a sut orau i ddefnyddio'r ffurf fwyaf priodol o gyfathrebu. Byddant yn dysgu ysgrifennu a siarad yn glir a sicrhau nodau ac amcanion uniongyrchol. Byddant yn dysgu ystyried dim ond yr hyn sy'n berthnasol i'r pwnc, canolbwynt ac amcanion y ddadl neu'r drafodaeth. Gofynnir i fyfyrwyr hefyd eirbrosesu eu haseiniadau ysgrifenedig a dylai cyflwyniad y gwaith adlewyrchu mynegiant effeithiol o syniadau a defnydd da o sgiliau iaith er mwyn sicrhau eglurder, cydlyniad a chyfathrebu effeithiol.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Pwrpas y modiwl hwn yw gwella a phrofi sgiliau fydd o ddefnydd i'r myfyrwyr yn eu swyddi, yn enwedig wrth siarad a grwpiau bychain, gwrando, meddwl ac ymateb i ddatganiadau eraill. Ar ben hynny, mae'r gwaith ysgrifenedig yn cynnwys ysgrifennu'n glir ac yn gryno, sy'n dasg gyffredin yn y gweithle. Anogir myfyrwyr drwy gydol y modiwl i ystyried eu perfformiad ac ystyried gwersi i'w defnyddio yn y dyfodol.
Datrys Problemau Bydd gwaith annibynnol a datrys problemau yn un amcan canolog o'r modiwl; wrth gyflwyno traethawd, bydd gofyn i'r myfyrwyr ddatblygu sgiliau ymchwil annibynnol yn ogystal a sgiliau datrys problemau. Bydd gallu'r myfyrwyr i ddatrys problemau yn cael ei ddatblygu a'i asesu drwy ofyn iddynt: fabwysiadu gwahanol safbwyntiau; trefnu data ac amcangyfrif ateb i'r broblem; ystyried achosion eithafol; rhesymu'n rhesymegol; llunio modelau damcaniaethol; ystyried achosion tebyg ac annhebyg; chwilio am batrymau; rhannu pynciau yn broblemau llai.
Gwaith Tim Bydd y myfyrwyr yn cyflawni ymarferion tim yn ystod y seminarau. Ar gyfer llawer o bynciau'r modiwl hwn, bydd y seminarau yn cynnwys trafod mewn grwpiau bychain a gofynnir i fyfyrwyr drafod pynciau craidd pwnc y seminar mewn grwp. Bydd y trafodaethau a'r dadleuon hyn yn y dosbarth yn ffurfio rhan sylweddol o'r modiwl, ac yn galluogi'r myfyrwyr i fynd i'r afael a phwnc arbennig, ac ymchwilio iddo, drwy waith tim.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Nod y modiwl hwn yw hyrwyddo hunanreoli ond o fewn i gyd-destun lle bydd cefnogaeth a chymorth ar gael gan y cyd-gysylltydd a chyd-fyfyrwyr. Disgwylir i fyfyrwyr wella eu dysgu a'u perfformiad eu hunain a dilyn eu trywydd eu hunain, yn cynnwys chwilio am ffynonellau a phenderfynu (dan gyfarwyddyd) ar gyfeiriad pynciau eu gwaith cwrs a'r cyflwyniadau. Bydd yr angen i gwrdd a dyddiadau cau gwaith cwrs yn hoelio sylw'r myfyrwyr ar yr angen i reoli eu hamser eu hunain.
Rhifedd Amherthnasol
Sgiliau pwnc penodol Bydd y modiwl hwn yn rhoi'r cyfle i fyfyrwyr ddatblygu, ymarfer a phrofi amrywiaeth eang o sgiliau sy'n benodol i'r pwnc a fydd yn eu cynorthwyo i ddeall, cysyniadoli a gwerthuso enghreifftiau a syniadau yn y modiwl. Bydd y sgiliau pwnc-benodol hyn yn cynnwys: i. Casglu a deall amrywiaeth eang o ddata sy'n berthnasol i'r modiwl ii. Gwerthuso safbwyntiau sy'n cystadlu a'i gilydd iii. Arddangos technegau ymchwil sy'n benodol i'r pwnc iv. Defnyddio rhychwant o fethodolegau wrth drafod problemau cymdeithasol a gwleidyddol hanesyddol a chyfoes, cymhleth.
Sgiliau ymchwil Gofynnir i'r myfyrwyr wneud gwaith ymchwil annibynnol ar gyfer elfennau o'r gwaith i'w asesu. Bydd hynny'n golygu defnyddio ffynonellau'r cyfryngau a'r we, yn ogystal a thestunau academaidd mwy confensiynol. Bydd y myfyrwyr yn cael eu hasesu'n rhannol ar eu gallu i ddwyn ynghyd adnoddau priodol a diddorol.
Technoleg Gwybodaeth Disgwylir i fyfyrwyr eirbrosesu'r gwaith fydd i'w gyflwyno. Anogir myfyrwyr hefyd i chwilio am ffynonellau gwybodaeth ar y we, yn ogystal a chwilio am ffynonellau drwy ffynonellau gwybodaeth electronig.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6