Module Information

Cod y Modiwl
RG12610
Teitl y Modiwl
Sgiliau Astudio a Chyfathrebu (FDSC)
Blwyddyn Academaidd
2015/2016
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Elfennau Anghymharus
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlith 22 x Darlithoedd 1 Awr
Gweithdy 2 x Gweithdai 3 Awr
Tiwtorial 4 x Tiwtorial 1 Awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Adroddiad ysgrifenedig.  50%
Asesiad Semester Portffolio datblygu sgiliau  50%
Asesiad Ailsefyll Rhaid i ymgeiswyr wneud yr elfennau hynny or asesiad syn cyfateb ir rheiny a arweiniodd at fethur modiwl.  100%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

1. Arddangos hyfedredd wrth gyfathrebu yn ysgrifenedig ac ar lafar ac wrth weithio mewn grwpiau.

2. Arddangos sgiliau astudio effeithiol, yn cynnwys defnyddio'r llyfrgell.

3. Disgrifio'r rhyngberthynas rhwng y deunyddiau pwnc o fewn i'w cynllun gradd.

4. Arddangos gallu i gymhwyso TG wrth reoli testun, datrys problemau rhifyddol a chasglu a chyflwyno data.

5. Adnabod anghenion datblygu gyrfa a gosod targedau personol ac academaidd.

6. Adnabod gofynion Profiad Gwaith mewn Diwydiant/APL ac amodau ar gyfer cymeradwyo.

Disgrifiad cryno

Mae'r modiwl hwn ar gael yn unig i fyfyrwyr sy'n dilyn cynlluniau FdSc yn Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig. Fe'i cynlluniwyd er mwyn rhoi cymorth academaidd a bugeiliol i fyfyrwyr yn ystod eu blwyddyn gyntaf a fframwaith i ddatblygu sgiliau astudio, sgiliau bywyd ac ymwybyddiaeth o yrfa drwyddo, gyda chefnogaeth Cynlluniau Datblygiad Personol. Bydd hefyd o gymorth wrth i fyfyrwyr integreiddio deunyddiau pwnc y cynlluniau. At hyn, bydd yn rhoi'r wybodaeth, y cefndir a'r cymorth angenrheidiol i fyfyrwyr sicrhau lleoliadau gwaith (sy'n rhan hanfodol o'r cynlluniau FdSc).

Cynnwys

Cyfres o ddarlithoedd awr o hyd bob wythnos yn trafod:

Cyflwyniad i Adolygiad Cynnydd Personol ac Academaidd
Ysgrifennu mewn cyd-destun academaidd.
Hyfforddiant TG (gweithdy 3 x 3 awr) – MS Word, Powerpoint, Excel.
Manteisio i'r eithaf ar yrfa Prifysgol.
Sut i lunio CV.
Profiad Gwaith mewn Diwydiant.
Darlith ar gyflwyno.
Sgiliau cyflwyno data.
Ffynonellau testunau gwyddonol a chwilio am gyfeiriadau.
Techneg arholiadau.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Ysgrifennu mewn cyd-destun academaidd a chyflwyniad llafar
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Bydd y Gwasanaeth Cynghori ar Yrfaoedd yn cyflwyno'r Rhaglen Datblygu Gyrfa a gofynnir i fyfyrwyr lunio CV yn rhan o'r Portffolio Datblygu Sgiliau. Addasu hyn ar gyfer Profiad Gwaith mewn Diwydiant.
Datrys Problemau Defnyddio sgiliau TG wrth gyfrifo drwy daenlenni ac yn y portffolio datblygu sgiliau.
Gwaith Tim Cyflwyniad llafar mewn grwp
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Bydd gofyn i'r myfyrwyr weithio'n annibynnol ar gyfer yr aseiniadau; bydd sesiwn cyflwyno ar ddefnyddio adnoddau'r llyfrgell hefyd yn nodwedd. Asesir drwy ddysgu i gyrraedd dyddiadau cau ar gyfer aseiniadau.
Rhifedd Gofynnir i fyfyrwyr ddangos hyfedredd sylfaenol mewn TG a sgiliau trafod data.
Sgiliau pwnc penodol
Sgiliau ymchwil Canfod gwybodaeth ar gyfer y cyflwyniad ysgrifenedig air portffolio sgiliau.
Technoleg Gwybodaeth Gofynnir i fyfyrwyr ddangos hyfedredd sylfaenol mewn TG a sgiliau trafod data.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4