Module Information

Cod y Modiwl
AD37300
Teitl y Modiwl
Dysgu i Addysgu 1
Blwyddyn Academaidd
2016/2017
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1 (Dysgwyd dros 2 semester)
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Aseiniad Prif Bwnc (4000 gair)  70%
Asesiad Semester Aseiniad Ail Bwnc (1000 gair)  30%
Asesiad Ailsefyll Aseiniad Prif Bwnc (4000 gair)  70%
Asesiad Ailsefyll Aseiniad Ail Bwnc (1000 gair)  20%
Asesiad Ailsefyll 3 Enghraifft o?r Detholiad Ymarfer Dysgu (600 gair)  10%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

Dangos gwybodaeth a dealltwriaeth sicr o'u prif bwnc/bynciau arbenigol a fydd yn galluogi iddynt eu haddysgu yn CA3 a CA4 ac ôl-16 lle bo'n berthnasol

Dangos ymwybyddiaeth o gynnwys y pwnc a chwricwlwm is-bwnc methodoleg yng Nghyfnod Allweddol 3*

Cynllunio ar gyfer, addysgu a rheoli eu dosbarthiadau'n effeithiol, gan sicrhau dysgu datblygiadol a disgyblaeth gadarn

Trafod a dadansoddi'n feirniadol sut mae dysgwyr yn dysgu a chynllunio'n unol â hynny

Dadansoddi dysgu y dysgwyr yn feirniadol drwy dynnu ar amrywiaeth o asesiadau o ystod eang o waith dysgwyr a gosod targedau clir ar gyfer cyflawniadau dysgwyr a chyflwyno adroddiadau cynhwysfawr i rieni

Tynnu ar arsylwadau gwersi ac addysgu tîm (lle bo'n briodol) gyda golwg ar uchafu eu gwybodaeth a'u hyder yn yr is-bwnc methodoleg*

Gwerthfawrogi pwysigrwydd datblygu i fod yn ymarferwyr ystyriol ac adnabod eu cryfderau a'u hanghenion eu hunain.

  • Yn gymwys i’r rheini sy’n cymryd Is-bwnc methodoleg yn unig


Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6