Module Information

Cod y Modiwl
GWM5405
Teitl y Modiwl
Cyflwyniad i Gynllunio Iaith
Blwyddyn Academaidd
2015/2016
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll 1 x 1,500 o eiriau - Adroddiad Briffio 
Asesiad Semester 1 x 1,500 o eiriau - Adroddiad Briffio  100%

Cynnwys

Cyflwyniad i bolisi a chynllunio iaith

1. Iaith a chymdeithas

2. Deall shifft iaith

3. Cynllunio ar gyfer adfywio iaith

Nod

Nod y modiwl yw darparu cyflwyniad cyffredinol i faes polisi a chynllunio iaith, yn ogystal â’i riant ddisgyblaeth sef sosioieithyddiaeth, ac yna defnyddio syniadau a chysyniadau o’r meysydd hyn i ddyfnhau dealltwriaeth y myfyriwr o brosesau deuol shifft iaith ac adfywio iaith.

Disgrifiad cryno

Bydd y modiwl yn dechrau gyda throsolwg o rai cysyniadau allweddol o faes sosioieithyddiaeth. Aiff yn ei flaen i ystyried yn fanwl y broses o shifft iaith a’r ffactorau cymdeithasol, gwleidyddol, economaidd a demograffig amrywiol y nodir eu bod ymhlith y prif symbyliadau. Yn olaf bydd yn edrych ar wahanol agweddau at ddisgyblaeth polisi a chynllunio iaith, ac yn benodol sut maen nhw’n ymwneud ag adfywio iaith - agwedd at bolisi iaith sydd â’r nod o atal a gwrthdroi’r shifft iaith.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Bydd myfyrwyr yn datblygu eu gallu i gyflwyno eu syniadau a’u dadleuon ar lafar ac yn ysgrifenedig. Byddan nhw’n dysgu pwysigrwydd gwybodaeth a chyfathrebu clir a sut i wneud y defnydd gorau ohonyn nhw. Byddan nhw’n dysgu sut i ddefnyddio’r ffynonellau niferus o wybodaeth sydd ar gael a sut i ddefnyddio’r math gorau o gyfathrebu yn y modd mwyaf manteisiol. Byddan nhw’n dysgu bod yn glir yn eu hysgrifennu a’u siarad ac yn uniongyrchol am nodau ac amcanion. Byddan nhw’n dysgu ystyried yr hyn sy’n berthnasol i bwnc, ffocws ac amcanion eu dadl neu drafodaeth yn unig. Bydd myfyrwyr hefyd yn gorfod cyflwyno eu hasesiad ar fformat prosesydd geiriau a dylai cyflwyniad y gwaith hwn adlewyrchu mynegiant effeithiol o syniadau a defnydd da o sgiliau iaith er mwyn sicrhau eglurder, cydlyniad a chyfathrebu effeithiol.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Cynigir y modiwl fel darpariaeth DPP y gellir ei defnyddio gan unigolion i hwyluso datblygiad gyrfa broffesiynol.
Datrys Problemau Bydd gwaith annibynnol a datrys problemau’n nod canolog i’r modiwl. Wrth baratoi’r asesiad ysgrifenedig bydd yn ofynnol i fyfyrwyr ddatblygu sgiliau ymchwilio annibynnol yn ogystal â sgiliau datrys problemau. Caiff gallu myfyrwyr i ddatrys problemau ei ddatblygu a’i asesu drwy ofyn iddyn nhw: fabwysiadu safbwyntiau gwahanol; trefnu data a ffurfio ateb i’r broblem; ymresymu’n rhesymegol; llunio dadleuon damcaniaethol; rhannu problemau’n broblemau llai.
Gwaith Tim Ar gyfer rhai o’r pynciau mae’r modiwl hwn yn eu cwmpasu, bydd seminarau yn cynnwys trafodaethau mewn grwpiau bach lle bydd gofyn i fyfyrwyr drafod fel grwp y materion craidd yn ymwneud â’r pwnc seminar. Bydd y trafodaethau dosbarth hyn yn caniatau i fyfyrwyr ymdrin ac archwilio pwnc penodol drwy waith tîm.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Mae’r modiwl yn anelu at hybu hunan-reoli ond o fewn cyd-destun lle mae cefnogaeth a chymorth ar gael gan y cynullydd modiwl a chyd-fyfyrwyr fel ei gilydd. Bydd disgwyl i fyfyrwyr gyfoethogi eu dysgu a’u perfformiad eu hunain drwy ymgymryd ag ymchwil annibynnol ac ymarfer eu menter eu hunain, gan gynnwys chwilio am ffynonellau perthnasol.
Rhifedd N/a
Sgiliau pwnc penodol Bydd gan fyfyrwyr y cyfle i ddatblygu, ymarfer a phrofi amrywiaeth o sgiliau penodol i’r pwnc fydd yn eu helpu i ddeall, cysyniadu a gwerthuso enghreifftiau a syniadau ar y modiwl. Mae’r sgiliau penodol hyn yn cynnwys: • Casglu a deall amrywiaeth eang o ddata’n ymwneud â’r modiwl • Gwerthuso persbectifau cystadleuol • Cymhwyso cysyniadau a fframweithiau cyffredinol mewn perthynas â phroblemau cymdeithasol a gwleidyddol cymhleth.
Sgiliau ymchwil Bydd gofyn i fyfyrwyr ymgymryd ag ymchwil annibynnol wrth baratoi ar gyfer y sesiynau addysgu a hefyd wrth baratoi'r gwaith i’w asesu. Bydd hyn yn cynnwys defnyddio amrywiaeth o ffynonellau gwybodaeth, gan gynnwys testunau academaidd craidd.
Technoleg Gwybodaeth Bydd disgwyl i fyfyrwyr gyflwyno’r gwaith a asesir mewn fformat prosesydd geiriau drwy’r llwyfan ar-lein Blackboard. Hefyd anogir myfyrwyr i chwilio am ffynonellau o wybodaeth ar y we, yn ogystal â cheisio ffynonellau drwy ffynonellau gwybodaeth electronig.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7