Lleoliad Gwaith Cyfiawnder Troseddol

Module Identifier
CT22520
Module Title
Lleoliad Gwaith Cyfiawnder Troseddol
Academic Year
2025/2026
Semester
Semester 2 Taught over 2 semesters
Co-ordinator
Miss Demi John
Reading List
View on Aspire
Pre-Requisite
CT12220 or CT22220 or LC12220 or LC22220
Exclusive (Any Acad Year)
CT32520 or LC32520
Exclusive (Any Acad Year)
LC22520
Exclusive (Any Acad Year)
LC36620
Other Staff
Miss Demi John

Assessment

Assessment Type

Assessment details

Proportion

Semester Assessment Y portffolio lleoliad gwaith adlewyrchol: gyda terfyn gair uchaf o 2000 o eiriau ond dim terfyn ar gynnwys deunyddiau eraill (e.e. llawlyfrau hyfforddi, canllawiau Asiantaeth ayb.) 25%
Semester Assessment Asesiad gan y sefydliad lle gwneir y lleoliad: 20%
Semester Assessment Cyflwyniad ar ol y lleoliad: (10-15 munud) 25%
Semester Assessment Adroddiad Adfyfyriol: 1,500 o eiriau 30%
Supplementary Assessment Adroddiad Lleoliad Myfyriol Estynedig: 5,000 o eiriau 100%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

  1. Cyflawni lleoliad gwaith am gyfnod gofynnol.
  2. Gweithio i amserlen benodol mewn asiantaeth cyfiawnder troseddol, amgylchedd llywodraeth neu academaidd.
  3. Gweithio’n annibynnol ac fel rhan o dîm.
  4. Defnyddio gwybodaeth o’r astudiaethau academaidd mewn sefyllfa waith.
  5. Ystyried sut gallant ddefnyddio eu sgiliau cyflogadwyedd i wella eu dysgu academaidd.
  6. Adlewyrchu ar y wybodaeth a phrofiad a gafwyd yn y lleoliad a'i gynnwys mewn darn o waith academaidd.
  7. Ystyried cyfraniad eu hyfforddiant sgiliau a’u profiad gwaith at ddatblygiad eu gyrfa.

Brief description

Byddai disgwyl i fyfyrwyr y modiwl hwn ddilyn hyfforddiant lleoliad gwaith yn un o’r asiantaethau cyfiawnder troseddol fel gwirfoddolwr neu am dâl. Ar ôl hyfforddi, byddai disgwyl iddynt wneud gwaith gwirfoddol neu waith am dâl am nifer penodol o oriau o leiaf. Yna, byddent yn dychwelyd ac yn cwblhau traethawd estynedig fel rhan o’r asesiad. Rhan fechan o’r asesiad fyddai asesiad o’u perfformiad yn ystod y lleoliad a fyddai’n cael ei asesu gan y sefydliad lle gwneir y lleoliad.

Content

Cyn y Lleoliad Adrannau rhagarweiniol i’w dysgu gan Staff y Brifysgol;
1.Cyflwyniad i waith asiantaethau cyfiawnder troseddol
2.Cyflwyniad i waith maes a’i beryglon
3.Ymarfer Myfyriol
4.Ymddygiad Proffesiynol yn y Gweithle
Hyfforddiant Sgiliau Rhagarweiniol a gynigir gan Sefydliadau
Lleoliad
Ôl-drafodaeth a myfyrdod

Module skills

Skills type

Skills details

Application of Number Mae llawer o asiantaethau cyfiawnder troseddol yn defnyddio gwaith ymchwil meintiol i bennu polisi ac mae llawer hefyd yn defnyddio materion meintiol i fesur effeithiolrwydd ymyrraethau yn gyffredinol ac ar unigolion penodol.
Communication Anogir a datblygu cyfathrebu llafar yn ystod trafodaethau seminar rhyngweithiol ac wrth ymwneud â chyd-weithwyr a/neu gleientiaid yn y lleoliad gwaith. Datblygir sgiliau ysgrifenedig drwy’r cynllun a’r traethawd estynedig byr.
Improving own Learning and Performance Bydd trafodaethau seminar ac adborth ar waith yn galluogi myfyrwyr i fyfyrio ar eu dysgu eu hunain. Yn fwy gwerthfawr, efallai, fydd y posibilrwydd o fyfyrio ar weithrediad eu disgyblaeth mewn amgylchedd ymarferol ac ymwneud y ddisgyblaeth â pholisi ac ymarfer.
Information Technology Bydd chwilio drwy gronfeydd data a chyfnodolion ar-lein yn ymarfer sgiliau TG. Yn amodol ar eu lleoliadau, bydd y myfyrwyr hefyd yn debyg o ddod ar draws systemau coladu cronfeydd data newydd ar gyfer gwybodaeth am gleientiaid.
Personal Development and Career planning Mae’r modiwl yn dda ar gyfer gwella dysgu myfyrwyr yn y meysydd hyn; yn wir dyma’r ethos y seiliwyd y modiwl arno.
Problem solving Yn ystod y lleoliad bydd yn rhaid datrys llawer o broblemau ymarferol a fydd yn datblygu ac yn gwella sgiliau datrys problemau beirniadol ac ymarferol myfyrwyr.
Research skills Datblygir sgiliau ymchwil drwy fynediad at lenyddiaeth ar agweddau ar eu lleoliad.
Subject Specific Skills Agwedd ar gyfer pob myfyriwr yn unigol fydd datblygu sgiliau pwnc-benodol ond bydd hyd a lled y sgiliau hyn yn amrywio yn ôl y lleoliad.
Team work Mae pob asiantaeth cyfiawnder troseddol yn dibynnu ar waith tîm felly bydd y modiwl o anghenraid yn gwella sgiliau gwaith tîm.

Notes

This module is at CQFW Level 5