Dadansoddiad Cymhlyg
- Module Identifier
- MT21510
- Module Title
- Dadansoddiad Cymhlyg
- Academic Year
- 2025/2026
- Semester
- Semester 2
- Co-ordinator
- Dr Adil Mughal
- Reading List
- View on Aspire
- Pre-Requisite
-
MA11110 or MT11110
- Exclusive (Any Acad Year)
-
MA21510
- Other Staff
- Dr Adil Mughal
- Dr Tudur Davies
Assessment
|
Assessment Type |
Assessment details |
Proportion |
|---|---|---|
| Semester Exam | 2 Hours Arholiad ysgrifenedig | 100% |
| Supplementary Exam | 2 Hours Arholiad ysgrifenedig | 100% |
Learning Outcomes
On successful completion of this module students should be able to:
- Ar ôl cwblhau’r modiwl hwn, dylai myfyrwyr fedru: 1. cyfrifo’n effeithiol gyda rhifau cymhlyg; 2. nodi a defnyddio hafaliadau Cauchy-Riemann; 3. penderfynu a yw ffwythiant gwerth-cymhlyg yn ddadansoddol; 4 enrhifo integrynnau amlinol; 5 nodi theorem Cauchy a disgrifio’i ganlyniadau; 6 enrhifo integrynnau gan ddefnyddio fformiwla integru Cauchy; 7. ehangu ffwythiannau dadansoddol fel cyfres Taylor a chyfres Laurent; 8. enrhifo integrynnau real gan ddefnyddio’r theori gweddillion.
Brief description
Astudiaeth o ffwythiannau sy’n cymryd gwerthoedd cymhlyg yw dadansoddiad cymhlyg. Ar yr un llaw mae’n bwnc ffrwythlon mewn mathemateg bur sy’n arddangos llawer o ganlyniadau cain ac annisgwyl, ac ar y llaw arall gellir cymhwyso’r theori mewn sawl cangen o fathemateg a pheirianneg. Mae rôl pwysig dadansoddiad cymhlyg mewn mathemateg gymhwysol, er enghraifft, yn rhannol ddyledus i’r defnydd o’r theori gweddillion mewn enrhifo integrynnau real a’r cymhwysiad o fapiadau cydffurf yn hydrodynameg a phroblemau mewn theori potensial.
Content
1. Adolygu priodweddau elfennol rhifau cymhlyg.
2. Hafaliadau Cauchy-Riemann. Ffwythiannau dadansoddol. Amodau angenrheidiol a digonol ar gyfer ffwythiant i fod yn ddadansoddol.
3. Integru amlinol. Theorem sylfaenol integru.
4. Theorem Cauchy. Fformiwla integru Cauchy, yn cynnwys y fersiwn cyffredinol.
5. Cyfres Taylor.
6. Cyfres Laurent.
7. Theori gweddillion.
Module skills
|
Skills type |
Skills details |
|---|---|
| Application of Number | Cynhenid mewn unrhyw fodiwl mathemateg. |
| Communication | Na |
| Improving own Learning and Performance | Dod yn gyfarwydd a phwnc newydd mewn Mathemateg |
| Information Technology | Na |
| Personal Development and Career planning | Ychwanegiad defnyddiol i bortffolio mathemategol myfyriwr |
| Problem solving | Cynhenid mewn unrhyw fodiwl mathemateg. |
| Research skills | Na |
| Team work | Na |
Notes
This module is at CQFW Level 5
Mathematics,Aberystwyth University, Physical Sciences Building, Penglais, Aberystwyth,
01970 622802 : +44 : +44 (0)1970 622021
maths@aber.ac.uk: maths@aber.ac.uk
