Tebygoleg
- Module Identifier
- MT10310
- Module Title
- Tebygoleg
- Academic Year
- 2025/2026
- Semester
- Semester 1
- Co-ordinator
- Dr Alexander Pitchford
- Reading List
- View on Aspire
- Pre-Requisite
-
Mathemateg Safon Uwch (neu gyfartal). - Exclusive (Any Acad Year)
-
MA10310
- Other Staff
- Dr Alexander Pitchford
- Mr Alan Jones
- Mrs Patience Jones
- Dr Tudur Davies
Assessment
|
Assessment Type |
Assessment details |
Proportion |
|---|---|---|
| Semester Assessment | Gwaith Cwrs: Marc yn seiliedig ar bresenoldeb mewn darlithoedd a thiwtorialau ac aseiniadau a gyflwynir | 20% |
| Semester Exam | Arholiad semester: 2 Hours (Arholiad Ysgrifenedig) | 80% |
| Supplementary Exam | Arholiad ail-eistedd: 2 Hours (Arholiad Ysgrifenedig) | 100% |
Learning Outcomes
On successful completion of this module students should be able to:
- 1. defnyddio gweithrediadau a nodiant setiau i ddisgrifio digwyddiadau a mesur eu tebygolrwydd.
- 2. mesur tebygolrwydd yn defnyddio canlyniadau llawn mor debygol mewn gofodau sampl cyfyngedig a pharhaol.
- 3. defnyddio ffwythiant dosraniad cronnol (cdf) hapnewidyn i fesur tebygolrwydd a chanraddau.
- 4. darganfod y cdf ar gyfer trawsnewidiadau syml o egwyddorion cyntaf.
- 5. disgrifio y berthynas rhwng y cdf a (i) y ffwythiant mas tebygolrwydd (pmf) a (ii) y ffwythiant dwysedd tebygolrwydd (pdf).
- 6. braslunio a disgrifio y pmf a pdf.
- 7. mesur y cymedr a'r amrywiant o ddosraniadau syml a'r ffwythiannau llinellol o hapnewidyn.
- 8. esbonio'r syniad o debygolrwydd amodol a'i ddefnyddio i fodelu sefyllfaoedd mwy cymhlyg.
- 9. defnyddio'r cysyniad o annibyniaeth mewn achosion syml yn cynnwys dilyniannau diddiwedd.
Brief description
Mae'r modiwl hwn yn cynnig sylfaen mewn tebygoleg ac yn rhagarweiniad angenrheidiol i unrhyw astudiaeth ddilynol o ystadegau mathemategol ac ymchwil weithredol. Rhoddir pwyslais ar fodelu wir sefyllfaoedd, gan gynnwys cyfrifon tebygolrwydd wedi'u seilio ar broblemau ystadegol. Bydd y technegau mathemategol sydd eu hangen yn cael eu cyflwyno neu eu hadolygu fel rhan annatod o'r cwrs.
Aims
I gyflwyno myfyrwyr i'r technegau angenrheidiol ar gyfer modelu a deall hap ac i ddatblygu'r allu i fesur tebygolrwydd a momentau o hapnewidion.
Content
1. DIGWYDDIADAU A TEBYGOLRWYDD: Gweithrediadau set elfennol; rheolau ar gyfer disgrifio digwyddiadau gyda phwyslais ar arbrofion a gofodau sampl cysylltiol; diagramau Venn; rhaniadau, Deddfau De Morgan. Rheol adiad tebygolrwydd; tebygolrwydd y cyflenwad.
2. CANLYNIADAU YR UN MOR DEBYGOL: Diffinio tebygolrwyddau ar ofodau sampl gyda canlyniadau yr un mor debygol a'u gilydd: arwahanol a di-dor. Trynewidiadau a chyfuniadau. Ffwythiannau o hapnewidynnau (monoton yn unig).
3. TEBYGOLRWYDD AMODOL: Diffiniad a chymhwysiadau syml. Diagramau canghennog; cymhwysiadau anffurfiol o Ddeddf Cyfanswm Tebygolrwyddau a Theorem Bayes; defnydd mewn problemau cyfuniadol; samplu gyda/hef amnewid. Annibynniaeth. Treialon Bernoulli, gemau anfeirdrol.
4. DOSRANIADAU TEBYGOLRWYDD: Ffwythiannau dosraniad cronnus: defnydd er mwyn cyfrifo tebygolrwyddau; canolrifau, canraddau; trawsnewidiadau (monoton) syml.
5. DOSRANIADAU ARWAHANOL: ffwythiannau mas tebygolrwydd; braslunio; enghraifftiau yn cynnwys Binomial a Geometrig.
6. DOSRANIADAU DI-DOR: Ffwythiannau dwysedd tebygolrwydd; braslunio; enghreifftiau yn cynnwys Pareto, Esbonyddol.
7. MOMENTAU: Gwerthoedd disgwyliedig X a ffwythiannau o X; cyfrifiadau ar gyfer dosraniadau syml; cymedr ac amrywiant aX + b.
Module skills
|
Skills type |
Skills details |
|---|---|
| Adaptability and resilience | Cymhwysedd a Gwydnwch: Bydd cwblhau tasgau (aseiniadau) i'r terfynau amser a osodir yn cynorthwyo â datblygiad personol. |
| Creative Problem Solving | Datrys Problemau yn Greadigol: Bydd yr aseiniadau'n cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr i ddangos eu creadigrwydd er mwyn darganfod datrysiadau a datblygu eu sgiliau datrys problemau. |
| Digital capability | Medrusrwydd Digidol: Defnydd o Blackboard ac adnoddau rhyngrwyd. |
| Professional communication | Cyfathrebu Proffesiynol: Disgwylir i fyfyrwyr gyflwyno datrysiadau i ymarferion gosodedig sydd wedi'u hysgrifennu yn glir. |
| Subject Specific Skills | Sgiliau penodol i’r pwnc: Mae’r modiwl yn datguddio myfyrwyr i bynciau mwy eang mewn mathemateg. |
Notes
This module is at CQFW Level 4
Mathematics,Aberystwyth University, Physical Sciences Building, Penglais, Aberystwyth,
01970 622802 : +44 : +44 (0)1970 622021
maths@aber.ac.uk: maths@aber.ac.uk
