Llenyddiaeth Gymraeg: cyfoes a hanesyddol
- Module Identifier
- CY11520
- Module Title
- Llenyddiaeth Gymraeg: cyfoes a hanesyddol
- Academic Year
- 2025/2026
- Semester
- Semester 2 Taught over 2 semesters
- Co-ordinator
- Dr Eurig Salisbury
- Reading List
- View on Aspire
- Other Staff
- Dr Bleddyn Huws
- Dr Eurig Salisbury
- Professor Mererid Hopwood
- Dr Llewelyn Hopwood
Assessment
|
Assessment Type |
Assessment details |
Proportion |
|---|---|---|
| Semester Assessment | Traethawd 1: (Semester 1 - 500 o eiriau) | 20% |
| Semester Assessment | Traethawd 2: (Semester 2 - 1000 o eiriau) | 30% |
| Semester Exam | 2 Hours | 50% |
| Supplementary Assessment | Traethawd 1: (500 o eiriau) | 20% |
| Supplementary Assessment | Trawthawd 2: (1000 o eiriau) | 30% |
| Supplementary Exam | 2 Hours | 50% |
Learning Outcomes
On successful completion of this module students should be able to:
- dangos dealltwriaeth o themâu, o genres ac o ffigurau llenyddol hanesyddol a chyfoes (barddoniaeth a rhyddiaith);
- dangos dealltwriaeth o brif dueddiadau llenyddol y cyfnod fel yr amlygant eu hunain yng ngwaith llenorion y cyfnod;
- medru trafod (ar lafar ac yn ysgrifenedig) detholiad o destunau unigol yn feirniadol, ynghyd â’u gosod yng nghyd-destun canon yr awdur, ynghyd â’u cyd-destun hanesyddol a chymdeithasol priodol.
Brief description
Mae’r modiwl craidd hwn yn rhoi trosolwg beirniadol i fyfyrwyr o themâu, o genres ac o ffigurau llenyddol Cymru (barddoniaeth a rhyddiaith), yn ogystal â’u galluogi i werthfawrogi detholiad o destunau unigol yn feirniadol. Dechreuir â llenyddiaeth gyfoes er mwyn atgyfnerthu gwybodaeth y myfyrwyr o gyweiriau llenyddol cyfoes, cyn eu cyflwyno i gyweiriau llenyddol hanesyddol mwy ymestynnol
Aims
Mae’r modiwl craidd hwn yn rhoi trosolwg beirniadol i fyfyrwyr o themâu, o genres ac o ffigurau llenyddol Cymru a’r Gymraeg, yn ogystal â’u galluogi i werthfawrogi detholiad o destunau unigol yn feirniadol.
Content
Dilynir fformat Gweithdy a Darlith wythnosol ar y modiwl hwn. Bydd y Gweithdy yn cyflwyno geirfa ymarferol a chysyniadol, a bydd hefyd yn gyfle i drafod testunau’n fanwl.
Semester 1: Llên Gyfoes
1. Troad yr ugeinfed ganrif (canu telynegol)
2. R. Williams Parry
3. T.H. Parry-Williams
4. Bobi Jones
5. Gerwyn Wiliams
6. Kate Roberts, ‘Y Taliad Olaf’
7. Islwyn Ffowc Elis, ‘Y Tyddyn’
8. Martin Davies, ‘L’acte Gratuite’
9. Mihangel Morgan, ‘Nia’
10. Manon Steffan Ros, Y Stelciwr
Semester 2: Llên Hanesyddol
1. Cyflwyniad i’r traddodiad barddol
2. Y canu arwrol
3. Y canu englynol
4. Y canu llys
5. Dafydd ap Gwilym
6. Y dadeni a’i ganlyniadau
7. Awduron rhyddiaith yr unfed ganrif ar bymtheg a’r ail ganrif ar bymtheg
8. Traddodiad Goronwy Owen
9. Traddodiad Pantycelyn
10. Canu telynegol y bedwaredd ganrif ar bymtheg
Module skills
|
Skills type |
Skills details |
|---|---|
| Application of Number | amherthnasol |
| Communication | Anogir myfyrwyr i fynegi eu syniadau yn eglur ac yn argyhoeddiadol yn yr aseiniadau ysgrifenedig. |
| Improving own Learning and Performance | Trwy ymchwil annibynnol; adborth eu twtoriaid ar waith ysgrifenedig a chyfraniadau llafar; ymwneud â chymheiriaid yn ystod trafodaethau grŵp; datblygu sgiliau trefnu amser/gwaith; myfyrio ar sgiliau cyflwyno a gwaith ysgrifenedig arall. Bydd modd i fyfyrwyr wella eu gallu i ddarllen a dehongli testunau hanesyddol. |
| Information Technology | At ddibenion ymchwil (aseiniad a thrafodaethau); prosesu geiriau; defnyddio ymchwil electronig ac adnoddau llyfryddol; cael mynediad i adnoddau’r modiwl ar y Bwrdd Du. |
| Personal Development and Career planning | Datblygir sgiliau hanfodol (megis delio â llif gwaith yn wythnosol, trefnu amser yn effeithiol a chyflawni ymchwil yn annibynnol) drwy gydol y modiwl. |
| Problem solving | Trwy ymwneud yn feirniadol, ar lafar ac ar bapur, â chysyniadau deallusol sy’n codi o’r cyd-destun hanesyddol ac o destunau llenyddol penodol. |
| Research skills | Trwy gyfrwng ymchwil annibynnol ar gyfer aseiniadau ysgrifenedig (traethawd) a chyfraniadau i drafodaethau grŵp; trwy ddefnyddio ymchwil electronig ac adnoddau electronig a llyfryddol. |
| Subject Specific Skills | Trwy feithrin gallu myfyrwyr i ddarllen a deall testunau, a thrwy hynny ddysgu mwy am ddatblygiad yr iaith Gymraeg a nodweddion generig y testunau a astudir. |
| Team work | Trwy gyfrannu at drafodaethau grŵp ar y testunau a’r cysyniadau allweddol. |
Notes
This module is at CQFW Level 4
Welsh and Celtic Studies,Aberystwyth University, Parry-Williams Building, Penglais, Aberystwyth,
01970 622137 : +44 : +44 (0)1970 622021
cymraeg@aber.ac.uk: cymraeg@aber.ac.uk
