Module Information

Cod y Modiwl
IE30420
Teitl y Modiwl
Patagonia Gyfoes
Blwyddyn Academaidd
2015/2016
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Seminar 11 x Seminarau 1 Awr
Darlith 11 x Darlithoedd 1 Awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Prosiect ysgrifenedig unigol (2,000 gair)  40%
Asesiad Semester Cyflwyniad llafar ar y prosiect ysgrifenedig unigol  20%
Arholiad Semester 2 Awr   Arholiad  40%
Arholiad Ailsefyll 2 Awr   Arholiad Atodol  100%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

Dangos eu bod nhw'n gallu ymdrin yn feirniadol a phrif elfennau cymdeithas a diwylliant Patagonia yn ei chyd-destun (mewn perthynas a'r Ariannin ac America Ladin yn gyffredinol);

Dangos eu bod nhw'n yn gyfarwydd a cherrig milltir hanes Patagonia a gallu gwneud cysylltiadau ac adnabod patrymau cyffredinol

Dangos eu bod nhw'n gallu dadansoddi elfennau o hanes cyfredol yr ardal a'u cysylltu a digwyddiadau'r gorffennol;

Dangos eu bod nhw wedi datblygu ystod o sgiliau perthnasol sydd yn eu galluogi i ystyried deunyddiau llenyddiaeth a ffilm yn feirniadol ac yn ddadansoddol er mwyn ffurfio barn.

Cynnwys

Bwriad y modiwl hwn yw cyflwyno prif elfennau cymdeithas a diwylliant Patagonia gyfoes i fyfyrwyr israddedig drwy ddeunyddiau llenyddiaeth, ffilm a chyfryngau amrywiol. Edrychir ar gerrig milltir hanes yr ardal mewn perthynas a'r Ariannin ac America Ladin yn gyffredinol er mwyn meithrin dealltwriaeth feirniadol o ddatblygiad Patagonia hyd at y presennol. Trafodir yn y darlithoedd pynciau megis: Fforio Patagonia: 'darganfod' a mapio; Poblogaeth Patagonia: brodorion a mewnfudwyr; Iparraguirre a'i nofel La tierra del fuego;
Patagonia a'r gwahanol ddychmygion: tlws y wladwriaeth, tirlun teithio i dramorwyr, tirlun teithio i Archentwyr, cerdyn post Patagonia ar ffilm; Realiti Patagonia a dilyniant gorthrwm; Cyfnod yr Adennill: lleisiau Patagonaidd, brodorion yn mynnu hawliau; Patagonia ar y newyddion.

Wythnos Themau

1.
15 Cyflwyniad i'r modiwl + aseiniadau
Cyflwyniad i'r rhanbarth - 'Cewri' Patagonia - Brodorion - Yr Oes Darganfod: mordwyo a mapio Patagonia

2.
16 Bwrlwm mordwyo: cyrchfan llongau tramor - Y Byd yn llygadu Patagonia - Patagonia'n Dir Neb - Gwlad iwtopiau: Teyrnas Araucania a Phatagonia - Mordeithiau'r Beagle

3.
17 Yr Ariannin a Chile: adeiladu gwlad - Meddylfryd 'Gwareiddiad yn erbyn Barbariaeth': Ymgyrchoedd yn erbyn y brodorion - Poblogi Patagonia ddwyreiniol a gorchfygu'r 'anialwch'

4.
18 Trafod cynlluniau marcio ar gyfer y cyflwyniad a'r prosiect ysgrifenedig
Poblogi Patagonia ddwyreiniol: yr Ariannin ar ol 1885 - Canlyniadau 'Concwest yr Anialwch': brodorion a thirfeddianwyr - Gwlad iwtopiau: y Wladfa

5.
19 Meddiannu Patagonia: Patagonia Drasig Borrero - Nouzeilles 1999: gwrthdroi mythau daearyddol ymerodrol a chyflwyno Patagonia fel ymgorfforiad o'r Wladwriaeth - Perito Moreno: mapio'r tiroedd ac adeiladu'r genedl - Gwyddoniaeth a'r Fyddin - Strategaethau tuag at y brodorion - Delweddu'r rhanbarth: ffantasi rwystredig ond tirlun Patagonia fel ffetis - Patagonia fel Tlws y Wladwriaeth

6.
20 Patagonia fel tirlun teithio i dramorwyr ac Archentwyr - Cerdyn post Patagonia: Patagonwyr fel travelees - Y Wladfa heddiw

7.
21 Cyflwyniadau llafar ar brosiectau ysgrifenedig
Realiti Patagonia: brodorion, tirfeddianwyr (e.e. Gwrthryfel ym Mhatagonia), dilyniant gorthrwm, tramorwyr a damcaniaethau cynllwynio
Cyfnod yr Adennill: lleisiau Patagonaidd, brodorion yn mynnu hawliau + Camusu Aike (OND Benetton ayyb); Patagonia ar y newyddion

8.
22 Cyflwyno prosiectau ysgrifenedig
Dangosiad: Separado! + trafodaeth: Patagonia a'r gwahanol ddychmygion

9.
23 Iparraguirre a'i La tierra del fuego I

10.
24 Iparraguirre a'i La tierra del fuego II
Cloi: trosolwg o'r modiwl + gwerthuso profiad y myfyrwyr

11.
25 wythnos adolygu / paratoi ar gyfer arholiadau

Disgrifiad cryno

Edrychir ar gerrig milltir hanes yr ardal mewn perthynas a'r Ariannin ac America Ladin yn gyffredinol er mwyn meithrin dealltwriaeth feirniadol o ddatblygiad Patagonia hyd at y presennol.

DS: Nid oes rhaid medru Sbaeneg er mwyn dilyn y modiwl hwn.

Nod

Bwriad y modiwl hwn yw cyflwyno prif elfennau cymdeithas a diwylliant Patagonia gyfoes i fyfyrwyr israddedig drwy ddeunyddiau llenyddiaeth, ffilm a chyfryngau amrywiol.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Datblygir: * Y galli i gyfathrebu gwybodaeth, syniadau a dadleuon yn effeithiol (cyfraniad llafar yn ystod y gwersi, ysgrifennu prosiect, cyflwyniad llafar a pharatoi arholiad) * Y gallu i grynhoi a threfnu gwybodaeth * Y gallu i fynegi dadl a'i hamddiffyn
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Datblygir: * Y gallu i adnabod gwahaniaethau diwylliannol ac ymateb iddynt. * Y gallu i weithio'n annibynnol, gosod blaenoriaethau, rheoli amser yn effeithiol a chwblhau gwaith mewn pryd
Datrys Problemau Datblygir: * Y gallu i adnabod, trafod a dadansoddi materion cymhleth yn ymwneud â maes y modiwl * Y gallu i gynnig dadleuon rhesymegol, gwerthuso honiadau a datblygu barn feirniadol
Gwaith Tim Dysgir y seminarau mewn grwpiau bach ac mae trafodaethau grwp yn rhan annatod o'r profiad dysgu ar y modiwl
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Datblygir: * Y gallu i fyfyrio ar y broses ddysgu a defnyddio adborth adeiladol
Rhifedd Nid yw'r modiwl yn ymdrin â'r sgil hon yn uniongyrchol.
Sgiliau pwnc penodol Datblygir gwybodaeth bellach o'r pwnc a astudir (Ieithoedd Modern, Cymraeg, Daearyddiaeth) yn ogystal ag o'r iaith Gymraeg/Sbaeneg ar sail amrywiaeth o ffynonellau llafar ac ysgrifenedig
Sgiliau ymchwil Datblygir: * Y gallu i chwilio am wybodaeth bellach (ymchwilio) a chyflwyno gwaith ysgrifenedig * Y gallu i gasglu, crynhoi a dadansoddi gwybodaeth a thystiolaeth oddi ar ystod o ffynonellau cynradd ac eilradd (deunyddiau papur, clyweled ac electronig)
Technoleg Gwybodaeth Datblygir y gallu i ddefnyddio TG yn effeithiol, nid yn unig fel ffordd o gyfathrebu a chyflwyno gwaith ond hefyd fel cymorth ar gyfer dysgu (Blackboard a'r Porth, meddalwedd prosesu geiriau, ymchwilio ar y we).

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6