Module Information

Cod y Modiwl
TC21220
Teitl y Modiwl
Seiliau Ymarfer Cynhyrchu
Blwyddyn Academaidd
2015/2016
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Rhagofynion
Cwblhau Rhan 1 Drama ac Astudiaethau Theatr yn llwyddianus
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Seminar 11 x Seminarau 1 Awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Gwaith Cynhyrchu yn y Prosiect Cynhyrchu  40%
Asesiad Semester Cyflwyniad Ymarferol Grwp a dogfennaeth  60%
Asesiad Ailsefyll Adroddiad ysgrifenedig (2500 o eiriau)  40%
Asesiad Ailsefyll Cyflwyniad Unigol  60%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

1. Arddangos gallu i deall nodau ac amcanion celfyddydol a thechnegol cynhyrchiad theatraidd llawn .

2. Arddangos gallu i gymhwyso'r ddealltwriaeth honno wrth baratoi a chyflwyno gwaith ymarferol yn y Prosiect Cynhyrchu.

3. Arddangos meistriolaeth elfennol o ystod o sgiliau cynhyrchu, ac arbenigedd mewn un matho waith neilltuol (e.e. cyfarwyddo, actio, dylunio).

4. Arddangos gallu i gymhwyso ac ymestyn eu dealltwriaeth o natur y ddrama a gynhyrchir wrth baratoi a chreu Cyflwyniad Ymarferol mewn Grwp.

Nod

Nod y modiwl hwn fydd i gynnig cyflwyniad i fyfyrwyr i'r gwaith cefndirol, ymchwil, cynllunio a pharatoi technegol, hyfforddiant, ymarfer a chyflwyno cyhoeddus sy'n gysylltiedig a chreu cynhyrchiad theatraidd.

Fe fydd yn cyflawni dau swyddogaeth academaidd allweddol bwysig: yn gyntaf oll, fe fydd yn galluogi'r myfyrwyr i sylwi ar y prosesau hynny sy'n angenrheidiol er mwyn troi darn o ddrama ar bapuryn ddigwyddiad byw, cyhoeddus, llawn. Fe fydd hefyd yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ddechrau arddel sgiliau sy'n rhan gynhenid o'r prosesau hynny - sgiliau cyfarwyddo, perfformio, dylunio a rheol llwyfan.

Disgrifiad cryno

Fe fydd y modiwl hwn yn rhoi cyfle i'r myfyrwr arsylwi ar y broses o greu cynhyrchiad theatraidd trwy gyfrwng trafodaethau gyda'r cyfarwyddwyr, y perfformwyr a'r tim cynhyrchu. Fe fydd yn gofyn iddynt astudio'r ddrama a ddewiswyd ar gyfer y cynhyrchiad, a'i ddadansoddi'n fanwl o safbwynt gweledigaeth y dramodydd, hanes rai o'r cynyrchiadau llwyfan blaenorol a fu ohono, ac fel trstun i'w gyflwyno'n fyw yn y presennol.

Fe fydd cyfle i'r myfyrwyr fynychu ymarferion a chyfarfodydd dylunio a llwyfannu ar gyfer y cynhyrchiad, gan sylwi ar yr amrediad eang o swyddogaethau sydd yn cydgyfrannu er mwyn greu cynhyrchiad llwyddiannus. Wrthi 'r modiwl fynd yn ei flaen, rhoddir mwy a mwy o gyfleon iddynt gyfrannu'n uniongyrchol i'r broses gynhyrchu trwy gymryd rol is-gyfarwyddwr, aelod o'r tim dylunio a rheoli llwyfan neu berfformiwr ar lwyfan.

Nod y cydweithio hwn fydd galluogi'r myfyrwyr i ddatblygu eu safbwynt beirniadol ac ymarferol eu hunain ar y ddrama ac ar y cynhyrchiad. Profir y datblygiad hwn trwy gyfrwng portffolio o ddarnau ysgrifenedig a fydd yn gofyn i'r myfyrwyr adrodd ar wahanol agweddau o'r broses gynhyrchu, ar weledigaeth y dramodydd, ar gyd-destun hanesyddol, neu gymdeithasol cyfoes, y ddrama a.y.b. Ar ol cwblhau'r cynhyrchiad, rhoddir cyfle iddynt ymateb yn ymarferol (a gaiff ei sefyll fesul grwp) a fydd yn galluogi i arddangos a chymhwyso'r sgiliau arbenigol a ddysgasant.

Cynnwys

Trefn arfaethedig y seminarau:

1. Cyflwyniad i'r Testun Gosod

2. Dadansoddi'r Testun

3. Bywgraffiad a Chyd-destun hanesyddol/cymdeithasol y Dramodydd

4. Enghreifftiau Eraill o waith y Dramodydd

5. Prif Nodweddion/Gweledigaeth Gelfyddydol y Cynhyrchiad

6. Y Llwyfaniad

7. Arddull y Cyfarwyddo

8. Y broses Ymarfer

9. Y Cynhyrchiad a'r Gynulleidfa

10. Paratoi Cyflwyniad Ymarferol

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu O raid, fe fydd cyfrannu i gynhyrchiad theatraidd byw yn helpu i ddatblygu sgiliau cyfathrebu'r myfyrwyr, yr actorion, cyfarwyddwyr a dylunwyr. Mae'r broses o baratoi a chyflwyno cynhyrchiad yn gofyn am mynegiant a gwrando gofalus a phwrpasol iawn. Fe fydd y modiwl hwn yn rhoi pwyslais arbennig iawn hefyd ar waith cyd-destunol a chefndirol, ac fe fydd darllen a thrafod natur y ddrama a'r cynhyrchiad yn rhan allweddol bwysig o'r seminarau wyhtnosol. Fe fydd y modiwl hefyd yn cynnig mwy nag un math ar 'gynulleidfa' i'r myfyrwyr geisio cyfathrebu a hwy - cynulleidfa gyhoeddus yn achos y cynhyrchiad, cynulleidfa academaidd (tiwtor y modiwl ac arholwyr mewnol/allanol) yn achos y Cyflwyniad Ymarferol a'u cyd-fyfyrwyr wrth baratoi ac ymarfer y cynhyrchiad ei hun.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Fe fydd y profiad o weithio ar gynhyrchiad ymarferol ac ymateb yn ymarferol i'r cynhyrchiad hwnnw yn rhoi cyfle i'r myfyrwyr ddatblygu sgiliau theatr ymarferol wrth drin testun dramataidd. Fe fydd hyn yn rhoi cyfle iddynt arbeigo mewm maes o'u dewis hwy (cyfarwyddo, perfformio neu ddylunio), i ddatblygu ymwybyddiaeth o'u medrau personol, ac o'r safbwyntiau a nodweddion personol hynny a all fod o ddefnydd iddynt wrth gynllunio gyrfa yn y theatr neu mewn gyrfaoedd creadigol cyffelyb.
Datrys Problemau Fe fydd seminarau dysgu'r modiwl yn fodd o nodi nifer o broblemau sylfaenol y mae'n rhaid eu wynebu a cheisio'u goresgyn wrth gyflwyno cynhyrchiad theatraidd, yn enwedig y rheini sy'n codi wrth geisio trosglwyddo gwelwdigaeth dramodydd o'r dudalen i'r llwyfan cyfoes. Fe fyddant yn ffordd allweddol bwysig o helpu'r myfyrwyr i nodi ffactorau a allai effeithio ar y cynhyrchiad gorffenedig mewn gwahanol ffyrdd, ac o ddatblygu meddylfryd creadigol tuag at eu gwaith. Fe fydd yr aseiniadau - ysgrifenedig ac ymarferol- yn caniatau i'r myfyrwyr werthuso manteision ac anfanteision gwahanol ffyrdd o ymdrin ag elfennau'r cynhyrchiad ac i lunio gwahanol gynigion wrth ymateb i'r problemau creadigol sylfaenol.
Gwaith Tim Mae'r modiwl hwn wedi'i seilio ar ddau brofiad dwys o waith ymarferol mewn grwp, y naill yn y Prosiect Cynhyrchu Uwch, a'r llall yn Gyflwyniad Ymarferol mewn Grwp mewn ymateb i'r Prosiect. Rydd hyn gyfle i'r myfyrwyr ddeall neu ymestyn ystod eang iawn o sgiliau gwaith tim.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Fe fydd y modiwl hwn yn cael ei gyflwyno trwy gyfrwng nifer o wahanol dulliau dysgu, ac fe fydd yr ystod hwn o brofiadau yn helpu i'r myfyrwyr ddod yn fwy ymwybodol o'u profiad dysgu a'u anghenion personol mewn perthynas a'u cryfder wrth ymateb i rai a'r rhwystrau a all godi mewn perthynas a rhai eraill. Gan fod tair elfen i'r broses asesu yn y modiwl, fe fydd yn gyfle da i'r myfyrwyr datblygu'r gallu i gynllunio a gweithredu strategaethau dysgu a hunanreolaeth realistig. Fe fydd y sesiynau Tiwtorial a gyflwynir i wahanol grwpiau gwaith(cyfarwyddwyr, perfformwyr, dylunwyr) yn rhoi cyfle i'r myfyrwyr ystyried ac arolygu eu cynydd unigol mewn perthynas a'r prosiect ymarferol a'r modiwl yn gyffredinol.
Rhifedd
Sgiliau pwnc penodol
Sgiliau ymchwil Fe fydd yr aseiniadau ysgrifenedig yn y portffolio yn codi allan o waith a drafodir ac a gyflwynir yn y seminarau, a chan hynny yn gofyn datblygu sgiliau ymchwil er mwyn eu cwblhau. Fe fydd y seminarau hefyd yn trafod y gwaith ymchwil a fydd wedi'i gyflawni gan y cyfarwyddwr wrth ddod i ddeall natur y cynhyrchiad a'i ddehongliad sylfaenol o waith y dramodydd. Wrth ddod yn gyfarwydd a'r gwahanol roliau sy'n cael eu cyflawni wrth gyflwyno cynhyrchaid, fe fydd y myfyrwyr yn dysgu am yr ystod o ddulliau ymchwil sy'n angenrheidiol i waith e.e. cyfarwyddwyr, dylunwyr ac actorion. Fe fydd yr aseiniadau, yn eu tro, yn gofyn i'r myfyrwyr gynllunio a chyflawni ymchwil wrth gynhyrchu eu gwaith, ac yna i werthuso'r cynllun a'r dulliau gwethredu ymchwil wrth adfyfyrio ar y broses gynhyrchu yn ymarferol.
Technoleg Gwybodaeth Ni ddatblygir y sgiliau hyn yn uniongyrchol o ganlyniad i'r profiad dysgu, ond fe fydd yna sawl cyfle i'r myfyrwyr ymestyn eu gallu i ddefnyddio ffynonellau gwybodaeth electronig wrth wneud eu gwaith cefndirol ac ymchwil i'r gwaith ymarferol, wrth baratoi ar gyfer seminarau ac wrth gysylltu a'i gilydd yn ystod y broses gwaith.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5