Module Information

Cod y Modiwl
GW39220
Teitl y Modiwl
Gwleidyddiaeth Ryngwladol a Bydoedd Anorllewinol
Blwyddyn Academaidd
2016/2017
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlith 11 x Darlithoedd 1 Awr
Seminar 11 x Seminarau 2 Awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Perfformiad Seminar  10%
Asesiad Semester 1 x Traethawd 2,500 o eiriau  40%
Arholiad Semester 2 Awr   Arholiad a welwyd eisoes  50%
Asesiad Ailsefyll 1x adolygiad beirniadol 1,000 (yn lle perfformiad seminar)  10%
Asesiad Ailsefyll 1 x Traethawd 2,500 o eiriau  40%
Arholiad Ailsefyll 2 Awr   Arholiad a welwyd eisioes  50%

Canlyniadau Dysgu

Wrth gwblhau'r modiwl hwn, dylai myfyrwyr fedru:
1. Arddangos dealltwriaeth o gymhlethdod ac amrywiaeth y dadleuon a'r termau sy'n ymwneud a'r Trydydd Byd, y De, y gwledydd llai datblygiedig a'r gwledydd datblygol, ymhlith teitlau eraill.
2. Beirniadu syniadau'r Gorllewin ynghylch datblygiad a goblygiadau hynny ar gyfer y byd datblygol;
3. Asesu natur newidiol gwleidyddiaeth fyd-eang gan gyfeirio at y gwladwriaethau a'r cymdeithasau anorllewinol;
4. Dadansoddi creu dealltwriaeth ddiwylliannol a chynrychiolaeth o gymdeithasau y tu hwnt i'r Gorllewin;
5. Ymdrin a chwestiynau normadol ynghylch sut y dylid newid neu ailstrwythuro'r cysylltiadau rhwng y gwledydd datblygiedig a'r gwledydd datblygol, fel y'u gelwir.
6. Egluro gwybodaeth amgen a dulliau amgen o 'wneud synnwyr' o wleidyddiaeth mewn gwladwriaethau a chymdeithasau anorllewinol

Disgrifiad cryno

Mae'r modiwl yn herio prif naratifau Ewropganolog gwleidyddiaeth ryngwladol drwy astudio rhyng-gysylltiad y Gorllewin a'r byd anorllewinol, gan ymgysylltu a lleisiau a materion ymylol. Cyflwynir yn benodol i'r myfyrwyr feirniadaeth ar Gysylltiadau Rhyngwladol gwladwriaethganolog ac Ewropganolog a goblygiadau hynny ar gyfer y byd anorllewinol, ac astudir hefyd bynciau a themau allweddol megis trefedigaethrwydd, diwylliant, datblygu, rhywedd, hunaniaeth, anghydraddoldeb, hil, crefydd, gwrthsefyll a mudiadau cymdeithasol. Bydd gallu meddwl am gysylltiadau grym o wahanol safbwyntiau anorllewinol yn arfogi myfyrwyr a sgiliau troslgwyddadwy pwysig megis dadansoddi ac ysgrifennu beirniadol.

Nod

Prif nod y modiwl hwn fydd troi’r astudiaeth uniongred o wleidyddiaeth ryngwladol ar ei phen trwy gyflwyno myfyrwyr i ffyrdd amgen o ‘wneud synnwyr’ o wleidyddiaeth mewn gwladwriaethau a chymdeithasau anorllewinol. Ei amcanion fydd archwilio cynhyrchu grym a gwybodaeth yng Nghysylltiadau Rhyngwladol yn feirniadol er mwyn adnabod y rôl gyfansoddol sy’n cael ei chwarae gan y farn ddeuol ar drefn y byd; archwilio’r syniad Gorllewinol o ddatblygiad a’i oblygiadau ar gyfer gweddill y byd; deall cymhlethdod ac amrywiaeth dadleuon a phynciau wrth gyfeirio at weddill y byd fel y Trydydd Byd, y De Byd-eang, a’r byd datblygol, ymhlith eraill; dadansoddi creu dealltwriaethau diwylliannol a chynrychiolaethau o gymdeithasau y tu hwnt i’r Gorllewin.

Cynnwys

Bydd y modiwl yn archwilio gwleidyddiaeth fyd-eang gan ddefnyddio ystod o ddulliau ôl-drefedigaethol a dad-drefedigaethol. Bydd yn defnyddio nifer o astudiaethau achos er mwyn dadansoddi’n feirniadol ddealltwriaethau’r Gorllewin o’r byd anorllewinol. Trwy hynny, bydd yn ceisio ysgwyd sylfeini meddylfryd confensiynol ynghylch gwladwriaethau a chymdeithasau’r Trydydd Byd, gan herio syniadau synnwyr cyffredin ynghylch cynnydd, gwareiddiad a datblygiad.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Bydd y myfyrwyr yn dysgu sut i gyflwyno eu syniadau ar lafar ac yn ysgrifenedig a sut i gyflwyno eu dadleuon yn effeithiol. Byddant yn dysgu pwysigrwydd gwybodaeth a chyfathrebu'n eglur a sut orau i ddefnyddio'r rhain. Byddant yn gwybod sut i ddefnyddio'r amryw ffynonellau gwybodaeth sydd ar gael iddynt a sut orau i ddefnyddio'r ffurf fwyaf priodol o gyfathrebu. Byddant yn dysgu ysgrifennu a siarad yn glir a sicrhau nodau ac amcanion uniongyrchol. Byddant yn dysgu ystyried dim ond yr hyn sy'n berthnasol i'r pwnc, canolbwynt ac amcanion y ddadl neu'r drafodaeth. Gofynnir i fyfyrwyr hefyd eirbrosesu eu haseiniadau ysgrifenedig a dylai cyflwyniad y gwaith adlewyrchu mynegiant effeithiol o syniadau a defnydd da o sgiliau iaith er mwyn sicrhau eglurder, cydlyniad a chyfathrebu effeithiol.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Pwrpas y modiwl hwn yw meithrin a phrofi sgiliau fydd o ddefnydd i'r myfyrwyr yn eu swyddi, yn enwedig wrth siarad a grwpiau bychain, gwrando, meddwl ac ymateb i ddatganiadau eraill. Ar ben hynny, mae'r gwaith ysgrifenedig yn cynnwys ysgrifennu'n glir ac yn gryno, sy'n dasg gyffredin yn y gweithle. Anogir myfyrwyr drwy gydol y modiwl i ystyried eu perfformiad ac ystyried gwersi i'w defnyddio yn y dyfodol.
Datrys Problemau Bydd gwaith annibynnol a datrys problemau yn un amcan canolog o'r modiwl; wrth gyflwyno ystod o asesiadau sgiliau astudio, bydd gofyn i'r myfyrwyr ddatblygu sgiliau ymchwil annibynnol yn ogystal a sgiliau datrys problemau. Bydd gallu'r myfyrwyr i ddatrys problemau yn cael ei ddatblygu a'i asesu drwy ofyn iddynt: fabwysiadau gwahanol safbwyntiau; trefnu data a llunio ateb i'r broblem; rhesymu'n rhesymegol; llunio dadleuon damcaniaethol; rhannu pynciau yn broblemau llai.
Gwaith Tim Bydd y myfyrwyr yn cyflawni ymarferion tim yn ystod y seminarau. Ar gyfer llawer o bynciau'r modiwl hwn, bydd y seminarau yn cynnwys trafod mewn grwpiau bychain a gofynnir i fyfyrwyr drafod pynciau craidd pwnc y seminar mewn grwp. Bydd y trafodaethau a'r dadleuon hyn yn y dosbarth yn ffurfio rhan sylweddol o'r modiwl, ac yn galluogi'r myfyrwyr i fynd i'r afael a phwnc arbennig, ac ymchwilio iddo, drwy waith tim.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Nod y modiwl hwn yw hyrwyddo hunanreoli ond o fewn i gyd destun lle bydd cefnogaeth a chymorth ar gael gan y cydgysylltydd a chyd fyfyrwyr. Disgwylir i fyfyrwyr wella eu dysgu a'u perfformiad eu hunain drwy wneud eu gwaith ymchwil eu hunain a dilyn eu trywydd eu hunain, yn cynnwys chwilio am ffynonellau a phenderfynu (dan gyfarwyddyd) ar gyfeiriad pynciau eu gwaith cwrs a'r cyflwyniadau.
Rhifedd Amherthnasol
Sgiliau pwnc penodol Bydd y modiwl hwn yn rhoi'r cyfle i fyfyrwyr ddatblygu, ymarfer a phrofi amrywiaeth eang o sgiliau sy'n benodol i'r pwnc a fydd yn eu cynorthwyo i ddeall, cysyniadoli a gwerthuso enghreifftiau a syniadau yn y modiwl. Bydd y sgiliau pwnc benodol hyn yn cynnwys: Casglu a deall amrywiaeth eang o ddata sy'n berthnasol i'r modiwl Gwerthuso safbwyntiau sy'n cystadlu a'i gilydd Defnyddio rhychwant o fethodolegau wrth drafod problemau gwleidyddol hanesyddol a chyfoes, cymhleth.
Sgiliau ymchwil Gofynnir i'r myfyrwyr wneud gwaith ymchwil annibynnol ar gyfer elfennau o'r gwaith i'w asesu. Bydd hynny'n golygu defnyddio amrywiaeth o ffynonellau gwybodaeth, yn cynnwys testunau academaidd craidd.
Technoleg Gwybodaeth Disgwylir i fyfyrwyr eirbrosesu'r gwaith fydd i'w gyflwyno, drwy'r llwyfan ar lein Blackboard. Anogir myfyrwyr hefyd i chwilio am ffynonellau gwybodaeth ar y we, yn ogystal a chwilio am ffynonellau drwy ffynonellau gwybodaeth electronig.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6