Gloywi Iaith yr Ail Iaith
- Module Identifier
- CY31120
- Module Title
- Gloywi Iaith yr Ail Iaith
- Academic Year
- 2025/2026
- Semester
- Semester 2 Taught over 2 semesters
- Co-ordinator
- Dr Bleddyn Huws
- Reading List
- View on Aspire
- Exclusive (Any Acad Year)
-
CY20120
- Other Staff
- Dr Bleddyn Huws
- Dr Eurig Salisbury
- Professor Mererid Hopwood
- Dr Llewelyn Hopwood
Assessment
|
Assessment Type |
Assessment details |
Proportion |
|---|---|---|
| Semester Assessment | Tasgau ysgrifenedig (8 Semester 1; 8 Semester 2): 1500 o eiriau | 35% |
| Semester Assessment | Prawf lafar: Cyflwyniad llafar ar destun gosodedig gan ddefnyddio Pwerbwynt 15 Munud | 30% |
| Semester Exam | Arholiad: 2 Hours 2 Awr | 35% |
| Supplementary Assessment | Tasg Ysgrifenedig Estynedig: 1500 o eiriau | 35% |
| Supplementary Assessment | Prawf Llafar: Cyflwyniad llafar ar destun gosodedig gan ddefnyddio Pwerbwynt. 15 Munud | 30% |
| Supplementary Exam | Arholiad: 2 Hours 2 Awr | 35% |
Learning Outcomes
On successful completion of this module students should be able to:
- ysgrifennu Cymraeg safonol a chywir.
- ymgydnabod â rheolau gramadeg y Gymraeg.
- allu esbonio gwallau iaith yn hyderus.
- allu treiglo’n gywir.
- allu defnyddio patrymau cystrawennol amrywiol.
- adnabod mathau gwahanol o gymalau a’u defnyddio’n gywir mewn brawddegau.
- defnyddio priod-ddulliau Cymraeg yn eu gwaith ysgrifenedig eu hunain.
- wybod ystyr nifer o ddiarhebion Cymraeg a’u defnyddio’n naturiol mewn sgwrs ac ar bapur.
- ymgydnabod â chywirdeb Cymraeg llafar a ffurfiol.
- wybod sut i ddefnyddio cyweiriau’r iaith yn ysgrifenedig ac ar lafar.
Brief description
Modiwl yw hwn a fwriadwyd i feithrin gallu myfyrwyr i ysgrifennu'r Gymraeg yn safonol a chywir ac i'w llefaru'n raenus. Fe'i dysgir ar sail grwpiau dan ofal tiwtor, a gosodir tasg ysgrifenedig yn wythnosol. Yn ogystal â thrafod cynhyrchion yr wythnos flaenorol, bydd elfen o hyfforddiant ieithyddol a fydd yn annibynnol ar hynny yn wedd ar bob dosbarth hefyd. Bydd prif bwyslais y dosbarthiadau ar yr iaith ysgrifenedig, ond rhoddir peth sylw hefyd i feithrin ymwybyddiaeth o iaith raenus fel paratoad ar gyfer y Prawf Llafar a fydd yn rhan o asesiad y modiwl.
Aims
Darpara’r modiwl hwn sylfaen gref ar gyfer defnyddio’r iaith ysgrifenedig yn gywir i fyfyrwyr y mae’r Gymraeg yn ail iaith iddynt. Gan eu bod wedi derbyn cyfarwyddyd a pheth hyfforddiant gramadegol ar Lefel 1 a 2, bydd y modiwl hwn yn fwy ymestynnol am ei fod yn rhoi cyfle i’r myfyrwyr ymarfer y rhuglder a gafodd ei feithrin hyd at y flwyddyn olaf. Bydd modd iddynt ymarfer yr hyn a ddysgwyd o’r blaen drwy lunio darnau mewn Cymraeg llenyddol a ffurfiol.
Content
Dysgir y modiwl ar ffurf grŵp neu weithdy iaith wythnosol o dan ofal tiwtor. Trafodir y gwallau cyffredin sy’n ymddangos yng ngwaith y myfyrwyr o wythnos i wythnos, a chyfeirir y myfyrwyr at yr adran berthnasol yn y Gramadeg. Gosodir ymarferion iaith yn y dosbarth o bryd i’w gilydd er mwyn hyfforddi dan gyfarwyddyd.
Bydd y pynciau gramadegol penodol hyn yn cael eu trafod:
1. Orgraff
2. Cenedl Enwau
3. Treigladau
4. Cyweiriau’r iaith
5. Gwahaniaethu rhwng defnydd safonol ac ansafonol o’r iaith
6. Cystrawennau
7. Cymalau
8. Priod-ddulliau
9. Diarhebion Cymraeg
10. Cyfieithu
Yn ogystal â hyn, cynhelir gweithdy a fydd yn paratoi’r myfyrwyr ar gyfer sefyll y Prawf Llafar.
Module skills
|
Skills type |
Skills details |
|---|---|
| Application of Number | Amherthnasol |
| Communication | Bydd disgwyl i’r myfyrwyr allu cyfathrebu yn gywir ac yn effeithiol ar lafar ac yn ysgrifenedig. |
| Improving own Learning and Performance | Bydd disgwyl i’r myfyrwyr allu gweld pa wallau rheolaidd y maent yn eu gwneud a sut i’w cywiro. |
| Information Technology | Bydd cyfle i ddefnyddio rhai adnoddau electronig perthnasol. |
| Personal Development and Career planning | Bydd mireinio eu Cymraeg ysgrifenedig a llafar yn fanteisiol i fyfyrwyr yn ystod eu gyrfa yn y brifysgol, ac wrth fynd i’r gweithle proffesiynol Cymraeg ei iaith. |
| Problem solving | Bydd myfyrwyr yn gallu cywiro gwallau gramadeg a’u hesbonio. |
| Research skills | Bydd gofyn i’r myfyrwyr allu chwilio am esboniadau gramadegol a defnyddio adnodd electronig megis Geiriadur Prifysgol Cymru Ar-lein. |
| Subject Specific Skills | Trin y Gymraeg yn unol â rheolau gramadegol. |
| Team work | Bydd cyfle i gydweithio wrth wneud rhai ymarferion yn y dosbarth. |
Notes
This module is at CQFW Level 6
Welsh and Celtic Studies,Aberystwyth University, Parry-Williams Building, Penglais, Aberystwyth,
01970 622137 : +44 : +44 (0)1970 622021
cymraeg@aber.ac.uk: cymraeg@aber.ac.uk
