Seicoleg mewn gweithred
- Module Identifier
- SC20620
- Module Title
- Seicoleg mewn gweithred
- Academic Year
- 2025/2026
- Semester
- Semester 2 Taught over 2 semesters
- Co-ordinator
- Dr Hanna Binks
- Reading List
- View on Aspire
- Other Staff
- Dr Hanna Binks
- Dr Saffron Passam
- Miss Alexandra Brookes
Assessment
|
Assessment Type |
Assessment details |
Proportion |
|---|---|---|
| Semester Assessment | Traethawd a crynodeb: 5000 o eiriau | 100% |
| Supplementary Assessment | Traethawd a crynodeb: 5000 o eiriau | 100% |
Learning Outcomes
On successful completion of this module students should be able to:
- Dealltwriaeth o gymhlethdodau a gofynion llunio portffolio profiad gwaith.
- Esiamplau o flaenoriaethau’r cyd-destun cymhwysol o ddydd i ddydd.
- Esiamplau o’r rolau a’r sgiliau y mae’r lleoliad cymhwysol yn gofyn amdanynt.
- Esiamplau o’r ymarfer moesegol a phroffesiynol yn y lleoliad cymhwysol.
- Gallu myfyrio ar sgiliau, a rhoi tystiolaeth ohonynt, er mwyn gwella cynnydd personol a chyflogadwyedd.
Brief description
Modiwl lleoli yw SC20620 sy’n rhoi’r cyfle i fyfyrwyr feithrin ac ymarfer eu sgiliau yn y gweithle. Nod y modiwl yw datblygu sgiliau cyflogadwyedd myfyriwr mewn meysydd sy’n bwysig ar gyfer recriwtio graddedigion yn ôl yr Asiantaeth Addysg Uwch a Chymdeithas Seicolegol Prydain. Er enghraifft, datrys problemau, myfyrio, sgiliau ymchwil, cyfathrebu, gwella eich dysgu a’ch perfformiad eich hun, datblygiad personol a chynllunio gyrfa a sgiliau pwnc sy’n berthnasol i seicoleg. Caiff myfyrwyr hefyd olwg ar y cyd-destun cynhwysol a’r rolau sy’n gysylltiedig â’r gweithle er mwyn hwyluso eu syniadau eu hunain am lwybrau gyrfa a dyheadau. Bydd y lleoliad gwaith yn gyfle i bob myfyriwr gael profiad mewn meysydd proffesiynol, gwirfoddol neu feysydd sy’n gysylltiedig â’r gwaith. Bydd pob myfyriwr yn gyfrifol am sicrhau ei leoliad ei hun.
Content
Lleoliad: un lleoliad ugain awr i’w ddewis o blith meysydd clinigol, addysgiadol, diwydiannol, sefydliadol, a chymunedol naill ai fel gweithiwr neu wirfoddolwr.
Paratoi ar gyfer lleoliad
Sgiliau trosglwyddadwy
Moeseg ac ymddygiad proffesiynol yn y gweithle
Yr ymarferydd myfyriol
Gyrfaoedd mewn seicoleg a chynllunio gyrfa
Module skills
|
Skills type |
Skills details |
|---|---|
| Application of Number | Mae’r lleoliadau yn amrywiol ac yn cwmpasu ystod eang o sgiliau a phrofiad. Yn ystod y lleoliad, anogir myfyrwyr i ystyried ac ymarfer eu sgiliau rhif mewn sawl cyd-destun. |
| Communication | Mae’r lleoliadau yn amrywiol ac yn cwmpasu ystod eang o sgiliau a phrofiad. Yn ystod y lleoliad, anogir myfyrwyr i ymarfer eu gwrando, siarad, ac ysgrifennu ar gyfer gwahanol ddibenion a gwahanol gynulleidfaoedd. |
| Improving own Learning and Performance | Mae’r lleoliadau yn amrywiol ac yn cwmpasu ystod eang o sgiliau a phrofiad. Anogir myfyrwyr i ystyried eu harddull ddysgu eu hunain, dewisiadau personol, ac amcanion ar gyfer y dyfodol. Byddant yn cael blas ar ddysgu yng nghyd-destun y gweithle ac yn monitro eu cynnydd eu hunain tuag at eu hamcanion dysgu. |
| Information Technology | Mae’r lleoliadau yn amrywiol ac yn cwmpasu ystod eang o sgiliau a phrofiad. Yn ystod y lleoliad, efallai bydd myfyriwr yn arsylwi neu’n ymarfer effeithiolrwydd sgiliau TG yn y lleoliad proffesiynol ac ymarferol. |
| Personal Development and Career planning | Mae’r lleoliadau yn amrywiol ac yn cwmpasu ystod eang o sgiliau a phrofiad. Mae’r modiwl hwn yn cynorthwyo myfyrwyr i ystyried eu sgiliau eu hunain yng nghyd-destun y lleoliad cymhwysol. Mae’r lleoliad hwn yn rhoi’r cyfle i baratoi, neu gynllunio ar gyfer, llwybrau gyrfa’r dyfodol a llwybrau cynnydd. |
| Problem solving | Mae’r lleoliadau yn amrywiol ac yn cwmpasu ystod eang o sgiliau a phrofiad. Yn ystod y lleoliad disgwylir i’r myfyrwyr weld esiamplau o ddatrys problemau yn y lleoliad cymhwysol; gall hyn gynnwys adnabod problemau, gwerthuso atebion posib, meithrin gwydnwch wrth wynebu problemau, neu feddwl creadigol wrth ddatrys problemau. |
| Research skills | Mae’r lleoliadau yn amrywiol ac yn cwmpasu ystod eang o sgiliau a phrofiad. Yn ystod y lleoliad, disgwylir i’r myfyrwyr weld esiamplau o ddefnyddio dulliau ymchwil yn y lleoliad cymhwysol a myfyrio ar eu sgiliau. |
| Subject Specific Skills | Mae’r lleoliadau yn amrywiol ac yn cwmpasu ystod eang o sgiliau a phrofiad. Yn ystod y modiwl hwn, bydd y myfyriwr yn deall ac yn rhoi eu gwybodaeth am seicoleg ar waith yn y lleoliad cymhwysol. Bydd myfyrwyr yn cael blas ar ymarfer proffesiynol a moesegol mewn sawl cyd-destun amrywiol. |
| Team work | Mae’r lleoliadau yn amrywiol ac yn cwmpasu ystod eang o sgiliau a phrofiad. Yn ystod y lleoliad, bydd y myfyrwyr yn cael blas ar ddeinameg grŵp, amcanion grŵp, a’u cyfraniad eu hunain i waith tîm effeithiol. |
Notes
This module is at CQFW Level 5
Psychology,Aberystwyth University, Penbryn 5, Penglais Campus, Penglais, Aberystwyth,
01970 628444 : +44 : +44 (0)1970 622021
psychology@aber.ac.uk: psychology@aber.ac.uk
